Yr Ymateb i lythyr Lesley Griffiths, dyddiedig 16 Tachwedd 2017

Lesley Griffiths AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Llywodraeth Cymru

20 Tachwedd, 2017

Annwyl Lesley Griffiths,

Nodyn Cyngor Technegol 20 (Hydref 2017)

Diolch i chi am eich llythyr dyddiedig 16 Tachwedd yn ymateb i’n llythyr dyddiedig 3 Tachwedd. Ynddo, rydych yn dweud bod eich Gwasanaethau Cyfreithiol wedi datgan bod y NCT 20 newydd yn unol â darpariaethau’r ddeddfwriaeth bresennol.

Rydym yn hynod siomedig yn eich ymateb. Yn wir, mae’n anhygoel nad ydych chi na’ch Gwasanaethau Cyfreithiol yn gallu gweld yr anghysondeb sydd mor amlwg i ni ac i eraill sydd â diddordeb yn y mater hwn gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg a’r bargyfreithiwr Gwion Lewis (atodwn gopi o’i sylwadau a gyhoeddwyd yn rhifyn Tachwedd o’r cylchgrawn Barn).

Mae’n ymddangos bod eich Gwasanaethau Cyfreithiol wedi gwneud camgymeriad ac o’r herwydd wedi eich cam-gynghori.

Dymunwn wneud cwyn ffurfiol, a gofynnwn i chi ein cyfarwyddo mewn perthynas â’r weithdrefn briodol.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Yn gywir,

Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith)
Ruth Richards (Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith)                                                            Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)                                                          Dr Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)

ar ran Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn

cc

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Siân Gwenllian AC
Llyr Huws Gruffydd AC
Rhun ap Iorwerth AC
Simon Thomas AC
Adam Price AC
Leanne Wood AC