gan Geraint Jones
Roedd oes Robert Hughes, Uwchlaw’rffynnon, Llanaelhaearn, sir Gaernarfon, yn rhychwantu’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ei hyd, fwy neu lai. Dyma borthmon, ffermwr, bardd, pregethwr, darlithydd, achyddwr ac areithiwr dirwest a ddaeth, yn dilyn ei hanner canfed pen-blwydd, yn arlunydd gyda’i stiwdio ei hun yn Uwchlaw’rffynnon. Yn y llyfr hwn ceir hanes bywyd a gwaith Robert Hughes, ynghyd â thros drigain o’i luniau mewn lliw a holl achau teulu lluosog Uwchlaw’rffynnon.
“Mae ei hanes yn ddiddorol dros ben ac mae’r modd y cyflwynir yr hanes hwnnw yn y gyfrol hon yn ddifyr odiaeth…….Rydym ni, ddarllenwyr y Ffynnon, yn gyfarwydd â’r arddull hefyd. Nid yn aml y gwelwch chwi Gymraeg mor gyhyrog â hyn ‘na mewn llyfr newydd y dyddiau hyn…. Mae’r argraffu yn wych ryfeddol….” (Dyfed Evans yn Y Ffynnon, Papur Bro Eifionydd, Tachwedd 2008)
Cyhoeddwyr: Gwasg Carreg Gwalch Pris £9.50 70 tudalen