Y Cwricwlwm Hanes

Cyfarfod rhwng dirprwyaeth Ymgyrch Hanes Cymru â Llyr Gruffydd AC yn Rhuthun – 27 Ionawr 2017

Cefndir

Yr hyn a ysgogodd yr ymgyrch oedd adroddiad tasglu dan gadeiryddiaeth Dr Elin Jones Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru (Medi 2013) a ddangosodd pa mor annigonol yw lle hanes Cymru oddi mewn i’r cwricwlwm. Mae tystiolaeth anecdotal a sawl ffynhonnell yn awgrymu’n gryf nad oes newid cadarnhaol ers hynny. Yn wir, mae lle i bryderu bod y sefyllfa wedi gwaethygu e.e. datganiad gan RHAG (Hydref 2014) bod nifer cynyddol o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg bellach yn defnyddio adnodd a elwir Conglfeini /Cornerstones, adnodd a gynlluniwyd yn y lle cyntaf i ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn Lloegr. Yn ôl RHAG, “Mae’r pecynnau hyn wedi’u teilwra tuag at farchnad ysgolion Lloegr. Ethos Seisnig Cwricwlwm Lloegr yw craidd y pecyn, ac mae’n anaddas i ysgolion Cymru. Er bod peth cyfeirio at hanes Cymru, mae’r pwyslais ar orsedd Lloegr ac arferion Lloegr”.

Adroddiad Donaldson a Dyfodol Llwyddiannus

Tra’n croesawu’r penderfyniad i gyflwyno cwricwlwm unigryw i Gymru, nid oes digon o bwyslais ar egluro ac enghreifftio beth a olygir gan y datganiad y dylai pob un o’r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad gynnwys dimensiwn Cymreig. Ymddengys bod Donaldson fel pe byddai’n ystyried y dimensiwn Cymreig yn nhermau iaith a diwylliant yn unig.

Cynllun Gweithredu Cwricwlwm i Gymru, Cwricwlwm am Oes

Mae bwriad i symud o’r cwricwlwm presennol i’r cwricwlwm Cymreig newydd fel y bydd y fframwaith ar gael i ysgolion erbyn Medi 2018 ac y bydd yn cael ei ddefnyddio gan pob ysgol erbyn Medi 2021. Deallwn y bydd gan yr Ysgolion Arloesi ran allweddol yn natblygiad y cwricwlwm newydd.

Gofynion Ymgyrch Hanes Cymru

  • dylai’r profiad Cymreig fod yn ganolog i bob Maes Dysgu a Phrofiad
  • sicrhau bod hanes cenedlaethol Cymru yn greiddiol a hanfodol yn y rhaglenni astudio a’r manylebau
  • sicrhau bod pob disgybl yn dysgu am y datblygiadau allweddol yn natblygiad hunaniaeth cenedl y Cymry a bod cyfnodau hanes yn cael eu diffinio yn nhermau Cymru ac nid rhai Prydeinig e.e. Cyfnod y Brythoniaid, Sefydlu Cristnogaeth, y Brenhinoedd a’r Tywysogion Cymreig, Cymru mewn cyfnod o wrthdaro a newid c1500-1750 ac ati.
  • sicrhau bod fersiynau Cymraeg a fersiynau Saesneg yr holl adnoddau dysgu (aml-gyfrwng) yn cael eu darparu ar yr un pryd fel y byddant ar gael i ysgolion cyn cyflwyno’r rhaglenni astudio newydd

Cwestiynau

  • Pa ysgolion arloesi sy’n gyfrifol am ddatblygu’r cwricwlwm hanes?
  • Pa gyfarwyddyd ac arweiniad a roddwyd iddynt ar gyfer sicrhau bod lle creiddiol i hanes Cymru yn eu hargymhellion?
  • I bwy, a phryd, y bydd yr ysgolion arloesi yn cyflwyno eu hargymhellion?
  • Pa drefniadau sydd ar gyfer ymgynghori ar yr argymhellion hyn fel bod gan athrawon, ysgolion a’r cyhoedd y cyfle i fynegi barn ar yr argymhellion?
  • A oes cyfleoedd gan gyrff, cymdeithasau a’r cyhoedd i ddylanwadu ar y cynnwys?
  • A oes bwriad i gyflwyno’r argymhellion gerbron y Cynulliad fel bod cyfle am drafodaeth gyhoeddus ac atebolrwydd democrataidd?
  • Pa drefniadau sydd i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael yn y Gymraeg i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn effeithiol?
  • A oes trefniadau ar gyfer monitro’r sylw a roddir i hanes Cymru yn ysgolion Cymru wedi i’r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno?

Manylebau TGAU a Safon Uwch

Er bod elfennau o hanes Cymru yn rhan orfodol o’r manylebau, mae strwythur y manylebau (yn arbennig ar gyfer TGAU) yn trin hanes Cymru fel ychwanegiad atodol yn hytrach na bod y manylebau wedi eu cynllunio gyda’r profiad Cymreig yn ganolog iddynt.