Utgorn

Utgorn Cymru 79

  • crynodeb byr o Galendr y Ganolfan gan Dawi Griffiths
  • sylwadau treiddgar, dadlennol a beirniadol Geraint Jones, yn ei gyfres Sêt y Gornel, ar y ddefod gadeiriol enwocaf yn holl hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru – Penbedw, 1917
  • darlleniad cyfareddol yr enwog W.H. Roberts o ran o Ddyddiau Mebyd W.J. Gruffydd
  • cipolwg W.J. Edwards ar dudalennau o dyddiadur hynod ddiddorol Owen Thomas, Llanuwchllyn yn 1892: Tori rhonc, saer maen, clochydd a thorrwr beddau
  • rhai rhesymau dros enwi caeau yn y dyddiau a fu mewn sgwrs ddifyr gan y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones
  • J. Elwyn Hughes, pen hanesydd Dyffryn Ogwen, yn adrodd stori dynes ryfedd a sut y daeth o hyd i’w henw iawn.
  • Gwen Gruffudd yn adrodd hanes hynod Ogwennydd, un rhyfedd arall o’r un ardal – ymgreiniwr, Tori a bardd-chwarelwr.
  • cân Ben Jerry a genir gan y diweddar Gwynn Tre-garth yn ei ddull dihafal ei hun

Utgorn Cymru 80