Gwlad y Menig Gwynion

gan Geraint Jones

Nofel ddychanol a doniol a gwrth-sevydliadol.

Mae drysau Teml Cyfrinfa Eryri yn cuddio cyfrinachau Maswnaidd fyrdd, ond pan ymuna Jabulon Jones Ll.B. â loj yr enwogion o fri gwêl fwy nag un drws yn agor iddo. Uchelgais y Saer newydd yw cael ei urddo’n Brif Lenor Rhyddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Vrenhinol Cymru, ond yn gyntaf rhaid gwneud iawn am ei ddiffyg dawn. Pan fo’r arfau llenyddol yn brin, daw’r Seiri gwerth eu hadnabod i’r adwy, a thrwy ysgwyd llaw â’r bysedd gwynion sy’n dynn ar byls Gwalia, cred Jabulon Jones Ll.B. y gall yntau fod yn Rhywun!

 

Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch (Gorffennaf 1996).       125 tudalen.