Sefyllfa Hitachi a Horizon

Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn

Y Cyng. Richard Dew
Deilydd Portffolio Cynllunio
Cyngor Sir Ynys Môn

9 Mawrth, 2019

Annwyl Gyng. Richard Dew,

Parthed: Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn – cynllun Wylfa Newydd  

Fel y gwyddoch, cafodd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ei lunio ar y ragdybiaeth y byddai cynllun Wylfa Newydd ym Môn yn mynd rhagddo yn unol ag amserlen Horizon, gyda niferoedd y tai yn seiliedig ar hynny.

Rydym hefyd yn ymwybodol fod Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn weithredol ers ei fabwysiadu yng Ngorffennaf 2017.

Byddem yn falch iawn o gael gwybod gennych ym mha fodd y mae Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn cael ei gymhwyso o ganlyniad i benderfyniad Hitachi i hysbysu Horizon fod cynllun Wylfa Newydd yn cael ei roi o’r neilltu am gyfnod amhenodol.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Yn gywir,

Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith)
Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith)
Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)                                                        Ruth Richards (Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith)

cc
Y Cyng. Llinos Medi Huws, Arweinydd y Cyngor