Enw: | Ieuan Wyn (ar ran Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn |
Rhowch fanylion am eich cwyn gan gynnwys beth ydych yn meddwl gwnaeth Llywodraeth Cymru yn anghywir a sut dylai’r sefyllfa gael ei gywiro.: | Mae ein cwyn yn ymwneud â Nodyn Cyngor Technegol 20: Cynllunio ar Iaith Gymraeg (NCT 20) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn Hydref 2017. Mae NCT 20 yn rhoi cyngor camarweiniol i Awdurdodau Cynllunio Lleol ar fater penodol, fel y nodwn isod.
Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 wedi ei haddasu o ganlyniad i Ddeddf Gynllunio (Cymru) 2015. Nodwn yma y darpariaethau iaith fel y maent yn ymddangos fel rhan o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990:
70 Determination of applications: general considerations. (1) Where an application is made to a local planning authority for planning permission – F1(a) subject to sections 91 and 92, they may grant planning permission, either unconditionally or subject to such conditions as they think fit; (aa) any considerations relating to the use of the Welsh language, as far as material to the application, or F1(b) they may refuse planning permission. (2) in dealing with such an application the authority shall have regard to the provisions of the development plant, so far as material to the application, and to any other material considerations.
Fel y gwelwch, mae’r ddeddfwriaeth yn sefydlu’r Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol, ac mae’r cymalau uchod yn cadarnhau y gellir trin y Gymraeg fel ystyriaeth wrth ystyried ceisiadau cynllunio unigol. Mae’r darpariaethau iaith yn y ddeddf yn amlwg yn ymwneud â cheisiadau cynllunio unigol, ac nid oes unrhyw amodau wedi eu gosod sy’n nodi o dan ba amgylchiadau y dylid trin y Gymraeg fel ystyriaeth. Nid oes unrhyw gyfyngiad yn y ddeddf.
Fodd bynnag, mae’r Nodyn Cyngor Technegol 20 newydd yn gosod amodau nad ydynt yn y ddeddf. Nodwn isod y ddau baragraff perthnasol:
3.1.3 Ni ddylid fel rheol gynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu gwaith yr AoG (Arfarniad o Gynaliadwyedd) a phrosesau dewis safleoedd y CDLl (Cynllun Datblygu Lleol).Cyhyd â bod yr AoG wedi ystyried y Gymraeg, ni fyddai asesu’r effaith yn ystod y broses ymgeisio yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth bellach na’r hyn oedd ar gael wrth baratoi’r CDLl. Fe amlinellir yr unig eithriad i’r rheol hon isod. 3.2.2. Dylid asesu ceisiadau i ddatblygiadau safleoedd ar hap yn erbyn strategaeth a pholisïau cynllun datblygu wedi ei fabwysiadu, a chan roi ystyriaeth i bolisïau cenedlaethol priodol. Pan fydd ACLl yn derbyn cais am ddatblygiad mawr ar safle ar hap o fewn ardal wedi ei diffinio fel un ieithyddol sensitif neu arwyddocaol gellid cynnal asesiad o effaith debygol y datblygiad ar y Gymraeg.
Mae’n amlwg nad yw’r paragraffau uchod yn adlewyrchu’r hyn sydd yn y ddeddf. Maent yn gosod cyfyngiadau heb sail gyfreithiol iddynt, a hynny trwy gyfarwyddo Awdurdodau Cynllunio Lleol i beidio â thrin y Gymraeg fel ystyriaeth wrth ystyried ceisiadau cynllunio unigol oni bai eu bod yn geisiadau am ddatblygiadau penodol. |
A ydych chi eisoes wedi cwyno wrth y staff rheng flaen sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaeth? Os felly, rhowch fanylion byr.: | Yr ydym wedi gohebu ar y mater gyda’r Gweinidog perthnasol, sef Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Maer canlynol wedi derbyn copїau o’n llythyrau ati: Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, Alun Davies AC, fel Gweinidog y Gymraeg ar y pryd ac fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Lywodraeth Leol yn awr, ac Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg. |
Pryd ddaethoch chi’n ymwybodol o’r broblem yn y lle cyntaf?: | Pan gyhoeddwyd fersiwn ymgynghorol y NCT 20.
Anfonwyd llythyr gennym at y Gweinidog yn tynnu sylw at y mater bryd hynny, ac anfonwyd copi o’n llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg. |
Chwilio
-
Digwyddiadau diweddar
Archif
Rhagfyr 2023 Su Ll Ma Me I G Sa 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31