Neges Howard Huws at Aelodau Plaid Cymru Cyngor Gwynedd

24 Gorffennaf 2017

Annwyl Gynghorydd,
 
Fel un sydd yn ymgyrchu yn erbyn bwriad cwmni Morbaine i godi 366 o dai yma ym Mhen-y-ffridd, Bangor, hoffwn yrru gair atoch ynghylch cyfarfod arbennig y Cyngor llawn ar 28 Gorffennaf lle y cyflwynir i’ch ystyriaeth fersiwn terfynol Cynllun Datblygu ar y Cyd Gwynedd a Môn. Hwn fydd y cyfarfod mwyaf tyngedfennol yn hanes Cyngor Gwynedd oherwydd mae dyfodol ein cymunedau a’n hiaith yn y fantol.
 
Mae’r sefyllfa ym Mhen-y-ffridd wedi codi oherwydd i Gyngor Gwynedd, yn ei Gynllun Datblygu blaenorol, ddynodi’r tir yma ar gyfer datblygu preswyl. Gyda pherchnogion tir yn awyddus i werthu am bris mawr, a chwmnïau datblygu yn chwilio am dir i’w ddatblygu, roedd y penderfyniad hwn i ddynodi’r tir cystal â gwahodd Morbaine i ymgeisio am ganiatâd cynllunio ar gyfer cynifer o dai ag y gallent eu codi yma.
 
Y mae’r gymuned leol wedi gwrthwynebu hynny; mae Cyngor Dinas Bangor wedi gwrthwynebu, ac y mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi gwrthwynebu: ond yn ofer, oherwydd golyga’r dynodiad fod modd i’r datblygwyr fynd â’r mater allan o ddwylo’r Awdurdod Cynllunio ac i ddwylo’r Arolygiaeth Gynllunio a Llywodraeth Cymru. Bellach, yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths (Llafur), sydd i benderfynu ar hyn.
 
Nid un Pen-y-ffridd y byddwn yn ei wynebu oni newidir y Cynllun Datblygu newydd, ond degau ohonynt. Nid yw’r Cynllun yn diogelu ein cymunedau i raddau digonol: yn hytrach, mae’n eu hagor i’r un fath o ddatblygu diangen ag a welir ym Mhen-y-ffridd. Na’ch twyller: os cymeradwyir y Cynllun Datblygu newydd fel y mae ar hyn o bryd, bydd Cynghorau Gwynedd a Môn yn gyrru arwydd yn gwahodd pob Morbaine, pob datblygwr, i gyflwyno ceisiadau cynllunio, ac ni fydd modd eu hatal. Os byddai’r Pwyllgorau Cynllunio neu hyd yn oed yr Awdurdodau Cynllunio yn eu gwrthwynebu, byddai bodolaeth y Cynllun Datblygu yn drwydded iddynt apelio at yr Arolygiaeth Gynllunio, ac yna at Weinidogion Llywodraeth Cymru. Ni fyddai unrhyw Ganllaw Cynllunio atodol o gymorth, gan mai ategu polisïau Cynllun Datblygu Lleol yw ei ddiben.
  
Dylai ein gorffennol diweddar fod yn wers inni yn hwn o beth, felly caniatewch imi eich atgoffa o’r hyn a ysgrifennodd Clive Betts yn ôl ym 1976, gyda golwg ar Ynys Môn. Wedi trafod y cwymp sylweddol yng nghanran siaradwyr Cymraeg cymunedau glannau Môn rhwng 1961 a 1971 oherwydd gorddatblygu pentrefi fel Benllech a Rhosneigr, dywed:
 
                “…the fall can be blamed mostly on a substantial influx of non-Welsh speakers…and it is the building of  estates….which has resulted in a 21 per cent fall in Welsh speakers and put the old language in a minority
position…At its public examination, the county council told of the pressures on the county from outsiders wishing to buy land for holiday or retirement homes, pressures accentuated by the lack of building land elsewhere and
its abundance on Anglesey. Rather alamingly, they said that it was only the size of the island’s building industry that had restricted the growth to the present amount.”
(Betts, C. Culture in Crisis. Upton: The Ffynnon Press, 1975, tt.44-45).
 
Ymhellach:         
 
                  “The extent of the fears was revealed at the public enquiry into the plan when [Gwynedd] county
council said that the modernisation of the A55 coast road, 
 plus the building of the Dee Barrage, would put Anglesey in the Liverpool commuter belt, a factor already playing havoc in Clwyd…as elsewhere, too much land had been allocated for building, and too many planning applications granted, with the result that contractors had been attracted from far afield.”
          (ibid.)
 
Hynny yw, y mae gorddarparu tir datblygu neu ganiatadau cynllunio yn creu gwagle sy’n sugno datblygwyr i mewn i ardal. Yn ardal Aberystwyth, sydd fel Bangor yn dref prifysgol:
 
                “A well-developed process of suburbanisation has been in operation for some time…private housing estates have been grafted on to many of the surrounding villages, which have become commuter settlements, for the patterns apparent in the large cities are repeated in the small towns. But the impact of urban commuters on the cultural and social patterns of the villages is immediate, and the anglicisation which traditionally characterised the towns of Wales is by this means extended into, and occasionally far into, the surrounding countryside.”
(Carter, H., a Bowen, E.G. The Distribution of the Welsh Language in 1971, An Analysis.
The Geographical Journal , October 1974, tt. 432-40, a Geography, January 1975, tt. 1-15.)
 
Ac yng Nghwm Tawe, mae Cyngor Powys wedi sylwi bod trigolion datblygiadau tai newydd yn llai tebygol o fedru ac o ddefnyddio’r Gymraeg, ac o deimlo eu bod yn rhan o’r gymuned:
 
                “Although new development can reinvigorate the community it is also likely to create new pressures for the language and compound the on-going erosion of the language that is taking place.”
 (Powys Local Development Plan. Welsh Language Impact Assessment Of Communities in the Upper Swansea Valley, 2013, t.5.)
 
Fel hyn y dywed Saunders Lewis:
 
                “…oblegid yr iaith yr ydym yn genedl; ac oblegid ein bod ni felly’n genedl y mae hunanlywodraeth yn ddyletswydd arnom. A thrwy gyfrwng yr iaith, trwy ei chodi’n arf boliticaidd yn unig y profir ein hawl a’n hangen am hunanlywodraeth.”
(Tynged Darlith. Barn, Mawrth 1963.)
 
a dyma eiriau’r Athro J. R. Jones:
 
                “Yn gignoeth syml, felly, brwydr yr iaith Gymraeg yw brwydr yr ewyllys i barhau…  Y gwir yw mai un bygythiad i barhad sydd ar ein tiriogaeth ni, sef y bygythiad i barhad y Gymru Gymraeg. Hi yw’r un peth ar ein daear sy’n sefyll yn eglur dan gollfarn marwolaeth oni ddeffroir ynddi’r ewyllys i barhau…Yn ei chylch hi,
ac ynghylch ei hiaith hi, y mae’r frwydr genedlaethol yn bod mewn gwirionedd.   Canys arwahan iddi, ffurfiannol rithiol a fyddai unrhyw endid arall a fedrai gario ei henw a chael Plaid i ddadlau drosti ei bod yn werth ei gwahanu oddi wrth Loegr er mwyn rhoi terfyn ar ei hadfyd economaidd.”
  (Yr Ewyllys i Barhau, tt.13-14, 1968.)      
 
Peidiwch, ychwaith, â thybio bod dal unrhyw swydd neilltuol gyda’r Cyngor yn eich gorfodi i gefnogi Cynllun diffygiol am ei fod yn eiddo i’r Cyngor. Y mae’r Cyngor wedi ei sefydlu er mwyn diogelu ein cymunedau, nid hwythau i wasanaethu dibenion y Cyngor. Gan eich bod chi’n aelod o’r Cyngor yn unswydd er budd eich cymuned, onid dyletswydd arnoch, yn naturiol, yw rhoi’r flaenoriaeth i’w lles hi ac eraill tebyg iddi? Nid oes unrhyw reidrwydd arnoch i geisio cynnal Cynllun diffygiol am fod rhai aelodau a swyddogion Cyngor eraill yn ei gefnogi.
 
Mae Maniffesto Etholiad 2016 Plaid Cymru yn nodi’n eglur y dylai’r Gyfundrefn Gynllunio ddiwallu anghenion lleol. Y mae’n feirniadol iawn o “dafluniadau poblogaeth chwyddedig” y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd fel sail i Gynlluniau Datblygu Lleol, ac yn gwrthwynebu “datblygiadau rhy fawr sy’n bygwth y cydbwysedd ieithyddol mewn Cymunedau Cymraeg.”
 
Gofynnaf felly i chi wrthod y Cynllun Datblygu yn ei ffurf bresennol, er mwyn diogelu cymunedau Cymraeg. Heb y cymunedau hynny, nid oes inni ddim arwahanrwydd, dim hunaniaeth, dim a allai gynnal yr awydd am hunanlywodraeth, nac unrhyw angen plaid i ymgyrchu dros hynny.
 
Yn ddiffuant,
 
Howard Huws.