HANES YNG NGHWRICWLWM CENEDLAETHOL CYMRU 2008 – Dyma’r cwricwlwm cyfredol
“Dylai dysgwyr 7 – 14 oed gael cyfleoedd i ddatblygu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru”
“Bydd hanes yn cyfrannu at y Cwricwlwm Cymreig trwy wneud hanes lleol a hanes Cymru yn ffocws yr astudiaeth”
Lefelau Cyrhaeddiad ar gyfer CA2 a CA3 yn cyfeirio drosodd a throsodd at “hanes Cymru a Phrydain”
Hanes yng Nghyfnod Allweddol 2
Bydd y dysgwyr yn adeiladu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth a gaffaelwyd yn ystod y Cyfnod Sylfaen.
- Byddant yn cael profiadau sy’n gwneud hanes yn ddiddorol, arwyddocaol ac yn rhywbeth i’w fwynhau.
- Byddant yn datblygu eu chwilfrydedd am y gorffennol, nodweddion gwahanol gyfnodau yn y gorffennol, o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw, a’r ffyrdd y maent yn wahanol i’w gilydd ac i’r presennol.
- Byddant yn dysgu drwy ymholi am ffyrdd o fyw gwahanol bobl yn y cyfnodau hanesyddol hyn, gan dynnu ar ddatblygiadau pwysig, digwyddiadau allweddol a phobl nodedig yn eu hardal, yng Nghymru ac ym Mhrydain.
- Byddant yn cymryd rhan mewn ymholiadau hanesyddol ysgogol a chlir eu ffocws gan ddefnyddio ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys cynrychiolaethau a dehongliadau o’r gorffennol, a threfnu a chyfleu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth mewn amrywiaeth gynyddol o ffyrdd
Dylai’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth hanesyddol trwy ddysgu am ystod o gyd-destunau hanesyddol. Dylai’r rhain fod yn seiliedig yn bennaf ar yr ardal leol o fewn cyd-destun ehangach Cymru, ond gan gynnwys enghreifftiau o Brydain a gwledydd eraill. Dylai’r ffocws fod ar nodweddion bywyd bob dydd yn ystod y cyd-destunau a ddewiswyd. Dylid astudio un agwedd ar fywyd bob dydd (naill ai tai a chartrefi neu fwyd a ffermio neu gludiant) ymhob cyd-destun.
Dylid rhoi cyfleoedd i’r disgyblion:
- astudio bywyd bob dydd pobl yn byw naill ai yn amser Celtiaid yr Oes Haearn neu’r Rhufeiniaid
- bywyd bob dydd pobl yn byw naill ai yn Oes y Tywysogion neu yn amser y Tuduriaid neu amser y Stiwartiaid
- newidiadau i fywydau bob dydd pobl yn yr ardal leol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg
- y gwahaniaethau ym mywydau bob dydd pobl mewn dau gyfnod cyferbyniol yn yr ugeinfed ganrif
– pwyslais cryf iawn felly ar fywyd bob dydd – nid ar gyflwyno hanes datblygiad Cymru
Hanes yng Nghyfnod Allweddol 3
Yng Nghyfnod Allweddol 3, bydd y dysgwyr yn adeiladu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth a gaffaelwyd yng Nghyfnod Allweddol 2.
- Byddant yn cael profiadau sy’n gwneud hanes yn ddiddorol, arwyddocaol ac yn rhywbeth i’w fwynhau, ac a fydd yn eu galluogi fel dinasyddion gweithgar i ymdrin â materion yn ymwneud â datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.
- Byddant yn dysgu trwy ymholi am brif nodweddion gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol detholiad o gyfnodau yn hanes Cymru a hanes Prydain yn ystod y mileniwm diwethaf.
- Byddant yn gosod y datblygiadau hyn yn eu cyd-destun drwy ymholi i hanes eu hardal eu hunain, i brofiadau hanesyddol gwledydd Prydain, ac i agweddau ar hanes Ewrop a hanes y byd.
- Byddant yn dysgu am brofiadau amrywiol pobl ym mhob cyfnod a ddewisir, ac yn datblygu eu dealltwriaeth o achosiaeth a moesol gwahanol y cyfnodau a astudir.
- Byddant yn sefydlu eu hymwybyddiaeth gronolegol ac yn defnyddio a gwerthuso ystod o ffynonellau a dehongliadau hanesyddol.
- Byddant yn cyfleu a chofnodi eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn fwyfwy annibynnol.
Dylid rhoi cyfleoedd i’r disgyblion astudio:
- sut effeithiodd dyfodiad y Normaniaid ar Gymru a Phrydain rhwng 1000 a 1500
- y newid a’r gwrthdaro yng Nghymru a Phrydain rhwng 1500 a 1760
- y newidiadau a ddigwyddodd yng Nghymru, Prydain a’r byd ehangach rhwng 1760 a 1914 ac ymateb pobl iddynt
- sut mae rhai unigolion a digwyddiadau’r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd heddiw