Y Canllaw Cynllunio Atodol – Cynllunio a’r Iaith Gymraeg

Ymateb Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn (Cylch yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg) i adolygiad Cyngor Gwynedd o’r Canllaw Cynllunio Atodol – Cynllunio a’r Iaith Gymraeg

Gwerthfawrogwn y cyfle i gyfranogi yn yr adolygiad o’r Canllaw Cynllunio Atodol – Cynllunio a’r Iaith Gymraeg, a hyderwn y bydd ein sylwadau yn cyfrannu i’w gryfhau a thrwy hynny ei wneud yn fwy effeithiol yn ei amcan o ddiogelu’r Gymraeg.

Hoffem yn y lle cyntaf nodi’r hyn y credwn y dylai’r Canllaw Cynllunio Atodol newydd ei bwysleisio ar y cychwyn un, sef:

  • Pwysigrwydd allweddol Gwynedd fel cadarnle cryfaf y Gymraeg a’r angen am bolisïau penodol i warchod ei nodweddion unigryw ac i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r iaith.
  • Amcanion strategaethau perthnasol i gryfhau’r iaith, gan gynnwys
    • Strategaeth Iaith Gwynedd 2014-2017 sy’n amcanu at sicrhau cynnydd o 5% yng nghanran y boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg erbyn 2021.
    • Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn amcanu at gynyddu nifer y cymunedau sydd â 70% a throsodd o’u poblogaeth yn medru’r Gymraeg.
    • Llywodraeth Cymru yn anelu at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
    • Nodyn Cyngor Technegol 20 yn seiliedig ar ddarpariaethau iaith Deddf Gynllunio (Cymru) 2015.
  • Yr angen i bob datblygiad arfaethedig gael ei arfarnu yn ôl pa mor gydnaws yw â’r amcanion uchod. Dylid sicrhau felly fod pob datblygiad dan sylw naill ai’n cyfrannu’n gadarnhaol at wireddu’r amcanion neu, o leiaf, na fyddai ar unrhyw gyfrif yn llesteirio’r ymdrechion i’w cyflawni.

O ran y cwestiynau penodol ar y ffurflen, ni ellir, yn ein barn ni, ymateb yn ystyrlon iddynt yn yr adolygiad o’r Canllaw Cynllunio Atodol – Cynllunio a’r Iaith Gymraeg cyfredol heb wybod i ba raddau y mae’r canllaw wedi llwyddo ers pan ddaeth yn weithredol yn 2009. Ni ellir ei adolygu cyn cynnal asesiad ieithyddol o’r datblygiadau o 2009 hyd heddiw, er mwyn canfod a yw’r fersiwn cyfredol o’r canllaw wedi cyfrannu i ddiogelu, hyrwyddo ac atgyfnerthu’r Gymraeg. Dylid bod wedi gwneud asesiad o’r fath cyn adolygu’r Canllaw.

Er 2011, cyflwynwyd 75 o Ddatganiadau Cymunedol ac Ieithyddol gan ddatblygwyr i gefnogi eu ceisiadau cynllunio, ac nid oedd yr un o’r datganiadau yn dod i’r casgliad y byddai’r datblygiad dan sylw yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg. Arfarnwyd y datganiadau hyn gan yr Awdurdod Cynllunio, a chafodd pob un ei gymeradwyo. Cyfeiriwn yn benodol at ddau ddatblygiad arfaethedig, sef y cais cynllunio i godi 69 o dai yng Nghoetmor (cymdogaeth o oddeutu 140 o dai), Bethesda, a’r cais cynllunio i godi 366 o dai ym Mhen-y-ffridd, Penrhosgarnedd, Bangor. Yn y naill achos a’r llall, roedd y Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol o’r farn na fyddai’r Gymraeg yn cael ei niweidio, a chawsant eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio. Fodd bynnag, mae asesiadau effaith ieithyddol gan ymgynghoriaeth iaith Hanfod o’r datblygiadau hyn yn dod i gasgliad cwbl wahanol, sef y byddent yn debygol o niweidio sefyllfa’r Gymraeg.

Mae’n amlwg bod sefyllfa o’r fath yn gwbl anfoddhaol, ac y dylid gwneud newidiadau sylfaenol i’r Canllaw cyfredol. Rydym yn argymell y newidiadau canlynol:

  1. Rhoi’r gorau i ddefnyddio Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol, a’i gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ddarparu Asesiad Effaith Ieithyddol yn yr achosion lle bo Datganiad yn ofynnol ar hyn o bryd. Mae’r dystiolaeth y cyfeirir ati uchod yn dangos nad yw’r Datganiad yn ddigonol ac nad yw’n cyflawni ei waith yn briodol.
  2. Ei bod yn ofynnol i Asesiad Effaith Ieithyddol gael ei gynhyrchu gan rai sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth o’r maes.
  3. Ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod Cynllunio sicrhau bod yr Asesiad Effaith Ieithyddol yn cael ei arfarnu gan rai sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth o’r maes.
  4. Bod ymgynghori gyda chynghorau cymuned, mentrau iaith a mudiadau iaith yn rhan allweddol o Asesiad Effaith Ieithyddol.

Ieuan Wyn
Dr Simon Brooks
Geraint Jones
Dr Menna Machreth
ar ran Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn