Pan gaewyd Swyddfa’r Post Llanwnda ddiwedd Tachwedd 2008 daeth i ben fywoliaeth pedwaredd genhedlaeth y teulu presennol.
Costrelir yr hanes yn ddifyr yn y llyfryn hwn gan Aelwen Roberts.
Mae’n cynnwys nifer o luniau ac fe’i cysodwyd gan Ifor Williams, Llanfaglan. Cyhoeddwyd ar y chweched o Ragfyr 2008.
Pris £4 yn y Ganolfan neu £5 trwy’r post. 40 tudalen