….cylch@tiscali.co.uk
Y Cyng. Dafydd Meurig
Deilydd Portffolio Cynllunio
Cyngor Gwynedd
16 Chwefror, 2017
Annwyl Gyng. Dafydd Meurig,
Parthed: Ymgynghoriad ar Newidiadau sy’n Codi i Gynllun Datblygu Lleol : Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
Cyfeiriwn yn benodol at y ddogfen Arfarniad Cynaladwyedd : Adroddiad Adendwm. Sylwn fod bwriad i ddileu’r cymal canlynol:
(G)Wrthod cynigion fyddai, oherwydd ei faint, raddfa neu leoliad yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned. (Polisi Strategol PS1: Yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig, t. 33)
Fel y gwyddoch, dyma’r cymal yr oedd cwmni Horizon fis Awst diwethaf eisiau i’r cynghorau ei ddileu er mwyn hwyluso caniatâd cynllunio mewn perthynas â datblygiadau arfaethedig cynllun Wylfa Newydd. Bryd hynny, cafwyd datganiad gan y Cyng. Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, yn amddiffyn y cymal ac yn beirniadu cais Horizon. Wrth gwrs, mae’r cymal yn datgan egwyddor sy’n berthnasol i bob datblygiad arfaethedig, ac mae’n gongl-faen Polisi Strategol PS 1, sef y polisi iaith. Ond yn awr, dyma’r cymal allweddol hwn yn cael ei ddileu.
Sylwn hefyd fod y cymal canlynol wedi’i gynnwys yn y ddogfen dan sylw:
3a (G)Wrthod cynigion a fyddai yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith priodol i sicrhau mesurau lliniaru addas neu y gwneir cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny. (t. 34)
Mae’r cymal hwn yn tanseilio egwyddor y cymal gwreiddiol trwy gyflwyno amod, sef gweithredu mesurau lliniaru. Mae cadernid y warchodaeth yn absennol gan fod y cymal newydd yn datgan y byddai effaith negyddol ar y Gymraeg yn dderbyniol os yw’r mesurau lliniaru yn ‘foddhaol’ neu ‘y gwneir cyfraniad i leihau’r effeithiau’, beth bynnag yw ystyron a dull mesur ‘boddhaol’ a ‘lleihau’ yma.
Mae cyfeiriad at fesurau lliniaru ‘(b)oddhaol’ ac am ‘(g)yfraniad i leihau’r effeithiau’ yn agor y drws led y pen ac yn gwneud y Gymraeg yn gwbl agored i’w niweidio. Nid oes amddiffyniad iddi yn y cymal hwn. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ar fater mesurau lliniaru. Nid ‘adfer’, ‘cywiro’, ‘dadwneud’, ‘unioni’, ‘cyfannu’ na ‘gwneud iawn’ yw ystyr ‘lliniaru’, ond ‘lleihau effaith’. Felly, mae cyfeirio at fesurau lliniaru yn rhagdybio, rhagweld a chydnabod y bydd niwed yn cael ei achosi, ac nad dadwneud y niwed ac adfer y sefyllfa yw eu bwriad ond ceisio lleihau’r niwed. Sut, yn enw rheswm, y gall Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn gymeradwyo polisi sy’n caniatáu niweidio’r Gymraeg?
Afraid dweud ein bod yn ystyried hyn yn fater difrifol iawn. Mae’n fater allweddol a thyngedfennol.
Mae geiriad cymal 3a yn gwbl annerbyniol, a gofynnwn i’r cynghorau adfer y cymal gwreiddiol cadarn.
Byddem yn falch o atebion i’r cwestiynau canlynol:
1. Pwy benderfynodd ddileu’r cymal gwreiddiol, a beth oedd rhan y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn y penderfyniad?
2.Ar ba sail y gwnaed y penderfyniad?
Byddem hefyd yn falch iawn o gael cyfarfod â chi gynted ag y bo modd ynglŷn â’r mater, a hynny cyn diwedd y mis yma, os gwelwch yn dda. Fel y gwyddoch, mae cyfnod yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 9 Mawrth.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Yn gywir,
Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith)
Dr Simon Brooks (Ysgrifennydd Dyfodol i’r Iaith)
Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)
Dr Menna Machreth (Cadeirydd, Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
cc
Y Cyng. Richard Dew, Deilydd Portffolio Cynllunio, Cyngor Sir Ynys Môn
Y Cyng. Dyfed Wyn Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd
Y Cyng. Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn
Gareth Jones, Uwch Reolwr Cynllunio, Cyngor Gwynedd
Dewi Francis Jones, Rheolwr Datblygu Cynllunio, Cyngor Sir Ynys Môn
Nia Haf Davies, Rheolwr Cynllunio (Polisi), Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn
Dafydd Iwan, Cadeirydd, Hunaniaith
Debbie Anne Williams Jones, Swyddog Hyrwyddo Iaith, Cyngor Gwynedd
Ifan Llewelyn Jones, Swyddog Datblygu Iaith, Cyngor Gwynedd
Carol Wyn Owen, Swyddog Iaith, Cyngor Sir Ynys Môn
Bethan Jones Parry, Cadeirydd Grwp Asesu’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg, Horizon
Yr Athro Derec Llwyd Morgan, Cadeirydd, Fforwm Iaith Môn
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg