Rhifynnau blaenorol yr Utgorn

 Am y casgliad cyflawn o’r rhifynnau blaenorol, gweler: (Y ddolen hon: ARCHIF UTGORN)

Utgorn 100           Gaeaf 2020

Cyflwynydd: Morgan Jones

Yr Utgorn Cyntaf Ar achlysur dathlu ein canfed rhifyn, DYFED EVANS, gohebydd dihafal yn oes aur Y Cymro ac un o gefnogwyr  ffyddlon Yr Utgorn a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn adrodd hanes difyr yr enwog Bob Owen, Croesor yn y rhifyn cyntaf o Utgorn Cymru, Hydref 2006.
Iolo Morganwg (2) Yr Athro GERAINT H. JENKINS yn parhau â’i sgwrs am ei arwr mawr — meddyliwr praff a dyn ymhell o flaen ei oes; y cyntaf i feirniadu Deddf Uno 1536 oherwydd y statws israddol a roddwyd ynddi i’r Gymraeg; beirniadai yn llym y modd yr ystyrid y Gymraeg yn ddirmygedig yn Lloegr; galwai am ddileu’r frenhiniaeth a Thŷ’r Arglwyddi, y cyntaf i agor siop fasnach deg; , gwrthwynebai gaethwasiaeth, ayb ayb
Anifeiliaid ac Adar Eifionydd Detholid arall gan MARGIAD ROBERTS am yr amryw greaduriaid sydd â’u henwau ar leoedd yn Eifionydd.
Morgan Llwyd (2) Ail ran o sgwrs ddifyr  DAWI GRIFFITHS, cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, ar Morgan Llwyd a dylanwadau’r 17eg ganrif ar ei waith fel llenor.
Cofio Merêd         (1919-2019) Triawd dawnus o Feirion — ARFON a SIONED GWILYM a MAIR TOMOS IFANS — mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai i ddathlu canmlwyddiant geni y diweddar annwyl Meredydd Evans.
Meredydd Evans “Un o fy mrodyr i”.

Utgorn 99, Hydref 2019

Cyflwynydd: Morgan Jones
Iolo Morganwg (1) Yr Athro GERAINT H. JENKIS yn ei elfen yn mwynhau rhannu ei waith ymchwil trwyadl i hanes ei hoff gymeriad.
Hen Ddyddiau Llawen EMLYN RICHARDS a’i atgofion difyr am gyfnod ei ieuenctid mewn llofft stabal yn Llŷn ac ar nosweithiau Sadwrn yn nhref Pwllheli.
Betws Hirfaen Betws Hirfaen, nofel hanesyddol gan John G. Williams, un o lenorion mawr Eifionydd, yw testun sgwrs ddiddorol  PRYDERI LLWYD JONES.
Morgan Llwyd (2) Ail ran o sgwrs ddifyr  DAWI GRIFFITHS, cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, ar Morgan Llwyd a dylanwadau’r 17eg ganrif ar ei waith fel llenor.
Lli Mawr 1781 Un o sgyrsiau’r diweddar annwyl W.J.EDWARDS, Bow Street, a gyfrannodd lawer i Utgorn Cymru, ble mae’n rhannu hanes y lli mawr a fu yn ardal Llanuwchllyn ar 20fed o Fehefin 1781 ac sydd â’i olion i’w gweld hyd heddiw.
Adelina Patti Golygydd yr Utgorn, GERAINT JONES, yn sôn am Adelina Patti, y gantores enwog a fu farw ganrif yn ôl, ar y 27fed o Fedi 1919, a’i chysylltiad â Chymru.

Utgorn 98, Haf 2019

Cyflwynydd: Morgan Jones
J.R.Jones a’r Arwisgiad Y Prifardd IEUAN WYN sydd yn darllen rhannau o dair ysgrif gan un o leisiau mwyaf angerddol Cymru adeg arwisgiad 1969, sef yr Athro J.R. Jones:

Gwrthwynebu’r Arwisgo, Cilmeri a Brad y Deallusion.

Croeso ’69 GERAINT JONES, Golygydd Utgorn Cymru,  yn sôn am agweddau gwahanol dau o’n gwleidyddion ac un o’n corau enwog a’i delynores tuag at yr arwisgo ym 1969.
Ystyried Lloyd George (4) Y bedwaredd ran o sgwrs DAFYDD GLYN JONES am yrfa David Lloyd George ac am ei ragrith mewn meysydd megis pleidlais i ferched a’i honiad ei fod fel gwleidydd yn ddarostyngedig i drefn rhagluniaeth.

Morgan Llwyd (1)

Y gyntaf o ddwy sgwrs gan DAWI GRIFFITHS am Forgan Llwyd ar achlysur dathlu pedwar can mlwyddiant ei eni.

Gwir arwyr y Wladfa IEUAN BRYN yn ein tywys at hanes arwrol y Cymry anturus a fentrodd dros ganrif a hanner yn ôl i sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Tri chymeriad EMLYN RICHARDS yn dod â ddoe yn ôl i ni ac yn cyflwyno tri hen gymeriad syml, ffraeth, a hynod o graff.

Utgorn 97, Gwanwyn 2019

Cyflwynydd:        Morgan Jones  
Y Gweilch IEUAN BRYN, Penryndeudraeth, cyfrannwr newydd i’r Utgorn, yn ceisio canfod a oes unrhyw wirionedd yn yr honiad mai yr un yw Gwalch y Pysgod ag Eryr Pengwern.
Dodrefn Cig a Gwaed EMLYN RICHARDS yn hiraethu am oes amgenach na’r un bresennol ac yn cofio am rai o’i chymeriadau.
Enwau Lleoedd yn Eifionydd (4) Detholiad MARGIAD ROBERTS o hen enwau lleoedd yng nghwmwd Eifionydd sydd y tro hwn yn cynnwys enwau crefftwyr.
Ystyried Lloyd George (3) DAFYDD GLYN JONES yn parhau i sgwrsio am yrfa David Lloyd George lle mae’n sôn amdano fel prif hyrwyddwr y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wedi 1282 GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn Archifydd Sirol Gwynedd, yn egluro beth ddigwyddodd ym myd cyfraith yng Nghymru pan gollodd ei hanibyniaeth a’i sofraniaeth gwleidyddol.
Anerchiad J.R. Jones : Yr Arwisgo – Mytholeg y Gwaed GERAINT JONES, Golygydd Utgorn Cymru, yn darllen un o ysgrifau Yr Athro J.R. Jones, un o leisiau mwyaf angerddol Cymru yn 1969.
Cofio Cilmeri 1969 Yr hanesydd ERYL OWAIN yn cofio Rali Fawr Cilmeri ym Mehefin 1969.
Pen Llywelyn
Cân TECWYN IFAN

Utgorn 96, Gaeaf 2019

Cyflwynydd:        Morgan Jones  
Ystyried Lloyd George (2) Ail ran darlith ddadlennol a difyr DAFYDD GLYN JONES ar LLOYD GEORGE, dyn yr anghysonderau dybryd, a wnaeth bethau da a drwg a enillodd iddo lawer o elynion.
Helyntion Rhyfel y Degwm yn Uwchgwyrfai MARIAN ELIAS ROBERTS yn adrodd hanes y gwrthdaro a fu ar ffermydd yng Nghlynnog ac yn ardal Y Dolydd yn 1888.
Enwau Lleoedd yn Eifionydd (2) Ail ran sgwrs MARGIAD ROBERTS am enwau lleoedd yng nghwmwd Eifionydd.
Yr Olygfa o Dre’rceiri GERAINT JONES, Golygydd Utgorn Cymru, yn adrodd cân fuddugol John Roberts, cyn-brifathro Ysgol Llanaelhaearn.
Calendr yr Hen Gymry Rhan arall o gyfres arbennig o sgyrsiau gan HOWARD HUWS sydd yn ymdrin â gwyliau sefydlog yr hen galendr Cymreig.
Coleg Madryn JOHN DILWYN WILLIAMS yn parhau ag ail ran ei sgwrs ddifyr ar Goleg Madryn, y coleg amaethyddol i fechgyn a merched yn Llyn.
Dodrefn y Pentra EMLYN RICHARDS yn llawn afiaith a gwreiddioldeb,  yn hel atgofion difyr am  ei fagwraeth yn un o bentrefi bychain cefn gwlad Llyn.

Utgorn 95

Cyflwynydd:        Morgan Jones  
Cofio Bobi Jones YR ATHRO E. WYN JAMES  yn adrodd hanes Yr Athro Bobi Jones :  bardd,  llenor, beirniad llenyddol, athro, cenedlaetholwr, a Christion gloyw.
Cenhadon Madagascar YR ATHRO GERAINT TUDUR  yn adrodd hanes Thomas Bevan a David Jones, dau o gyn-ddisgyblion Ysgol Neuadd Lwyd ger Aberaeron aeth yn genhadon i Ynys Madagascar yn 1818.
Eifion Wyn (2) Yr hanesydd BOB MORRIS yn parhau â’i sgwrs  am y bardd telynegol o Borthmadog a fu hefyd yn feirniad eisteddfodol ac a fu’n agos i ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Lerpwl yn 1900.
Ystyried Lloyd George (1) Rhan gyntaf darlith DAFYDD GLYN JONES yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai ar Lloyd George, “y dewin bach Cymreig”.
Daniel Silvan Evans DAWI GRIFFITHS yn olrhain hanes geiriaduraeth yn y Gymraeg ac yn sôn am gyfraniad arbennig Daniel Silvan Evans, gwr arall a dderbyniodd ei addysg yn y Neuadd Lwyd.
Jennie Thomas Y ddiweddar MARI WYN MEREDYDD yn sôn am un o gymwynaswyr mawr yr ugeinfed ganrif – un o awduron Llyfr Mawr y Plant, a oedd ymhlith y mwyaf disglair o lyfrau yn hanes ein hiaith a’n llenyddiaeth.

Utgorn Cymru 94

Cyflwynydd: Morgan Jones

Cof y Cwmwd GARETH HAULFRYN WILLIAMS yn sôn am wefan newydd ychwanegol gan y Ganolfan hon  ar ffurf wicipedia – cronfa helaeth o ffeithiau am hanes  cwmwd Uwchgwyrfai y gall unrhyw un gyfrannu ati.  (cof.uwchgwyrfai.cymru)
Coleg Madryn (1) J. DILWYN WILLIAMS yn adrodd hanes sefydlu coleg amaethyddol yng nghastell Madryn yn Llŷn.
I’r India Bell Rhagor o hanes Dafydd Crowrach o Lŷn gan HARRI PARRI a TREFOR JONES, y tro hwn yn cael ei yrru i’r India gyda’r fyddin adeg y Rhyfel Mawr.
O’r Grawys i’r Pasg HOWARD HUWS yn sôn am arferion y calendr eglwysig yng Nghymru, y tro hwn o ddydd Mawrth Ynyd i’r Pasg.
Eifion Wyn (1) BOB MORRIS yn mynd ar drywydd y bardd o Borthmadog.
Enwau yn Eifionydd (2) MARGIAD ROBERTS yn parhau i’n tywys i Eifionydd sydd ag enwau llefydd cyfareddol.
Wedi cael cam! Stuart Jones yn cael hwyl ar bortreadu IFAS Y TRYC o waith W.S. Jones, ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Madog 1987.

Utgorn Cymru 93 Hydref 2017 

Y Bygythiad i Fôn ROBAT IDRIS yn ein darbwyllo mai ffolineb fyddai caniatau codi ail atomfa ar wastadeddau’r Ynys Gymraeg.
Frankenstein 1818 Yr Athro E. WYN JAMES yn sôn am gysylltiadau Cymru â’r stori adnabyddus gan Mary Shelley.
Eifionydd Sgwrs a draddodwyd gan MARGIAD ROBERTS yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai am enwau lleoedd yn Eifionydd.
Thomas Gee IEUAN WYN JONES, A.S. Ynys Môn, o 1987 hyd 2001 ac A.C. y sir o 1999 hyd 2013, yn adrodd hanes Cymro arbennig a fu’n flaengar iawn yn y 19eg ganrif.
I’r Gad HARRI PARRI a TREFOR JONES yn parhau â hanes Dafydd Crowrach, y gwas fferm o Lýn, a’i ymadawiad i’r Rhyfel Mawr yn canlyn dyfodiad Deddf Gwasanaeth Milwrol 1916.

Utgorn 92, Gaeaf 2018
Cyflwynydd:  Morgan Jones

Anterliwt yn Eifionydd Cyn-archifydd Gwynedd, GARETH HAULFRYN WILLIAMS, yn adrodd hanes anterliwt a berfformiwyd gan actorion proffesiynol ar aelwyd un o ffermdai Eifionydd yng nghyfnod Cromwell.
Pen ar y mwdwl JEAN HEFINA OWEN o Ddyffryn Nantlle, yn ei thrydedd sgwrs hwyliog, yn sôn am rai o atgofion ei Nain am bentre Pen-y-groes a’i lysenwau.
O d’wllwch i oleuni HOWARD HUWS yn parhau â’i astudiaeth ddiddorol o hen galendr y Cymry o gyfnod gwyl y Nadolig, y Plygain, y goleuni a’r canhwyllau at y Pasg a’r Sulgwyn.
Calendr Uwchgwyrfai Gwybodaeth am y digwyddiadau yn y Ganolfan hon gan DAWI GRIFFITHS, y Cadeirydd.
Canlyniadau beirniadaeth                        “Y Deyrnas” Y drydedd ran o sgwrs PRYDERI LLWYD JONES ble mae’n sôn am ganlyniadau beirniadaeth a chyhuddiadau eofn cylchgrawn poblogaidd “Y Deyrnas” yn erbyn D. Lloyd George a’r llywodraeth a’r eglwysi am iddynt hyrwyddo’r Rhyfel Mawr.
Gwas fferm yn y Betws Bach HARRI PARRI a TREFOR JONES yn adrodd rhagor o hanes Dafydd Crowrach o L^yn ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.
Brexit a Chymru Cyfrannwr newydd i’r Utgorn, HUW PRYS JONES, o Lanrwst,  y newyddiadurwr, y golygydd a’r ymgynghorydd iaith, yn cyflwyno’r erthygl a enillodd iddo wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn, 2017.
Utgorn Cymru 91                      Hydref 2017                  Cyflwynydd: Morgan Jones
Cyfenwau disgrifiadol Yr olaf mewn cyfres o sgyrsiau gan YR ATHRO BRANWEN JARVIS, yn sôn y tro hwn am gyfenwau disgrifiadol Cymreig ac yn rhoi ei barn am ddefnyddio’r gair ‘ap’ mewn enwau merched.
Erlid gwrthwynebwyr (1914-18) Ail ran sgwrs PRYDERI LLWYD JONES sydd yn sôn am wrthwynebu cydwybodol yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan ei gymhwyso i’n hoes ni, ganrif yn ddiweddarach.
‘Robin Satan’ a ‘Nhad JEAN HEFINA OWEN o Ddyffryn Nantlle, yn ei ffordd ddifyr a hwyliog, yn adrodd hanes ei thaid a’i thad.
Gosod trefn ar amser Un o ffrindiau ffyddlon yr Utgorn, HOWARD HUWS, yn adrodd hanes dynoliaeth yn ceisio rhoi trefn ar amser trwy greu a datblygu calendrau i nodi’r amserau, y tymhorau a’r gwyliau.
Calendr Uwchgwyrfai Cadeirydd y Ganolfan Hanes, DAWI GRIFFITHS, yn croniclo gweithgareddau’r tymor hwn.
Dafydd Crowrach mewn cariad Hanes un a fu’n was yn rhai o ffermydd gwlad Llŷn ar ddechrau’r 20fed ganrif gan HARRI PARRI a TREFOR JONES.
Diwrnod dyrnu. TWM ELIAS, un o awduron ‘Y Dyrnwr Mawr’, yng nghyfres Llyfrau Llafar Gwlad gan wasg Carreg Gwalch, yn sôn am ‘wyllt beiriant yr ysguboriau’ a’r diwrnod dyrnu.
Baled Glyn Roberts: Pan gyll y call yng Ngwynedd. EMLYN RICHARDS, awdur arall ‘Y Dyrnwr Mawr’, yn cyflwyno baled o waith y diweddar Glyn Roberts o Bwllheli sydd yn condemnio polisi ffol Cyngor Gwynedd yn cau ysgolion ein pentrefi. Y diweddar annwyl HARRI RICHARDS,brawd Emlyn, sydd yn canu’r faled.
 
Utgorn Cymru 90   Haf 2017 Cyflwynydd: Morgan Jones
Tribannau rhybuddiol Ychwaneg o sgwrs TEGWYN JONES ar y tribannau sydd, y tro hwn, yn sôn am y defnydd wnaed o’r mesur i adrodd helyntion gwleidyddol Cymru ac i ymosod ar wendidau moesol ac arferion drwg ei phobl.
Edmund Hyde Hall GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn-archifydd Gwynedd, gyda dadleniad hynod a diddorol am gyfrol Saesneg am yr hen sir Gaernarfon a gyhoeddwyd ym 1811.
Gwas yn Llŷn Ail ran sgwrs ddifyr HARRI PARRI a TREFOR JONES am atgofion dyn ifanc a fu’n was ffarm yn Llŷn ac yn filwr yn y Rhyfel Mawr.
Y Calendr DAWI GRIFFITHS, Cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn sôn am yr amrywiol weithgareddau sydd wedi eu trefnu ar gyfer Gwanwyn 2017.
Y Mab Darogan Yr olaf o sgyrsiau JOHN DILWYN WILLIAMS ar y ffordd y derbyniwyd Harri Tudur fel y Mab Darogan Cymreig, ‘achubudd ein pobl’.
Seisnigo Cyfenwau BRANWEN JARVIS yn trafod y ffordd y newidiwyd ac y Seisnigwyd yr hen ffordd Gymreig o arfer cyfenwau.
Pa Hanes? O Sêt y Gornel mae GERAINT JONES yn tynnu sylw at y diffygion echrydus sydd yn bodoli yn y modd y dysgir hanes yn ysgolion Cymru ac am yr ymgyrch sydd ar droed i geisio unioni’r sefyllfa.
Llew Llwydiarth y Derwydd WILLIAM OWEN, Borth-y-gest yn adrodd rhagor o hanes yr anfarwol Lew Llwydiarth o Fôn, y tro hwn yn rhoi sylw i’w briod faes fel bardd a derwydd gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Môn.
 
Utgorn Cymru 89                      Gwanwyn 2017      Cyflwynydd: Morgan Jones  
Ymdaith yr Hen Gymry HUW DYLAN OWEN, Treforus; awdur, hanesydd, cerddor a gŵr gweithgar dros y Gymraeg yn ardal Abertawe, yn sôn am yr alaw ‘Ymdaith yr Hen Gymry’ ac yn ei chyplysu â’r orymdaith a’r cofio blynyddol yng Nghilmeri.
Rhagor o eiriau Sir Fôn Tamaid arall o huotledd W.H.ROBERTS, Niwbwrch, tra’n sgwrsio am gyfoeth hen iaith Môn.
Garmon HOWARD HUWS o Fangor, un arall o gyfeillion yr Utgorn, yn sôn am un o’r seintiau y seiliodd Saunders Lewis ei ddrama ‘Buchedd Garmon’ arno.
Cyfenwau Seisnigedig Yr Athro BRANWEN JARVIS yn parhau ar drywydd rhai o’r cyfenwau Cymreig a Chymraeg a ddatblygodd wrth i’r hen enwau traddodiadol gael eu Seisnigo.
Y tribannau gorau erioed? Yr olaf o’r detholiad o sgwrs ddifyr TEGWYN JONES, Bow Street, ar dribannau Morgannwg, sydd yn gorffen gyda thriban sydd gyda’r gorau, os nad y gorau un, o holl hanes y mesur.
Llew Llwydiarth – y diwedd Cyfraniad olaf WILLIAM OWEN, Borth-y-Gest am y rhyfeddol ac ofnadwy Lew Llwydiarth, y Llew Frenin.
Calendr y Ganolfan MARIAN ELIAS ROBERTS, ysgrifennydd cyffredinol  y Ganolfan hon, yn cyflwyno’r calendr gweithgareddau diweddaraf.
Williams Pantycelyn Rhan o ddarlith gan yr Athro E. WYNN JAMES, Caerdydd, ar ddau wrthrych mawr canu’r Pêr Ganiedydd: y Daith a’r Anwylyd.
Cymanfa Pistyll 1985 Mi dafla ‘maich (Tyddewi)
 
Utgorn Cymru 88                      Gaeaf 2016                          Cyflwynydd: Morgan Jones  
Tribannau rhybuddiol Ychwaneg o sgwrs TEGWYN JONES ar y tribannau sydd, y tro hwn, yn sôn am y defnydd wnaed o’r mesur i adrodd helyntion gwleidyddol Cymru ac i ymosod ar wendidau moesol ac arferion drwg ei phobl.
Edmund Hyde Hall GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn-archifydd Gwynedd, gyda dadleniad hynod a diddorol am gyfrol Saesneg am yr hen sir Gaernarfon a gyhoeddwyd ym 1811.
Gwas yn Llŷn Ail ran sgwrs ddifyr HARRI PARRI a TREFOR JONES am atgofion dyn ifanc a fu’n was ffarm yn Llŷn ac yn filwr yn y Rhyfel Mawr.
Y Calendr DAWI GRIFFITHS, Cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn sôn am yr amrywiol weithgareddau sydd wedi eu trefnu ar gyfer Gwanwyn 2017.
Y Mab Darogan Yr olaf o sgyrsiau JOHN DILWYN WILLIAMS ar y ffordd y derbyniwyd Harri Tudur fel y Mab Darogan Cymreig, ‘achubudd ein pobl’.
Seisnigo Cyfenwau BRANWEN JARVIS yn trafod y ffordd y newidiwyd ac y Seisnigwyd yr hen ffordd Gymreig o arfer cyfenwau.
Pa Hanes? O Sêt y Gornel mae GERAINT JONES yn tynnu sylw at y diffygion echrydus sydd yn bodoli yn y modd y dysgir hanes yn ysgolion Cymru ac am yr ymgyrch sydd ar droed i geisio unioni’r sefyllfa.
Llew Llwydiarth y Derwydd WILLIAM OWEN, Borth-y-gest yn adrodd rhagor o hanes yr anfarwol Lew Llwydiarth o Fôn, y tro hwn yn rhoi sylw i’w briod faes fel bardd a derwydd gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Môn.
 
Utgorn Cymru 87
Hydref 2016                          Cyflwynydd:Morgan Jones
 
Llew Llwydiarth(3) WILLIAM OWEN, Borth-y-gest, gyda’r drydedd ran o hanes  rhyfeddol Llew Llwydiarth: y blaenor Methodist awdurdodol, y cynghorwr sir, a’r teyrngedwr angladdau di-flewyn-ar-dafod.
Calendr Uwchgwyrfai DAWI GRIFFITHS, cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, gyda manylion am ddigwyddiadau’r misoedd nesaf.
Y Mab Darogan (3) Rhagor o hanes   Mab Darogan honedig y Cymry yn ail hanner  y 15ed ganrif a’r ymgiprys gwallgof am goron a grym, gan JOHN DILWYN WILLIAMS.
Iaith Môn – Personoliaethau Y diweddar W.H.ROBERTS, Niwbwrch,  gyda’i  ffraethineb a’i ffrwd lifeiriol gref , yn ein cyflwyno i bersonoliaethau yn iaith lafar Môn a rhan ogleddol  Gwynedd.
Rhagor o Gyfenwau Yr Athro BRANWEN JARVIS yn   sôn am enghreifftiau o gyfenwau Cymreig a Chymraeg  a Seisnigwyd ac sy’n parhau hyd heddiw.
Tribannau Morgannwg (3) Mwy o hanes y tribannau a’r modd y maent yn ymwneud â phobl gyffredin, am ddigwyddiadau pob dydd, am droeon trwstan, ac am arferion yr oes, gan TEGWYN JONES .
Morgan Rhys yr emynydd DAWI GRIFFITHS yn cofio am Morgan Rhys, Llanfynydd, un o emynwyr enwog sir Gaerfyrddin, a’i gyfraniad enfawr i grefydd a llenyddiaeth ein cenedl.
Pant Corlan yr Ŵyn HUW DYLAN OWEN, cyfrannwr newydd a chefnogwr ffyddlon i’r Utgorn o’r cychwyn, yn sôn am un o’n ceinciau mwyaf adnabyddus.
 
Utgorn Cymru 86    Haf 2016 Cyflwynydd: Morgan Jones  
Fy mrawd Gerallt Y PRIFARDD a’r ARCHDDERWYDD GERAINT LLOYD OWEN, yn y drydedd ran o’i sgwrs yn sôn am gymdeithas wledig y Sarnau ym Meirionnydd, a’i dylanwad ar ei frawd ac yntau.
Tribannau Morgannwg (2) TEGWYN JONES, ein prif awdurdod ar fesur y triban, yn datgelu pam y’i gelwir yn driban Morgannwg.
Chwarae Plant Y diweddar W.H.ROBERTS, Niwbwrch, Môn, yn sôn am chwaraeon plant a’r rhigymau oedd yn gysylltiedig â’r chwaraeon hynny pan oedd ef ei hun yn blentyn ar iard yr ysgol,
Llew Llwydiarth (2) WILLIAM OWEN, Borth-y-gest, gyda’i ail ran o hanes un o gymeriadau rhyfeddaf Ynys Môn – y tro hwn, y ffermwr, yr hyfforddwr adroddwyr  a’r beirniad.
Y Rhyfel Mawr HARRI PARRI a TREFOR JONES, dau o gyn-weindogion tref Caernarfon, yn sôn am deulu o Lŷn a’i gysylltiadau â’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Diwylliant Gwerin ROBIN GWYNDAF, Cymrawd Ymchwil er anrhydedd yn Amgueddfa Werin Cymru, yn sgwrsio nid yn unig am gadw ein diwylliant gwerin ar gof a chadw ond hefyd am bwysigrwydd ei rannu.
Y Mab Darogan (2) J. DILWYN WILLIAMS yn parhau â hanes Tuduriaid Penmynydd gan ganolbwyntio ar gerddi ynglŷn â gobaith mawr Cymry’r canrifoedd am ddyfodiad y Mab Darogan.
Peidiwch â’u cau! EMLYN RICHARDS gyda chyfraniad nodweddiadol ffraeth a sylwgar yn sôn am rai o’r sefydliadau hynny, fel ysgol, capel a siop, sydd yn galon i’n cymdeithas wledig Gymraeg ond a ddaw dan lach yr awdurdodau.
 
Utgorn Cymru 85      Gwanwyn 2016      Cyflwynydd: Morgan Jones  
Tribannau Morgannwg TEGWYN JONES yn parhau ei ddarlith ddifyr ar y tribannau ac yn egluro paham mai fel tribannau Morgannwg y cyfeirir at y mesur arbennig hwn.
Fy mrawd Gerallt Ail ran sgwrs y PRIFARDD GERAINT LLOYD OWEN  am y fagwraeth gafodd ei frawd, y Prifardd Gerallt Lloyd Owen ac yntau ym Meirionydd ac sydd hefyd yn ein hatgoffa o Gymru fel yr oedd ac fel y mae rhai priodoleddau yn dal gyda ni er gwaethaf pob dirywiad.
Cyfenwau Cymreig YR ATHRO BRANWEN JARVIS  yn darlithio ar gyfenwau Cymreig ac yn datgelu sawl cyfenw, mewn mwy nag un iaith, sydd â’u gwreiddiau yn yr hen gyfenwau traddodiadol Cymraeg.
Calendr y Ganolfan SARAH G. ROBERTS yn crynhoi ein gweithgareddau.
Llew Llwydiarth WILLIAM OWEN, BORTH-Y-GEST, yn rhan gyntaf ei sgwrs yn adrodd hanes gŵr rhyfeddol ac unigryw o Fôn –  amaethwr, bardd a derwydd gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Môn.
Y Mab Darogan J. DILWYN WILLIAMS, yn un o gyfarfodydd poblogaidd “Ein Gwir Hanes” a gynhelir yn rheolaidd yng Nghanolfan Uwchgwyrfai, yn trafod lle canolog y Mab Darogan yn hanes Cymru.
Pen-blwydd y Ganolfan GERAINT JONES,  o Sêt y Gornel yn sôn am agoriad swyddogol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ddeng mlynedd yn ôl ac am addasrwydd arbennig Clynnog Fawr i fod yn gartref i’r Ganolfan. Cawn hefyd wrando ar ran o ddarlith ysgubol a draddodwyd ar yr achlysur hwnnw gan y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards.
Eben Fardd a Brwydr Maes Bosworth, 1485. Rhannau o ddarlith y Diweddar ATHRO HYWEL TEIFI EDWARDS ar y testun hwn yn agoriad swyddogol y Ganolfan.
Utgorn Cymru 84               Gaeaf   2016                               Cyflwynydd:  MorganJones                                      
Fy mrawd, Gerallt Rhan gyntaf sgwrs a draddodwyd gan y PRIFARDD GERAINT LLOYD OWEN yng nghyfarfod  ‘Cofio Cilmeri’ yng Nghanolfan Uwchgwyrfai, sydd yn sôn am ei frawd Gerallt ac am eu magwraeth yn ardal y Sarnau, Meirionydd a’r  dylanwadau fu arnynt.
Ar gyfer pwy? GERAINT JONES, o Sêt y Gornel, yn sôn am bolisi gwallgof llywodraeth Cymru i godi miloedd o dai newydd, diangen ledled ein gwlad; polisi a lyncwyd yn wasaidd gan ein cynghorau sir, a fydd yn drychinebus i gadarnleoedd y Gymraeg ac yn hoelen olaf yn arch ein hiaith.
Calendr Canolfan Uwchgwyrfai Ein cadeirydd brwd, DAWI GRIFFITHS, yn cyhoeddi’r llu o weithgareddau diwylliannol a gynhelir yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai.
Anturiaeth ryfeddol Yr hanesydd ROBERT MORRIS yn adrodd un o storïau mwyaf rhyfeddol hanes Cymru am ŵr o’r Waun-fawr yn Arfon aeth ar daith yn y 18fed ganrif i ogledd America i chwilio am yr Indiaid Cymraeg eu hiaith.
Gwenllïan GWENLLÏAN JONES  yn ein tywys yn ôl i’r 13eg ganrif, un o gyfnodau tristaf a thywyllaf ein hanes, adeg lladd Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru, marwolaeth ei wraig Eleanor a chipio’i ferch, Gwenllïan, ei unig etifedd.
Mewn trallod YR ATHRO PEREDUR LYNCH yn rhannu rhan o gywydd y mae wrthi’n ei ysgrifennu er cof am ei dad, y diweddar Barchedig Evan Lynch, ac sydd yn sôn am y  profiad dirdynnol a ddaw i ran gweinidog pan fydd yn gorfod delio â marwolaeth rhywun ifanc mewn damwain.
Naomi Stori, yn y person cyntaf, o’r Hen Destament, am Naomi ac am ffyddlondeb a’r ffordd i ymwneud â phobl sydd yn ddieithr i ni, gan BERYL GRIFFITHS. I gloi cawn glywed UN O’N CAROLAU PLYGAIN MWYAF ADNABYDDUS.
Utgorn Cymru 83                  Hydref 2015                           Cyflwynydd: Morgan Jones                                    
John Iorc Yr hanesydd ROBERT MORRIS yn adrodd hanes John Williams, brodor o Gonwy ac o hil Wynniaid Gwydir, a fu’n archesgob Caerefrog yn yr 17eg ganrif.
Harri Fawr a Harri Bach Harri’r Pumed a’i dad, Harri’r Pedwerydd, dau a fu’n ceisio sathru Owain Glyndwr a’i wrthryfel mawr, sydd o dan chwyddwydyr HOWARD HUWS, un arall o haneswyr Uwchgwyrfai.
Calendr Canolfan Uwchgwyrfai Gweithgareddau’r misoedd diwethaf a’r rhai sydd ar y gweill gan SARAH G. ROBERTS, un o aelodau pwyllgor Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.
Anerchiad Lloyd George DAFYDD GLYN JONES yn sôn am anerchiad gan Lloyd George mewn cyfarfod mawr yn Llundain ar y 19eG o Fedi 1914 a drefnwyd er mwyn ricriwtio a ‘chodi hwyl o blaid y rhyfel’ .
Angladd Eben Fardd GERAINT JONES, mewn cyfarfod cofio yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn adrodd hanes angladd Eben Fardd ym 1863, a oedd ‘fel claddu tywysog ymhlith ei bobl’.
‘O fy Iesu Bendigedig’ I ddilyn clywn y gynulleidfa’n canu emyn mawr Eben Fardd.
 
Utgorn Cymru 82
Haf 2015
Cyflwynydd: Morgan Jones
                   
 
John Jones y Sêr GWAWR JONES
Pulpud Plu GERAINT JONES
Calendr Uwchgwyrfai DAWI GRIFFITHS
Englynion cyfarch PEREDUR LYNCH
Archif Tryweryn EINION THOMAS
Tribannau TEGWYN JONES
Catrin o Ferain ROBIN GWYNDAF
Iaith y Cofi BEDWYR LEWIS JONES
Napoleon RICHARD HUGHES