PWYLLGOR YMGYRCH TAI A CHYNLLUNIO GWYNEDD A MÔN
Datganiad i’r wasg
04.10.17
Ni fydd gan Gomisiynydd y Gymraeg na Gweinidog y Gymraeg ran statudol yn y gyfundrefn gynllunio er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cynllunio gwlad a thref yn effeithio ar sefyllfa’r iaith. Dyna ddywed Prif Weinidog Cymru mewn llythyr at ymgyrchwyr iaith cyn cyhoeddi’r Nodyn Cyngor Technegol 20 newydd sy’n gosod canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol wrth ymdrin â’r iaith.
Mae ei sylwadau wedi eu beirniadu’n llym gan y mudiadau iaith mewn datganiad ar y cyd yn enw Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn:
“Mae datganiad Carwyn Jones yn gwbl anfoddhaol ac annerbyniol. Mae strategaeth iaith genedlaethol newydd Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cynllunio gwlad a thref yn effeithio ar sefyllfa’r Gymraeg, a bod gan y gyfundrefn gynllunio ran allweddol yn y gorchwyl o atgyfnerthu’r Gymraeg yn gymunedol er mwyn cyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Hefyd, mae darpariaethau iaith Deddf Gynllunio (Cymru) 2015 yn gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth gynllunio berthnasol.
“Yn wyneb y newidiadau hyn, sut gall Carwyn Jones ddweud na fydd gan Weinidog y Gymraeg na Chomisiynydd y Gymraeg swyddogaethau statudol yn y gyfundrefn gynllunio? Mae sefyllfa o’r fath yn gwbl wrthun. Oni ddylai’r gweithdrefnau adlewyrchu’r strategaeth iaith newydd a’r newid yn y gyfraith? Dyma ddiffyg y dylid ei gywiro’n ddiymdroi. Os na fydd y Gymraeg yn cael ei chryfhau yn gymunedol, bydd y strategaeth iaith genedlaethol yn methu.”
Mae Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn, sydd â chynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn galw ar Carwyn Jones a’i lywodraeth i sicrhau’r canlynol:
- Rhan statudol i Weinidog y Gymraeg a Chomisiynydd y Gymraeg yng ngweithdrefnau’r gyfundrefn gynllunio.
- Sefydlu corff ymgynghori statudol i wneud asesiadau ieithyddol annibynnol a rhoi barn ar apeliadau cynllunio.
- Sefydlu Arolygiaeth Gynllunio annibynnol i Gymru.
Mae’r ymgyrchwyr wedi gofyn i Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn gefnogi eu cais a rhoi arweiniad i gynghorau sir eraill Cymru yn y frwydr i “ennill statws llawn i’r Gymraeg yn y gyfundrefn gynllunio.”
Roedd Llywodraeth Cymru wedi datgan y byddai’r Nodyn Cyngor Technegol 20 diwygiedig ynghyd â chanllaw newydd, sef Fframwaith Asesu Risgiau a Manteision i’r Iaith Gymraeg, yn barod cyn diwedd Medi ond nid ydynt wedi eu cyhoeddi eto.
Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith)
Ruth Richards (Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith)
Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)
Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)