Llythyr diweddaraf un Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn dyddiedig 5 Ionawr 2018

Neil Hemington
Prif Gynllunydd
Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio
Parc Cathays
Caerdydd

5 Ionawr, 2018

Annwyl Neil Hemington,

Eich Cyf. CU-03478-M8FOL7 – cwyn ynglŷn â Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 20: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg (Llywodraeth Cymru, Hydref 2017) 

Diolch i chi am eich llythyr dyddiedig 20 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â’r uchod.

Rydym yn hynod siomedig yn eich ymateb. Nid ydych ond yn ailadrodd ymateb Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, inni yn ystod ein gohebiaeth â hi ar y mater. Roeddem yn cymryd yn ganiataol bod sylwadau’r Gweinidog yn seiliedig ar gyngor y Gyfarwyddiaeth Gynllunio a chyngor y Gwasanaethau Cyfreithiol.

Nid ydych yn cynnig unrhyw wrth-ddadl i ymresymiad ein cwyn, dim ond dweud “Ry’n ni’n fodlon fod NCT 20 yn datgan cyngor cyfreithlon a dilys ac felly nid oes bwriad ei ddiwygio ymhellach.” Mae ateb o’r fath i gŵyn ffurfiol yn gwbl anfoddhaol.

Yn ôl eich llythyr, ymddengys mai chi sy’n darparu ymateb terfynol i’n cwyn, a chyfyd hyn gwestiwn ynglŷn â’r drefn gwyno. Byddem wedi disgwyl  bod pwyllgor cwynion annibynnol yn gyfrifol am ystyried y gŵyn, ac y byddai’n gofyn am ymatebion y Gyfarwyddiaeth  Gynllunio a’r Gwasanaethau Cyfreithiol cyn cloriannu a phenderfynu a oes sail i’r gŵyn.  Bwriadwn wneud ymholiadau pellach mewn perthynas â’r diffyg gwrthrychedd hwn yn y broses.

Yn y cyfamser, gofynnwn i chi ailystyried eich ymateb yng ngoleuni’r canlynol.

Roedd paragraff 4.1.2 yn yr hen NCT 20 (Hydref 2013) yn nodi fel a ganlyn:

Ni ddylid cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu prosesau dewis safleoedd y CDLl lle bo amcanion y CDLl yn nodi bod angen cynnal asesiad o’r fath.

Mae paragraff 3.1.3 yn y NCT 20 newydd (Hydref 2017) yn datgan yr un egwyddor ac yn cyfateb bron air am air:

Ni ddylid fel rheol cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu gwaith yr AoG (Arfarniad o Gynaliadwyedd ) a phrosesau dewis safleoedd y CDLl (Cynllun Datblygu Lleol).

Fel y gwyddoch, bu newid yn y gyfraith rhwng 2013 a 2017 mewn perthynas â’r Gymraeg, gyda Deddf Gynllunio Gwlad a Thref 1990 wedi’i diwygio i gynnwys darpariaethau iaith Deddf Gynllunio (Cymru) 2015. Mae’r darpariaethau iaith yn gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio unigol, ac nid oes unrhyw amodau na chyfyngiadau ar hyn wedi eu gosod yn y ddeddf. Ac eto, nid yw’r fersiwn newydd o NCT 20 yn adlewyrchu hyn. Mae’n gwbl amlwg bod yma ddiffyg y dylid ei gywiro’n ddiymdroi.

I ategu ein safbwynt, anfonwn i’ch sylw sylwadau’r bargyfreithiwr Gwion Lewis, arbenigwr ar statws cyfreithiol y Gymraeg (ar ffurf erthygl a gyhoeddwyd yn rhifyn Tachwedd, 2017 o’r cylchgrawn Barn.)

Ystyriwn yr hyn sydd wedi digwydd yn fater difrifol gan fod y NCT 20 newydd ar ei ffurf bresennol yn amlwg yn rhoi cyngor camarweiniol i awdurdodau cynllunio lleol. Mae gwrthod cywiro’r diffyg yn dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru.

Hoffem wybod gennych eich rhesymau dros honni bod y NCT 20 newydd yn gyson â’r ddeddfwriaeth bresennol. Byddem hefyd yn falch o dderbyn copi o gyngor y Gwasanaethau Cyfreithiol ar y mater.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Yn gywir,

Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith)
Ruth Richards (Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith)
Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)
Dr Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)

ar ran Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn

cc
Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg
Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Siân Gwenllian AC
Llyr Huws Gruffydd AC
Rhun ap Iorwerth AC
Simon Thomas AC
Adam Price AC
Leanne Wood AC