I sylw Aelodau Cyngor Gwynedd

Annwyl Gynghorydd,

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, Cyfarfod Arbennig o Gyngor Gwynedd 28 Gorffennaf, 2017

Rydym yn anfon atoch ar drothwy’r cyfarfod uchod i dynnu eich sylw at fater sy’n peri pryder mawr i ni, ac ar yr awr ddiweddar hon byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn rhoi ystyriaeth gyflawn o theg i’r hyn sydd gennym i’w gyflwyno.

Yng Ngwynedd, yn ôl yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, mae 917 o dai’r Cynllun eisoes wedi eu codi, a 1,429 wedi cael caniatâd cynllunio.

Mewn Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor ar 18 Mawrth y llynedd, a alwyd gan nifer o gynghorwyr a oedd yn bryderus am effaith y Cynllun ar yr iaith, gofynnwyd am arolwg o’r sefyllfa mewn perthynas â’r  hyn a oedd wedi ei gyflawni’n barod . Y rheswm amlwg dros ofyn am arolwg o’r fath oedd casglu tystiolaeth am effaith ieithyddol  y datblygiadau tai a oedd eisoes wedi eu cwblhau, ac edrych ar y ceisiadau cynllunio o safbwynt effaith ar y Gymraeg,  a hynny cyn mynd ymlaen gyda llunio’r Cynllun. Gan mai un o amcanion strategol y Cynllun yw cyfrannu i greu cymunedau Cymraeg, onid rhesymol fyddai casglu tystiolaeth o’r fath? Pasiwyd y cynnig gan y Cyngor ond cafodd ei wyrdroi i olygu monitro ac adolygu’r Cynllun ar ôl iddo gael ei fabwysiadu, ac felly ni chafwyd arolwg o’r fath.

Gofynnwn i chi, felly, sut mae modd mabwysiadu’r Cynllun heb dystiolaeth o effeithiau ieithyddol y datblygiadau (917 o dai) sydd eisoes wedi eu cwblhau, a heb wybod pa fath o ystyriaeth a roddwyd i’r iaith wrth ymdrin â’r ceisiadau cynllunio ar gyfer y datblygiadau hyn a cheisiadau cynllunio’r datblygiadau sydd heb eu datblygu hyd yma? Gwyddom fod yr awdurdod cynllunio wedi cymeradwyo pob datganiad ieithyddol a phob asesiad ardrawiad ieithyddol a gyflwynwyd gan ddatblygwyr.  Yn y cyd-destun hwn, dylem eich atgoffa bod awdurdod cynllunio y Cyngor wedi cymeradwyo cais cynllunio Morbaine (366 o dai) fel datblygiad a fyddai’n llesol i’r Gymraeg!  Y Pwyllgor Cynllunio, yn groes i farn y swyddogion, a’i gwrthododd.

Yn ein barn ni, byddai’n amhriodol i chi ystyried y Cynllun heb dderbyn yr wybodaeth hanfodol am yr hyn sydd eisoes wedi ei gyflawni – y datblygiadau tai a’r ceisiadau cynllunio sydd wedi eu caniatáu. Mae tystiolaeth arolwg o’r fath yn gwbl allweddol oherwydd ni fydd modd adolygu’r Cynllun tan 2021, sef ymhen pedair blynedd. Golygai hynny y byddai deng mlynedd o ddatblygu tai (2011-2021) cyn bod cynnal adolygiad i gloriannu’r sefyllfa o ran effeithiau’r Cynllun ar yr iaith ac ystyried i ba raddau y byddai’r Cynllun yn cyflawni ei amcan strategol o warchod a chryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae’r syniad o gynnal adolygiad ieithyddol o ddeng mlynedd o ddatblygiadau tai yn wrthun. Mae’n gwbl afresymol ac yn gwbl annerbyniol.

Yn gywir,

Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith)                                                                                     Ruth Richards (Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith)                                                                     Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)                                                             Dr Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)

Anfonwyd at:
cynghorydd.craigabiago@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.mennabaines@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.freyabentham@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.dylanbullard@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.stephenchurchman@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.stevecollings@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.annwendaniels@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.glyndaniels@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.anwenjanedavies@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.ElwynEdwards@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.alanjonesevans@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.DylanFernley@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.petergarlick@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.simonglyn@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.GarethWynGriffith@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.E.SelwynGriffiths@gwynedd.llyw.cymru,
Alwyn Gruffydd < alwyn@llaisgwynedd.com>, cynghorydd.annwenhughes@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.JohnBrynmorHughes@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.louisehughes@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.medwynhughes@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.SianWynHughes@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.judithhumphreys@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.niajeffreys@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.peredurjenkins@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.aeronjones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.AledWynJones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.annelloydjones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.berwynparryjones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.charleswynjones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.elinwjones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.elwynjones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.ericmerfynjones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.huwwynjones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.keithjones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.kevinmorrisjones@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.sionwynjones@gwynedd.llyw.cymru,
cynghorydd.eryljones-williams@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.cailarsen@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.bethanwynlawton@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.i.dilwynlloyd@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.dafyddmeurig@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.dilwynmorgan@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.lindamorgan@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.dewiowen@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.EdgarWynOwen@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.williamroyowen@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.jasonwayneparry@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.nigelpickavance@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.rheinalltpuw@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.peterread@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.dewiroberts@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.elfedproberts@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.GarethAnthonyRoberts@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.johnpugheroberts@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.garethroberts@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.mairrowlands@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.paulrowlinson@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.angelaannrussell@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.dyfrigsiencyn@gwynedd.llw.cymru, cynghorydd.mikestevens@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.gareththomas@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.ioanthomas@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.hefinunderwood@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.catrinwager@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.cemlynwilliams@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.eirwynwilliams@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.elfedwynwilliams@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.garethwilliams@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.gethinglynwilliams@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.gruffyddwilliams@gwynedd.llyw.cymru,  cynghorydd.aledlloydevans@gwynedd.llyw.cymru, cynghorydd.dafyddowen@gwynedd.llyw.cymru
cynghorydd.owainwilliams@gwynedd.llyw.cymru