Annwyl Gyfeillion,
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Rhaid rhoi pob ewin ar waith yn awr i ddarbwyllo cynghorwyr Gwynedd a Môn i wrthod y cynllun gwallgo’ hwn i adeiladu bron i 8,000 o dai diangen yn y ddwy sir – tai fydd yn golygu mewnlifiad estron anferth mewn cynllun fydd yn sicr o fod yn ergyd farwol i’n cymunedau Cymraeg ac yn hoelen olaf yn arch ein hannwyl iaith.
Daw’r Cynllun gerbron aelodau Cyngor Gwynedd ddydd Gwener yr 28ain, a gerbron aelodau Cyngor Sir Ynys Môn ddydd Llun yr 31ain.
Ar yr 28ain, byddwn yn ymgynnull am 1.15 yn Stryd y Jêl, Caernarfon ac yna’n mynd i oriel gyhoeddus Siambr Dafydd Orwig. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 2.
Ar yr 31ain, byddwn yn ymgynnull y tu allan i Swyddfeydd y Sir yn Llangefni am 9.15 cyn mynd i oriel gyhoeddus Siambr y Cyngor. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 10.
Gobeithio’n fawr y byddwch yn medru bod yn bresennol.
Yn y cyfamser, a fyddech mor garedig â –
1. Rhoi gwybod i’ch cydnabod am y ddau gyfarfod.
2. Pwyso ar eich cynghorydd sir i wrthod mabwysiadu’r Cynllun.
Atodwn at eich defnydd restr o’r rhesymau dros wrthod y Cynllun.
Ychydig dros wythnos sydd yna tan y cyfarfodydd tyngedfennol hyn, felly bydd gofyn i ni i gyd wneud ymdrech arbennig yn ystod y dyddiau nesaf i ddwysau’r ymgyrch i ddarbwyllo’r cynghorwyr i wrthod y Cynllun. Rhaid inni lwyddo.
Cofion,
Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith)
Ruth Richards (Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith)
Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)
Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
ar ran Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn