Ein Gwir Hanes (8) : Yr Hen Bowys a’r Canu Englynol
Ble mae’r Dref Wen? Ble mae Pengwern? Ble mae Rhodwydd Forlas?
Aeth Myrddin ap Dafydd ati yn ddiweddar i ddilyn trywydd Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen, yn ôl i galon yr Hen Bowys a’n syfrdanu a’n gwefreiddio trwy brofi fod cymaint o enwau’r lleoedd yn y canu hwnnw yn dal mewn bod hyd heddiw.
Ac mae’r stori arwrol am ddewrion y ffin yn amddiffyn hyd angau dir Cymru yn erbyn gelynion rheibus yn hanes y dylai pob Cymro a Chymraes ei wybod.*
Yn y prynhawn cafwyd y pleser o wrando ar Yr Athro Peredur Lynch yn ymhelaethu ar yr englynion a’r chwedlau sydd â’u dylanwad cyn gryfed ag erioed ar ein canu hyd heddiw.
Llywyddwyd y cyfarfod gan Tecwyn Ifan yn ei ddull dihafal ei hun, trwy ddiweddu’r cyfarod â chân.
______________________________________________________