Yr ymateb i lythyr Lesley Griffiths dyddiedig 29 Hydref 2017.

Lesley Griffiths AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Llywodraeth Cymru

3 Tachwedd, 2017

Annwyl Lesley Griffiths,

Nodyn Cyngor Technegol 20 (Hydref 2017)

Diolch i chi am eich llythyr dyddiedig 29 Hydref mewn perthynas â’r uchod.

Rydym yn anghytuno’n llwyr ar hyn sydd yn eich llythyr.

Mae’n sefyll i reswm y dylid ystyried effaith ar y Gymraeg wrth lunio Cynllun Datblygu Lleol, ond dylid hefyd ystyried effaith ceisiadau cynllunio unigol ar y Gymraeg oherwydd nid yw holl fanylion datblygiadau tai arfaethedig wedi’u cynnwys mewn Cynllun Datblygu Lleol. Hefyd, gan fod Cynllun Datblygu Lleol dros gyfnod o bymtheng mlynedd, mae bwlch amser rhwng yr adeg y gwneir asesiad effaith ieithyddol (fel rhan o Arfarniad o Gynaliadwyedd) wrth lunio Cynllun Datblygu Lleol a’r adeg pan fo ceisiadau cynllunio unigol yn cael eu cyflwyno. Mae sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol yn gallu newid mewn cyfnod byr, felly mae’n hanfodol bod gan awdurdodau cynllunio lleol yr hawl i wneud asesiad o effaith ceisiadau cynllunio unigol ar yr iaith.

Mae Deddf Gynllunio Gwlad a Thref 1990 (o’i diwygio o ganlyniad i basio Deddf Gynllunio (Cymru) 2015) yn gwbl glir ar y mater. Mae’r cymalau’n cyfeirio’n benodol at geisiadau cynllunio unigol. Rydym wedi amlygu’r geiriau application ac applications:

70 Determination of applications: general considerations.

 (1) Where an application is made to a local planning authority for planning permission –
F1(a) subject to sections 91 and 92, they may grant planning permission, either unconditionally or subject to such conditions as they think fit; (aa) any considerations relating to the use of the Welsh language, as far as material to the application, or
F1(b) they may refuse planning permission.

(2) in dealing with such an application the authority shall have regard to the provisions of the development plan, so far as material to the application, and to any other material considerations.

Yn eich llythyr atom, rydych yn dyfynnu’r cymalau sy’n dilyn yr uchod yn y ddeddf, sef

The amendments made by this section do not alter –
(a) Whether regard is to be had to any particular consideration under subsction (2) of TCPA 1990, or
(b  The weight to be given to any consideration to which regard is had under that subsection.
                               

Rydych yn defnyddio’r cymalau hyn fel dadl dros beidio ag ystyried effaith y Gymraeg wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio ar diroedd sydd wedi’u dynodi mewn Cynllun Datblygu Lleol. Fodd bynnag, nid yw’r cymalau a ddyfynnir gennych yn mynd yn groes i’r egwyddor fod gan awdurdodau cynllunio lleol hawl statudol i ystyried effaith ar y Gymraeg wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio boed y tu mewn neu’r tu allan i derfynau Cynllun Datblygu Lleol. Nid yw’r cymalau mewn unrhyw fodd yn cyfyngu gweithrediad yr hawl hon i’r broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol ac ymdrin â datblygiadau mawr y tu allan i derfynau Cynllun Datblygu Lleol.  

Gan eich bod yn mynnu bod Nodyn Cyngor Technegol 20 yn gyson â hyn sydd yn y ddeddf ac nad oes camgymeriad wedi’i wneud, ni ellir osgoi dod i’r casgliad bod yma gamddehongli bwriadol er mwyn gosod rhwystr ar gynghorau sir trwy gyfyngu ar eu gallu i warchod y Gymraeg o fewn y gyfundrefn gynllunio.

Mae eich ateb yn gwbl anfoddhaol ac annerbyniol, a phwyswn arnoch i ailystyried y mater.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Yn gywir,

Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith)
Ruth Richards (Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith)
Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)
Dr Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)

ar ran Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn

cc
Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg