Datganiad i’r Wasg 10.04.2017

                       Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn                                      (Cylch yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Canolfan Hanes Uwchfwyrfai)

Datganiad i’r Wasg

10.04.17

Bydd Gwynedd a Môn yn gorfod caniatáu datblygiadau niweidiol i’r Gymraeg os bydd y datblygwyr yn dangos y gallant leihau rhyw gymaint ar y niwed. Dyna fydd argymhelliad swyddogion cynllunio yr Uned Polisi Cynllunio sy’n creu’r Cynllun Datblygu Lleol ar ran y ddau gyngor sir ar gyfer Grandawiad Cyhoeddus.

Bydd polisi iaith cynllun dadleuol Gwynedd a Môn yn cael ei drafod mewn gwrandawiad a gynhelir gan yr Arolygydd Cynllunio yn Swyddfa Penrallt, Caernarfon ar y 26ain o’r mis hwn.

Mewn datganiad, dywed Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn, sydd â chynrychiolaeth o Gylch yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai, ‘Mae’r Gymraeg yn gwbl agored i’w niweidio oherwydd fel y mae pethau ar hyn o bryd does dim amddiffyniad iddi o fewn y gyfundrefn gynllunio yn lleol nac yn genedlaethol.’

Mae’r mudiadau iaith, yn enw pwyllgor yr ymgyrch, wedi anfon at yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, yn gofyn iddynt ailystyried eu penderfyniad cyn y Gwrandawiad a rhoi cymal gwreiddiol ‘allweddol’ yn ôl yn y polisi iaith .

Yn eu llythyr at Nia Haf Davies, Rheolwr yr Uned, meddai’r mudiadau, ‘Rydym wedi sylwi bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, o ganlyniad i’r sylwadau a dderbyniwyd yn yr ymgynghoriad, wedi newid cymal maen prawf 3a fel ei fod yn darllen fel a ganlyn:

‘Gwrthod cynigion fyddai yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith cynllunio priodol.’

‘Mae’r cymal diwygiedig uchod yr un mor annerbyniol gennym, a hynny am y rheswm canlynol: Mae’r cymal yn dal i ddatgan bod datblygiad niweidiol yn dderbyniol os gellir lleihau rhyw gymaint ar y niwed. Nid oes diffiniad o ‘sylweddol’ na ‘boddhaol’, ac mae unrhyw gyfeirio at ‘liniaru’ yn rhagdybio niwed.

‘Nid oes amddiffyniad i’n hiaith rhag niwed yn y cymal hwn. Erfyniwn yn daer arnoch i adfer y cymal gwreiddiol a dileu’r gair ‘sylweddol’, fel ei fod yn darllen fel a ganlyn:

‘Gwrthod cynigion a fyddai, oherwydd eu maint, graddfa neu leoliad, yn achosi niwed I gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned.’

Cyflwynwyd sylwadau i’r ymgynghoriad gan nifer o gyfranogwyr yn galw am adfer y cymal gwreiddiol sy’n nodi hawl i wrthod caniatâd cynllunio i ddatblygiadau a fyddai’n debygol o wanychu sefyllfa’r Gymraeg. Gwrthodir y cymal newydd gan y mudiadau iaith ac eraill oherwydd ei fod yn datgan bod modd cael caniatâd cynllunio os gellir osgoi niwed ‘sylweddol’ trwy ‘leihau’ rhyw gymaint ar y niwed.

Mae dau Aelod Cynulliad, Siân Gwenllian a Llyr Huws Gruffydd, ymhlith y rhai sydd wedi anfon sylwadau at y ddau gyngor yn galw am osod y cymal gwreiddiol yn ei ôl yn y polisi iaith.

Mae’r mudiadau iaith wedi galw am adfer y cymal ond hepgor y gair ‘sylweddol’ oherwydd nad oes diffiniad o ‘sylweddol’ yn y cymal nac mewn unrhyw ran arall o bolisi iaith y Cynllun. Yn eu barn hwy, mae unrhyw niwed i’r Gymraeg yn annerbyniol, ac maent wedi anfon at holl aelodau Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn ynglŷn â’r mater, ynghyd â Hunaniaith, Menter Iaith Môn a Fforwm Iaith Môn.

Yn eu llythyr at y cynghorwyr, dywed y mudiadau: ‘ Erfyniwn yn daer arnoch i ddefnyddio eich dylanwad i sicrhau bod y cymal yn cael ei osod yn ôl yn y Cynllun, a bod y gair ‘sylweddol’ yn cael ei dynnu ohono. Hefyd, ni ddylid cyfeirio at fesurau lliniaru ym mholisi iaith y Cynllun. Mae ‘lliniaru’ yn rhagdybio niwed, a bwriad mesurau lliniaru yw dim mwy na lleihau rhyw gymaint ar niwed anochel.

‘Bydd y polisi iaith yn effeithio ar bob math o ddatblygiadau tai yng Ngwynedd ac ym Môn, ac felly mae’r mater hwn o ddiddordeb ac o gonsýrn yn y ddwy sir. Rydym yn siŵr y byddwch yn cytuno â ni y dylid cael yr amddiffyniad cryfaf posibl i’n hiaith o fewn y gyfundrefn gynllunio.’

Yn eu datganiad, meddai pwyllgor yr ymgyrch, ‘Mae’r sefyllfa’n anfoddhaol ond mae’n ymddangos bod un cyfle ar ôl i gywiro’r sefyllfa, a hynny pan fydd y polisi iaith – a’r cymal dan sylw yn benodol – yn cael ei ystyried eto yn y Gwrandawiad Cyhoeddus olaf gan yr Arolygydd Cynllunio sy’n gyfrifol am archwilio’r Cynllun. Gofynnwn i bawb sy’n pryderu ynghylch y sefyllfa i anfon at yr Uned a’r deilyddion portffolio cynllunio i gefnogi ein cais gynted ag y bo modd.’

Cynhelir y Gwrandawiad Cyhoeddus yn Swyddfa Penrallt, Caernarfon ar y 26ain o’r mis hwn, a bydd y sesiwn yn cychwyn am 10 o’r gloch y bore.