Cyflwynydd: Morgan Jones | |
Mynydd Epynt | GERAINT JONES yn adrodd hanes ysgytwol y diwedd ar fywyd gwâr Mynydd Epynt pryd y cipiodd y Swyddfa Ryfel yn Llundain gartrefi 219 o bobl a phlant 80 mlynedd yn ôl i eleni. |
O.M. Edwards | DAWI GRIFFITHS yn parhau â’i sgwrs ar achlysur canmlwyddiant marw O.M. Edwards yn 1920: yn fyfyriwr yn Rhydychen; yn teithio’r cyfandir a’r ysgrifennu a’r cyhoeddi toreithiog a ddigwyddodd yn ei hanes wedyn. |
Nennius | DAFYDD GLYN JONES yn parhau â’i ddarlith gyfoethog ar Nennius, yr hanesydd cynnar, cynnar yn ein hanes. Yma mae ar drywydd tri o enwogion Cymreig: Maelgwn Gwynedd, y Brenin Arthur a Gwrtheyrn. |
Dau Ieuan Gwynedd | JINA GWYRFAI, Ysgrifennydd Utgorn Cymru, yn sôn am yr Ieuan Gwynedd a fu’n gwrthwynebu’n gryf Frad y Llyfrau Gleision ac a fu’n gyfrifol am gyhoeddi cylchgrawn cyntaf merched Cymru. Ac am yr Athro Hanes Cymru o’r un enw a fu farw bron yn 98 oed yn 2018, a weddnewidiodd y pwnc, yn cynnwys anghyfiawnder Brad y Llyfrau Gleision. |
Canu Protest y 1960au (2) | DAFYDD IWAN yn parhau â’i draethiad difyr am ganu protest y 1960au. |
Utgorn 102, Haf 2020
Cyflwynydd: Morgan Jones | |
O.M. Edwards (1) | DAWI GRIFFITHS yn adrodd hanes cynnar O.M. Edwards, y gŵr a roddodd mor hael i Gymru. |
Coed Eifionydd | MARGIAD ROBERTS yn tynnu sylw at nifer rhyfeddol o enwau llefydd yn Eifionydd sydd yn deillio o enwau’r fedwen, y wernen, yr onnen, y gelynnen, yr helygen, y dderwen, y gollen a’r pren. |
Diolch, Marian | Rhai o gydweithwyr y Ganolfan — GERAINT JONES, DAWI a BERYL GRIFFITHS — yn diolch i’r Ysgrifennydd a’r Prifardd IEUAN WYN yn adrodd ei englynion gorchestol iddi. |
Nennius (1) | DAFYDD GLYN JONESyn ei ffordd ddihafal yn ein goleuo ar wir arwyddocâd y llyfr cyntaf un o hanes y Brythoniaid a ysgrifennwyd dan yr enw Nennius tua’r flwyddyn 830. |
Canu Protest y 1960au (1) | DAFYDD IWAN yn ein hatgoffa am ran o symudiad gwirioneddol bwysig yn hanes Cymru. |
Utgorn 101, Gaeaf 2020
Cyflwynydd: Morgan Jones | |
Corona i’r Cymry | GERAINT JONES yn adrodd stori ddifyr am fusnes llewyrchus yn y fasnach ddiod heb unrhyw feirws yn perthyn iddo. |
Cofio Merêd (2) | Ail ran y noson arbennig honno yng ngofal ARFON a SIONED GWILYM a MAIR TOMOS IFANS a gafwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai i gofio canmlwyddiant geni y canwr a’r casgwr alawon annwyl, Meredydd Evans, sy’n dangos y cyfoeth syfrdanol yn ein cynhysgaeth gerddorol. |
Thomas Jones o Ddinbych | DAWI GRIFFITHS yn cofio 200mlwyddiant marw un o wŷr mawr Cymru, sef y diwinydd a’r pregethwr, y bardd a’r emynydd galluog a’r awdur toreithiog, Thomas Jones o Ddinbych. Bu ef a’i gyfaill mawr, Thomas Charles o’r Bala, yn ddylanwad aruthrol o fewn enwad y Methodistiaid Calfinaidd. |
O fy Iesu bendigedig | Yr Athro E. WYN JAMES yn dadansoddi’n ddiddorol emyn mawr Eben Fardd a genir gan y gynulleidfa ar y diwedd. |
|