PWYLLGOR YMGYRCH TAI A CHYNLLUNIO GWYNEDD A MÔN
(Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Dyfodol i’r Iaith, Cylch yr Iaith, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)
‘Cwmni Horizon a’r Arolygaeth Gynllunio sy’n llunio polisi iaith Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn ac nid y cynghorwyr’.
Dyma ddywed y mudiadau iaith mewn datganiad wedi iddyn nhw gael gwybod bod y penderfyniad i dynnu cymal ‘allweddol’ o bolisi iaith y Cynllun wedi ‘ei ysgogi’ gan yr Arolygydd sy’n cynnal archwiliad o’r Cynllun, a hynny ar ôl i Horizon alw am ei ddileu. Maen nhw’n hynod feirniadol o’r Arolygaeth Gynllunio am anwybyddu cyngor Comisiynydd y Gymraeg fod y cymal yn gyson â Deddf Gynllunio (Cymru) 2015.
Mae’r cymal dan sylw – ‘Gwrthod cynigion fyddai, oherwydd ei faint, raddfa neu leoliad yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned.’ – yn un a ddisgrifir gan y mudiadau iaith fel ‘congl-faen’ polisi iaith Gwynedd a Môn ym maes cynllunio.
Mae Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn, sy’n cynrychioli Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai, wedi derbyn llythyr oddi wrth Nia Haf Davies, Rheolwr yr Uned sy’n gyfrifol am weinyddu’r broses o greu’r Cynllun ar ran Gwynedd a Môn, yn cadarnhau bod yr Arolygydd Cynllunio o’r farn bod galwad cwmni Horizon i’r cynghorau dynnu’r cymal penodol o’r Cynllun yn gais dilys.
Yn ei llythyr at y mudiadau, mae Rheolwr yr Uned (01.03.17) yn dweud bod ‘y newidiadau i’r Cynllun ar ôl ei gyflwyno i’w Archwilio yn cael eu hysgogi gan yr Arolygydd’. ’ Yn ôl y mudiadau, “Mae’n gwbl annerbyniol bod yr Arolygydd wedi cydsynio â chais Horizon, ac wedi wfftio barn Comisiynydd y Gymraeg a sylwadau’r Cyng. Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.”
Cyn dechrau Gwrandawiad yr Archwiliad ar 9 Medi y llynedd, galwodd cwmni Horizon am ddileu’r cymal dan sylw er mwyn hwyluso caniatâd cynllunio i ddatblygiadau arfaethedig Cynllun Wylfa Newydd.
Mewn ymateb i hynny, anfonodd Comisiynydd y Gymraeg lythyr at yr Arolygydd yn datgan bod y cymal yn gwbl ddilys a derbyniol ac yn gyson â Nodyn Cyngor Technegol 20 ac â darpariaethau iaith Deddf Gynllunio (Cymru) 2015 sy’n gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol wrth ystyried ceisiadau cynllunio.
Bryd hynny, cafwyd hefyd ddatganiad gan Arweinydd Cyngor Môn, yn amddiffyn y cymal iaith ac yn beirniadu Horizon am geisio ymyrryd.
Meddai’r mudiadau iaith yn eu datganiad, “Mae barn y mudiadau iaith a Chomisiynydd y Gymraeg yn cael ei hanwybyddu, a dylanwad cwmni Horizon yn llwyddo i newid polisi iaith dau gyngor sir.
“Y cwestiynau y mae’n rhaid eu gofyn ydi beth ydi barn y Grŵp Llywio Asesu Effaith ar yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd gan Horizon, a pham na chaiff aelodau’r ddau gyngor y cyfle i ystyried mater mor dyngedfennol?
“Nid mater sy’n ymwneud â chodi tai ar gyfer mewnlifiad Cynllun Wylfa Newydd yn unig mo hwn. Bydd dileu’r cymal yn effeithio ar bob math o ddatblygiadau tai yn y ddwy sir.”
Bydd y sylwadau mewn ymateb i’r newidiadau yn y Cynllun yn cael eu hanfon at yr Arolygydd, a daw yn ei ôl i’r ddau gyngor fis Mai. Bydd barn yr Arolygydd yn derfynol , ac yn unol â’r drefn statudol bydd yn rhaid i’r cynghorau ei fabwysiadu a’i weithredu.