Moto Ni, Moto Coch

Canmlwyddiant Cwmni Bysus Clynnog a Threfor

gan Geraint Jones

Pobl dau bentref a dwy ardal roddodd fod i gwmni’r Moto Coch ganrif union yn ôl. Os bu pentref cydweithredol erioed yn holl hanes Cymru, pentref Trefor oedd hwnnw, a chofleidiwyd ei athroniaeth gan y pentrefi chwarelyddol cyfagos ym Mro’r Eifl. Ryw hanner canrif cyn ffurfio’r cwmni bysus sefydlwyd Cymdeithas Gydweithredol Gweithwyr yr Eifl â’i siopau, ei iard lo a’i becws. Roedd iddi ganghennau cryfion yng Nghlynnog, Llithfaen a Llanaelhaearn. O’r un cyff, o blith yr un bobl, ac o’r un anian y crëwyd Cwmni Bysus Clynnog a Threfor a ddaeth yn adnabyddus i bawb fel y Moto Coch. Ond i bobl y fro fe’i gelwid, ac fe’i gelwir o hyd, yn Moto Ni, am mai ni a’i piau, ac am mai ein teyrngarwch ni yw sylfaen ddi-sigl ei barhad.

Dyma’i stori – ei orchestion a’i fethiannau, ei lawenydd a’i dristwch, ynghyd â balchder Cymry cyffredin i fod yn berchen ar gwmni llwyddiannus, a chwmni sydd wedi cario’r dydd.

151 tudalen yn cynnwys 68 llun
Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch (2012).