Cwricwlwm Cymru

Cyfarfod Arbennig 26ain o Dachwedd, 2016

Datganiad i’r Wasg ar ran Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai  Cyd-drefnwyr Cynhadledd Hanes Cymru, Clynnog Fawr, 26 Tachwedd 2016

Gwaseidd-dra diwylliannol yn rhwystr dros beidio â dysgu hanes Cymru – Cynhadledd yn galw am Gwricwlwm Cymru

Penderfyniad unfrydol Cynhadledd Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr ddydd Sadwrn diwethaf (Tachwedd 26ain) oedd galw am sicrwydd y bydd cwricwlwm y dyfodol ar gyfer ysgolion Cymru yn un unigryw ar gyfer Cymru fel bod y profiad Cymreig yn amlwg ym mhob Maes Dysgu.

Dywedodd Eryl Owain, llefarydd ar ran y gynhadledd, bod angen disodli’r drefn annigonol bresennol o Gwricwlwm ‘Cenedlaethol’, a luniwyd ar gyfer Lloegr, gyda chwricwlwm Cymreig fel atodiad iddo. “Mae angen,” meddai, “llunio Cwricwlwm wedi ei wreiddio’n gadarn yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru a fydd yn gosod y sylfaen i’n disgyblion fedru edrych allan tua’r byd mawr o’u hamgylch trwy lygaid Cymreig. Mae hynny’n arbennig o bwysig ym maes hanes”

Prif siaradwraig wâdd y gynhadledd oedd yr hanesydd Dr Elin Jones, o Gwm Rhymni, a gadeiriodd dasglu ar ran Llywodraeth Cymru a adroddodd dros dair blynedd yn ôl pa mor annigonol oedd y sylw a roddir i’n hanes ni ein hunain mewn llawer iawn o ysgolion, gan ddweud mai “gwaseidd-dra diwylliannol yw’r rhwystr dros beidio â dysgu hanes Cymru,”

Er bod Adroddiad yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, (Chwefror 2015) yn gosod fframwaith ar gyfer cwricwlwm unigryw i Gymru, mynegodd hi bryder na fydd “dimensiwn Cymreig ystyrlon yn greiddiol i unrhyw Gwricwlwm i Gymru a seilir ar yr Adroddiad hwn,” gan nad yw’n “cynnig diffiniad ohono, yn ei enghreifftio nac yn manteisio ar gyfloedd amlwg i gyfeirio ato.”

Daeth dros hanner cant i’r gynhadledd, yn eu plith athrawon a darlithwyr, gwleidyddion a chynrychiolwyr amryw o fudiadau a chymdeithasau. Ategwyd ganddynt alwad ar Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, i ddatgan yn glir y bydd meysydd llafur, yn deillio o Dyfodol Llwyddiannus, sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan rwydweithiau o Ysgolion Arloesi, yn rhoi lle sylfaenol a chanolog i Gymru a’r profiad Cymreig.

Gelwir hefyd am sicrwydd y bydd adnoddau addas digonol ar gael i gyflwyno hanes Cymru a’r dimensiwn Cymreig ar draws y cwricwlwm yn effeithiol mewn modd deniadol ynghyd â threfniadau hyfforddiant ble mae angen hynny.

27 Tachwedd 2016

♦                    ♦                    ♦                    ♦                    ♦                    ♦                    ♦                    ♦

Annwyl Gyfaill,

Estynnwn wahoddiad i chi i’r digwyddiad pwysig hwn i drafod y modd yr astudir hanes oddi mewn i gyfundrefn addysg Cymru, a’r modd yr anwybyddir hanes Cymru mewn llawer iawn o ysgolion. Bydd cyfle i gyfrannu tuag at ddatblygu syniadau adeiladol ar gyfer y dyfodol.

Dangosodd adroddiad tasglu y Dr Elin Jones (Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru, Medi 2013) bod y sylw a roddir i hanes Cymru yn annigonol, neu’n wir yn prin ddigwydd, mewn llawer iawn o ysgolion. Gwnaed nifer o argymhellion pwysig, gan gynnwys datgan y “dylai’r fersiwn nesaf o’r cwricwlwm cenedlaethol i Gymru gymryd fel man cychwyn syniadau’r Cwricwlwm Cymreig presennol” ac na ddylid mwyach “gyfeirio at ‘gwricwlwm cenedlaethol’ a ‘Chwricwlwm Cymreig’ ond at ‘gwricwlwm Cymru’ yn unig”.

Wrth gyhoeddi y byddai’r Athro Donaldson yn arwain adolygiad o addysg yng Nghymru ym Mawrth 2014, dywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Huw Lewis, ei fod “am weld cwricwlwm unigryw yn cael ei ddatblygu i Gymru”. Nid yw adroddiad Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, yn cynnig unrhyw arweinad clir ar sut y gweithredir y dyheadau hyn. 

O ganlyniad, mae pryder gwirioneddol na fydd y cwricwlwm newydd yn adlewyrchu nodweddion neilltuol Cymru ac, o ran hanes, y bydd ysgolion yn parhau i anwybyddu hanes Cymru. Y gwir yw bod meysydd llafur llawer o ysgolion yn parhau i roi sylw eilradd i hanes Cymru, gan ei drin fel atodiad i’r hyn a ystyrir yn hanes swyddogol a phwysig, sef hanes Lloegr-ganolog; ar ben hynny, mae tystiolaeth o beidio â dysgu hanes Cymru o gwbl.

Ni ellir caniatau i sefyllfa o’r fath barhau, felly ymunwch â ni i leisio eich barn ac i gyfrannu i’r broses o ddatblygu polisïau amgen.

Buasem yn falch o gael cadarnhad gennych os ydych yn bwriadu dod i’r Gynhadledd.

Gyda llawer o ddiolch ar ran Canolfan Hanes Uwchgwyrfai,

Eryl Owain                                                                                                4 Tachwedd 2016