Dyma restr gyflawn o’r cryno-ddisgiau llafar a gynhyrchwyd gan Wasg Utgorn Cymru, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, sef sgyrsiau diddorol gan arbenigwyr yn eu meysydd, a’r rheini hefyd yn siaradwyr ffraeth a difyr. Diddanwch pur!
I. Y cryno-ddisgiau diweddaraf.
Pris £5 yr un + £1 cludiant. B A R G E N: 5 am £20 + £3 cludiant
Ffurflen gais am gryno-ddisgiau
II. Eraill. Bargen: 5 am £20 (+ £3 cludiant)
- Y Prifardd Ieuan Wyn yn sgwrsio am deyrnasiad Llywelyn a llythyrau Peckham
- Dyfed Evans yn adrodd hanesion difyr am y llyfrbryf hynod o Groesor
- Casgliad o ganeuon hen Eisteddfodwyr y Dyffryn
- Hywel Teifi Edwards: Meddylfryd y Llyfrau Gleision yn rheoli bywydau’r Cymry.
- Yr arbenigwr ar uchelfannau’r maes yn trin ei hoff bwnc
- Portread ysgubol o brif denorydd Gwlad y G^an.
- Anerchiad gwladgarol a thanbaid Hywel Teifi Edwards am goffau arwyr cenedlaethol
- Portread Dawi Griffiths ac eraill o Eben Fardd ynghyd ^a rhai o’i gerddi
- Criw’r Ganolfan yn cofio 150 mlynedd marw’r bardd ym 1863
- Bleddyn O. Huws yn sgwrsio am werinwr diwylliedig, hynafiaethydd a chymeriad rhyfeddol
- Mer^ed yn 90 oed yn esbonio a chanu rhai o’n caneuon gwerin
- Portread cynnes o’r llenor ac o Ddyffryn Ogwen gan J. Elwyn Hughes
- Arwel Jones (Hogia’r Wyddfa) yn adrodd ei brofiadau anfarwol gyda th^im y Darans, Llanberis
- Myrddin ap Dafydd yn adrodd 33 o’i gerddi gydag esboniad byr ar bob un ohonynt
- Llwyd o’r Bryn: Portread personol o Bob Lloyd, G^wr y Pethe
- Meirion Lloyd Davies yn adrodd hanes Morgan Griffith, Pen-mownt, Pwllheli, a Dafydd Parry, Ocsiwniar
- Geraint Jones yn adrodd peth o hanes y cwmni bysus enwog a’i ddreifar direidus
- Robin (ROGW) Williams yn sgwrsio am ffraethineb a direidi rhai o’n prif lenorion
- Dau destun amserol gan bregethwr poblogaidd
- Atgofion difyr un o ddarlithwyr mwyaf poblogaidd y Babell L^en
- Ifor Willims a Henry Lewis versus Saunders Lewis
- Dadansoddiad disglair Dafydd Glyn Jones o weledigaeth gwladgarwr y 19ganrif
- Anerchiad gwladgarol ac angerddol yr athronydd enwog, Yr Athro J. R. Jones
- Hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth ym 1936
- Hen gantorion pentrefi chwarelyddol yr Eifl yn canu
- Sgwrs gartrefol ac addysgiadol yr Athro hoffus ar hoff bwnc
- Hanes byr y stad yng Ngwynedd o 1773 hyd ei thranc tua 1950
- Portreadau cynnes o bedwar heddychwr Cymreig amlwg
- Cyflwyniad llawn angerdd – a llais Niclas ei hun i’w glywed
- Nia W. Powell yn manylu ar arwyddoc^ad gwleidyddol Gwrthryfel Owain Glynd^wr
- Anerchiad angerddol Llywydd Undeb yr Annibynwyr, Y Bala 1986
- Vivian Parry Williams yn adrodd stori’r pentref chwarelyddol diflanedig uwchlaw Penmachno
- Detholiad o ysgrifau’r dychanwr crafog o’i golofn S^et y Gornel yn Y Cymro
- Hanes hwyliog y Triawd enwog gynt gan un o’i aelodau
- Gwilym Evans yn adrodd hanes yr olew gwyrthiol
- Stori ryfeddol am fewnlifiad dros-dro ddaeth i weddnewid ardal yn y 1870au
- Amrywiaeth ardderchog o gymeriadau brith a hyd yn oed amheus!