gan Geraint Jones
Am gyfnod o ganrif a rhagor, bu’r band pres yn rhan annatod o ddiwylliant ac adloniant broydd y chwareli yng Ngwynedd. Ond tu ôl i’w parchusrwydd ymddangosiadol llechai’r diafol a’i gyrn, yn awchus am helynt. Doedd y gasgen gwrw byth yn bell o benelin yr hen fandar, a cheid ymdaro geiriol a chorfforol yn aml – yn arbennig ar ddiwrnod cystadleuaeth. Doedd y cythraul canu fawr o help chwaith!
Mae’r awdur yn arweinydd Seindorf Trefor ers dros 35 o flynyddoedd, ac yn llenor medrus. Yn y gyfrol hon, mae’n olrhain hanes hen fandiau’r chwarelwyr o’u dyddiau cynnar yn y 1830au hyd at ddiflaniad y rhelyw ohonynt yn chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif.
186 tudalen, yn cynnwys 20 llun. Cyhoeddwyd ac argraffwyd gan Wasg Gwynedd (Tachwedd 2004).