Y Nodyn Cyngor Technegol 20 newydd

 

http://gov.wales/docs/desh/publications/171012technical-advice-note-20-planning-and-the-welsh-language-cy.pdf

Datganiad Cylch yr Iaith   13 Hydref 2017

‘Ar ôl aros cyhyd amdano – er 2013 – mae’r Nodyn Cyngor Technegol 20 newydd, y canllawiau i gynghorau sir sut i ymdrin a’r Gymraeg mewn cynllunio gwlad a thref, yn hynod siomedig. Yn wir, mae’n warthus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu’r sylwadau a gyflwynwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, y mudiadau iaith ac ACau Plaid Cymru yn ystod yr ymgynghoriad. Mae’r ddogfen yn dweud na ddylid cynnal asesiadau effaith ieithyddol ar geisiadau cynllunio (ac eithrio’r ychydig ‘geisiadau ar hap’ ar diroedd heb eu dynodi o fewn Cynllun Datblygu Lleol). Y rheswm a roddir yw fod asesiad effaith ieithyddol fel rhan o’r Arfarniad o Gynaliadwyedd a ddarperir wrth lunio Cynllun Datblygu Lleol yn ddigonol.

Hynny yw, os ydi datblygiad arfaethedig wedi ei gynnwys mewn Cynllun Datblygu Lleol, yna yn ol y NCT20 mae ei effaith ieithyddol wedi ei asesu, ac felly pan ddaw’r cais cynllunio gerbron mae’r ffaith ei fod wedi ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol yn rhagfarnu o’i blaid o ran ei effaith ar y Gymraeg. Fel ag o’r blaen, nid yw’n ofyniad statudol ar awdurdodau cynllunio lleol i fynnu bod datblygwyr yn darparu asesiad ardrawiad ieithyddol neu ddatganiad effaith cymunedol ac ieithyddol fel rhan o’u cais cynllunio.

Mae hyn yn gamddehongliad difrifol o ddarpariaethau iaith Deddf Gynllunio (Cymru) 2015. Nid yw’r ddeddf yn cyfyngu asesiadau effaith ieithyddol i Gynllun Datblygu Lleol yn unig. Mae’r NCT20 ddiweddaraf hwn yn gwbl annerbyniol. Mae’n gwbl amlwg y dylid rhoi sylw manwl a phenodol i effaith ceisiadau cynllunio unigol ar y Gymraeg pan gânt eu cyflwyno, a hynny oherwydd nad yw manylion datblygiadau arfaethedig o fewn y Cynllun Adneuo; hefyd, mae sefyllfa’r Gymraeg yn gallu newid dros gyfnod Cynllun Datblygu Lleol.”

 

PWYLLGOR YMGYRCH TAI A CHYNLLUNIO GWYNEDD A MÔN

18 Hydref 2017

Annwyl Gyfeillion,

Daeth yn amlwg bod Llywodraeth Cymru yn gosod rhwystrau fel nad yw’r gyfundrefn gynllunio yn cyfrannu fel y gallai ac dylai i warchod ac atgyfnerthu’r Gymraeg. Mae’r ffaith fod y Nodyn Cyngor Technegol 20 newydd – y canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer ymdrin â’r Gymraeg – yn camddehongli darpariaethau iaith Deddf Gynllunio (Cymru) 2015 yn brawf o hynny.

Dyma, isod, gopi o lythyr rydym wedi ei anfon at aelodau Cyngor Gwynedd.

I sylw Aelodau Cyngor Gwynedd

Annwyl Gynghorwyr,

Nodyn Cyngor Technegol 20: Cynllunio a’r Gymraeg

Ar ôl aros cyhyd amdano – er 2013 – mae’r Nodyn Cyngor Technegol 20 newydd yn hynod siomedig. Yn wir, mae’n warth. Mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu’r sylwadau a gyflwynwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, y mudiadau iaith ac ACau Plaid Cymru yn ystod yr ymgynghoriad.

Mae’r ddogfen yn dweud na ddylid cynnal asesiadau effaith ieithyddol ar geisiadau cynllunio (ac eithrio’r ychydig ‘geisiadau ar hap’ ar diroedd heb eu dynodi o fewn Cynllun Datblygu Lleol). Y rheswm a roddir yw bod asesiad effaith ieithyydol fel rhan o’r Arfarniad o Gynaliadwyedd a ddarperir wrth lunio Cynllun Datblygu Lleol yn ddigonol. Mae hyn yn gamddehongliad difrifol o ddarpariaethau iaith Deddf Gynllunio (Cymru) 2015. Nid yw’r ddeddf yn cyfyngu asesiadau effaith ieithyddol i Gynllun Datblygu Lleol yn unig.

Mae hyn yn gwbl annerbyniol oherwydd, fel y gwyddoch, dylid rhoi sylw manwl a phenodol i effaith datblygiadau arfaethedig unigol ar y Gymraeg pan fo’r ceisiadau cynllunio yn cael eu cyflwyno, a hynny oherwydd nad yw manylion datblygiadau arfaethedig o fewn y Cynllun Adneuo. Hefyd, mae sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau yn gallu newid dros gyfnod Cynllun Datblygu Lleol.

Byddwn yn tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y camddehongliad difrifol hwn o’r hyn sydd yn Neddf Gynllunio (Cymru) 2015, ac yn galw am gywiro’n ddiymdroi y diffyg yn y NCT20 newydd. Byddem yn falch iawn pe bai Cyngor Gwynedd yn gwneud yr un modd.

Yn gywir,

 

Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith)
Ruth Richards (Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith)
Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)
Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)

______________________________

Lesley Griffiths AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Llywodraeth Cymru

21 Hydref, 2017

Annwyl Lesley Griffiths,

Nodyn Cyngor Technegol 20 (Hydref 2017)

Rydym yn anfon atoch i fynegi ein syndod a’n gresyndod o ganfod bod camgymeriad dybryd yn y Nodyn Cyngor Technegol 20 diweddar sydd newydd ei gyhoeddi gennych.

Fel y gwyddoch, mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 wedi ei haddasu o ganlyniad i Ddeddf Gynllunio (Cymru) 2015. Nodwn yma y darpariaethau iaith fel y maent yn ymddangos fel rhan o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990:

 70 Determination of applications: general considerations.

(1)Where an application is made to a local planning authority for planning permission –
F1(a) subject to sections 91 and 92, they may grant planning permission, either unconditionally or subject to such conditions as they think fit; (aa) any considerations relating to the use of the Welsh language, as far as material to the application, or
F1(b) they may refuse planning permission.

 (2) in dealing with such an application the authority shall have regard to the provisions of the development plant, so far as material to the application, and to any other material considerations.

Fel y gwelwch, mae’r ddeddfwriaeth yn sefydlu’r Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol, ac mae’r cymalau uchod yn cadarnhau y gellir trin y Gymraeg fel ystyriaeth wrth ystyried ceisiadau cynllunio unigol. Mae’r darpariaethau iaith yn y ddeddf yn amlwg yn ymwneud â cheisiadau cynllunio unigol, ac nid oes unrhyw amodau wedi eu gosod sy’n nodi o dan ba amgylchiadau y dylid trin y Gymraeg fel ystyriaeth. Nid oes unrhyw gyfyngiad yn y ddeddf.

Fodd bynnag, mae’r Nodyn Cyngor Technegol 20 newydd yn gosod amodau nad ydynt yn y ddeddf. Nodwn isod y ddau baragraff perthnasol:

3.1.3 Ni ddylid fel rheol gynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu gwaith yr AoG (Arfarniad o Gynaliadwyedd) a phrosesau dewis safleoedd y CDLl (Cynllun Datblygu Lleol).Cyhyd â bod yr AoG wedi ystyried y Gymraeg, ni fyddai asesu’r effaith yn ystod y broses ymgeisio yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth bellach na’r hyn oedd ar gael wrth baratoi’r CDLl. Fe amlinellir yr unig eithriad i’r rheol hon isod.

 3.2.2. Dylid asesu ceisiadau i ddatblygiadau safleoedd ar hap yn erbyn strategaeth a pholisïau cynllun datblygu wedi ei fabwysiadu, a chan roi ystyriaeth i bolisïau cenedlaethol priodol. Pan fydd ACLl yn derbyn cais am ddatblygiad mawr ar safle ar hap o fewn ardal wedi ei diffinio fel un ieithyddol sensitif neu arwyddocaol gellid cynnal asesiad o effaith debygol y datblygiad ar y Gymraeg.

Mae’n amlwg nad yw’r paragraffau uchod yn adlewyrchu’r hyn sydd yn y ddeddf. Maent yn gosod cyfyngiadau heb sail cyfreithiol iddynt, a hynny trwy gyfarwyddo awdurdodau cynllunio lleol i beidio â thrin y Gymraeg fel ystyriaeth wrth ystyried ceisiadau cynllunio unigol oni bai eu bod yn geisiadau am ddatblygiadau mawr ar hap, sef datblygiadau mawr ar diroedd y tu allan i derfynau Cynllun Datblygu Lleol.

Rydym yn siŵr y cytunwch â ni y dylai’r Nodyn Cyngor Technegol 20 fod yn gyson â’r hyn sydd yn y ddeddf. Gofynnwn i chi ei dynnu’n ôl a chywiro’r camgymeriad.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Yn gywir,

Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith)
Ruth Richards (Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith)
Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)
Dr Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)

ar ran Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn

cc
Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

 

Ateb Lesley Griffiths i’r llythyr dyddiedig 21 Hydref 2017 gan Ieuan Wyn ar ran y Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn.

Yr ymateb i lythyr Lesley Griffiths dyddiedig 29 Hydref 2017.

Erthygl Gwion Lewis yn Barn, Tachwedd 2017

Ateb Lesley Griffiths i’r llythyr dyddiedig 3 Tachwedd 2017

Yr ymateb i lythyr Lesley Griffiths dyddiedig 16 Tachwedd 2017

Cwyn ffurfiol, dyddiedig 8 Rhagfyr 2017

Ymateb i’r gwyn, 20 Rhagfyr 2017