Utgorn Cymru

Utgorn 111 (Hydref 2022)

Cyflwynydd:  Morgan Jones

Dafydd Ddu Eryri DAWI GRIFFITHS yn dwyn i gof ddauganmlwyddiant marw’r bardd, athro beirdd ac ysgolfeistr. Fe’i hanfarwoldyd yn un o sonedau mawr R.  Williams Parry, “Ymson ynghylch amser” sy’n dechrau fel hyn:  “Hon ydyw’r afon, ond nid hwn yw’r dŵr a foddodd Ddafydd Ddu..”
Mordaith Dau Gyfaill GWAWR JONES yn adrodd stori afaelgar am Iorthryn Gwynedd a Thanymarian, dau weinidog amlwg yng Nghymru, a adawodd ddociau Lerpwl i hwylio dros yr Iwerydd i Efrog Newydd ar y llong “City of Paris” a thros fil o deithwyr ar ei bwrdd. Diweddodd y daith mewn modd hynod drist a theimladwy.
Helyntion          William Morgan ERYL OWAIN yn sôn am rai o’r helyntion annifyr a ddaeth i ran yr Esgob William Morgan. Er y croeso a’r canmol diddiwedd ynghyd â chywydd digri Rhys Gain a’i wyddau a Teigr, sef milgi gwyllt yr Esgob,  bu pennod chwerw iawn yn ei hanes – pennod yr ymdaro â theulu Lloran Uchaf ac Ifan Meredydd, y cyfreithiwr.
Dirgelwch                      y Brenin Coll Rhan gyntaf sgwrs BOB MORRIS. Y Brenin dan sylw yw Edward yr Ail a elwid Edward o Gaernarfon hyd nes iddo gael ei goroni yn 1307. Roedd perthynas agos rhyngddo a dau Gymro amlwg.
Gildas (2) IESTYN DANIEL yn manylu ar Lythyr Gildas, prif waith ein hanesydd cyntaf un a ysgrifennwyd tua’r flwyddyn 520 – o bosib ar Ynys Echni. Mae’n colbio Maelgwn Gwynedd yn ddidrugaredd ac ymbilia arno i roi’r gorau i’w ddrygioni ac addoli Duw.

Utgorn 110 (Haf 2022)

Cyflwynydd:  Morgan Jones

Apêl y Golygydd Apêl GERAINT JONES am gefnogaeth i safiad di-ildio  y Ganolfan hon yn erbyn Eglwys Bresbyteraidd Cymru am eu bod wedi diddymu ein hawliau ynglýn ã stiwdio Utgorn Cymru a’n gorchymyn i wagio’r ystafell rhag blaen er mwyn iddynt hwy gael ei gwerthu.  Y canlyniad yw y gall y rhifyn hwn o Utgorn Cymru fod yr olaf un a bod y Ganolfan ei hun yn y fantol.
Saunders Lewis SAUNDERS LEWIS yn adrodd Gweddi’r Terfyn, un o’i gerddi mawr olaf;  yn cofio’r gymdeithas uniaith Gymraeg y bu’n byw ynddi yn Lerpwl a’r modd y dylanwadodd Emrys ap Iwan arno.
Cipolwg Teuluol Cipolwg dadlennol R. TUDUR JONES ar fywyd teuluol yn Eifionydd yn cynnwys y cefndir crefyddol holl-bresennol, llongdddrylliad erchyll a ddaeth i ran un o’r teulu a mân betheuach difyr.
Hen Ŵr Pencader GERAINT JONES yn dwyn i gof achlysur dadorchuddio cofeb Hen Ŵr Pencader o wenithfaen Trefor yn 1952. Ar ei daith trwy Gymru yn 1163 gofynnodd y brenin Harri II am ba hyd y llwyddai Cymru i wrthsefyll grym ac awdurdod Lloegr.  Ond mynnodd un hen ŵr dienw, dewr, roi ateb grymus ac urddasol iddo.
Gildas IESTYN DANIEL cyfieithydd tra chymeradwy ac awdurdod ar gefndir, bywyd a gwaith Gildas, ein hanesydd cynharaf.  Rhoddodd Gildas le yn ei waith i’r modd y parhaodd dylanwad yr Ymerodraeth Rufeinig ar ein gwlad yn ei gyfnod ef. Hanai o’r Hen Ogledd, mae’n debygol ei fod yn ddisgybl i Cadfan, a bod tyndra rhyngddo ef a Dewi Sant a’i ddilynwyr.   Ysgrifennai yn Lladin ac roedd ganddo wybodaeth o’r Frythoneg
Yr Esgob William Morgan

Haf Gwlyb 1922

“Ai lyf Cynafron”

ERYL OWAIN  yn crynhoi cynnwys ei lyfr difyr  yn adrodd hanesion am yr Esgob ei hun, ei gartref a’i fro, a’i ymroddiad llwyr i’r gwaith o gyfieithu’r Beibl er gwaethaf bygythiadau ac anawsterau lu.

DAWI GRIFFITHS  yn y cyfnod presennol o newid hinsawdd yn cael ei atgoffa o eithafion tywydd Haf 1922, ganrif union yn ôl, testun cywydd byr, byr, crefftus R. Williams Parry.

Darn byrrach fyth, hwyliog, gan RICHARD HUGHES, Y CO’ BACH, y tro hwn yn dangos dawn arall oedd ganddo.

Utgorn 109  (Gwanwyn 2022)

Cyflwynydd: Morgan Jones

Cofio Tynged yr Iaith Cofio Darlith Radio SAUNDERS LEWIS, 13 Chwefror 1962. Cyfle i wrando ar funudau olaf “Tynged yr Iaith” gyda sylw arbennig i ymdrech ddi-ildio Trefor ac Eileen Beasley am 8 mlynedd cyn llwyddo i gael papur y dreth yn Gymraeg ac wedi i 400,000 arwyddo deiseb. Yna recordiad o ran o’r cyfarfod yng Nghanolfan Uwchgwyrfai i anrhydeddu Eileen Beasley yn 2012, yn cynnwys cyflwyno englynion godidog Y Parifardd Ieuan Wyn iddi.
Pwy biau yr Esgob William Morgan? ERYL OWAIN yn adrodd hanes dadlau tanbaid yn y wasg rhwng plwyfi Penmachno a Dolwyddelan am yr hawl i fod yn berchen ar Yr Esgob William Morgan, cyfieithydd Y Beibl i’r Gymraeg.
Canolfan Hafodceiri SIANELEN PLEMING yn adrodd hanes sefydlu cynllun Hafodceiri : Canolfan Dreftadaeth ym mhentref Llithfaen ar odre deheuol mynyddoedd yr Eifl.
T. Artemus Jones Ail ran sgwrs BOB MORRIS am y cyfreithiwr a’r barnwr enwog, yn cynnwys achos Syr Roger Casement, y diplomydd cydwladol a gyhuddwyd o deyrnfradwriaeth yn yr Old Bailey yn 1916.
Afon yng Nghlynnog MARIAN ELIAS ROBERTS yn deisyfu ar i Lywodraeth Cymru ddiogelu enwau lleoedd  yn statudol fel mater o frys trwy dynnu sylw at y cysylltiadau rhyfeddol rhwng afon y codwyd pont drosti ym mhlwy Clynnog yn 1777 ac un o “Englynion y Beddau”, Elidir Mwynfawr, ceffyl hynod, Afon Gweryd yn yr Alban a nifer o chwedlau eraill.
Y Co’ Bach RICHARD HUGHES  yr adroddwr yn parhau â straeon poblogaidd “Y Co Bach” o waith Gruffudd Parry, yn cynnwys hanes y dannedd gosod.

Utgorn 108  (Gaeaf 2022)

Cyflwynydd: Morgan Jones

T. Artemus Jones BOB MORRIS, yr hanesydd poblogaidd, yn dwyn i gof fab i saer yn Ninbych a ddaeth yn un o fargyfreithwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn ei ddydd. Ymysg rhai o’i achosion enwocaf oedd amddiffyn W.J. Parry adeg Streic Fawr y Penrhyn, a’r drwgweithredwr Coch Bach Y Bala.  
Syr Hugh Ellis Nannau R. TUDUR JONES, trwy gyfrwng dyddiaduron ei daid, yn gweld patrwm bywyd ar Stad y Gwynfryn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel ffiwdaliaeth. 
Menter Plas Carmel ELFED GRUFFYDD, un o gymwynaswyr mawr Gwlad Llŷn, yn sôn am y modd y llwyddwyd i ddenu cyllid i adfer capel bach Carmel, Anelog, a’r tŷ dan yr unto yn ogystal â’r siop. Bydd y tŷ ar gael i’w osod i deulu lleol yn y dyfodol agos ac mae’r siop/bwyty/arddangofa eisoes yng ngofal pâr ifanc brwdfrydig.
Pais Dinogad DAWI GRIFFITHS yn gweld patrwm bywyd blentyn bach mewn hwiangerdd a drosglwyddwyd ar dafod leferydd o genhedlaeth i genhedlaeth o’r chweched ganrif. Fe’i hysgrifenwyd tua’r ddeuddegfed ganrif ac mae hi yma o hyd. 
Llysenwau Bangor HOWARD HUWS yn cael hwyl ar rannu â ni ran o’i gasgliad helaeth o lysenwau gwreiddiol ardal Bangor.
Y Co’ Bach Y llysenw enwocaf oll hanner canrif yn ôl oedd Y Co’ Bach (o Gaernarfon), ffefryn llwyfan yr hen Noson Lawen. Yma ceir ei hanes ef, Yr Hen Fodan (ei wraig), a Wil Bach (eu mab), yn Eisteddfod Bangor, 1971.  RICHARD HUGHES yw’r adroddwr.

Utgorn 107  (Hydref 2021)

Cyflwynydd: Morgan Jones

Johnny Owen GERAINT JONES, Golygydd yr Utgorn, yn dwyn i gof y bocsiwr pwysau bantam o Ferthyr Tudful, a fu’n byw a marw wrth ei waith.
Dinas Emrys DAWI GRIFFITHS yn mwynhau dringo i ben hen gaer Dinas Emrys yn Nantgwynant, Eryri, safle o bwys yn hanes Cymru y cysylltir chwedlau am y ddraig wen a’r ddraig goch â hi ac y cafwyd tystiolaeth archaeolegol ddifyr ynddi.
Syr Hugh Ellis Nannau R. TUDUR JONES yn sylwi ar berthynas Sgweiar y Gwynfryn â’i weithwyr mewn byd tlawd, caled, yn nyddiaduron ei daid, Robert Williams, saer coed y Gwynfryn.
Creulondeh annynol am wrthod cytuno i  bleidleisio i Geidwadwr. MARIAN ELIAS ROBERTS yn adrodd hanes gorthrwm ffiaidd landlordiaeth  ddidostur y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mhenllyn, Meirionnydd ac am ymdrech un ffermwr i oresgyn creulondeb annynol a thorïaidd meistr tir yn dilyn etholiadau seneddol.
Madrun Nyfain JINA GWYRFAI, Curadur Amgueddfa Forwrol Nefyn, yn sgil darganfod sgerbwd menyw mewn cist garreg yno yn ddiweddar, oedd yn hanner cant oed rhwng 1165 a 1270, yn agor ein llygaid i gyfnod allweddol yn hanes Cymru.
W. Gilbert Williamss GARETH HAULFRYN WILLIAMS wedi ei swyngyfareddu gan arloeswr dylanwadol ym maes hanes lleol a chymwynaswr mawr Hanes Cymru.

Utgorn 106  (Haf 2021)

Cyflwynydd: Morgan Jones
Gwreiddiau yn Eifionydd R. TUDUR JONES, un o gewri’r ugeinfed ganrif, yn adrodd stori gartrefol, ddifyr am ddyddiadur gwaith ei dad sydd yn cynnwys rhai arferion cymdeithasol colledig ymysg hyd at dair cenhedlaeth o seiri meini. Byrdwn y stori yw ei bod yn hen arfer mewn rhannau o’n gwlad i losgi holl bapurau’r teulu wedi iddynt farw, a hynny er dirfawr golled i bawb. Recordiwyd y sgwrs hon chwarter canrif yn ôl. Y 28ain o Fehefin eleni yw canmlwyddiant ei eni.
Enwau Lleoedd yn Eifionydd MARGIAD ROBERTS yn parhau i’n goleuo ar darddiad rhai enwau lleoedd.
Dyn codi pwysau ALWYN PRITCHARD, dyn codi pwysau go iawn, yn ein swyno â’i hanes ef ei hun yn bencampwr codi pwysau lled drwm Cymru ddeugain mlynedd a rhagor yn ôl, heb anghofio ei ddau gyfaill, Ieuan Owen, Caernarfon ac Eifion Hughes, ffermwr Brychyni yn Eifionydd â’i fôn braich syfrdanol o nerthol.
Dafydd William, Llandeilo Fach DAWI GRIFFITHS yn tynnu sylw at drichanmlwyddiant geni Dafydd William, Llandeilo Fach, eleni – teiliwr, un o athrawon cylchynol Griffith Jones, Llanddowror, pregethwr a bardd. Fe’i hystyrir ymysg y dosbarth o emynwyr agosaf o ran safon at William Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths.
Rhai meddyginiaethau ym myd anifeiliaid fferm

Hyn sydd yn ofid im

ANNE ELIZABETH WILLIAMS, awdur Meddyginiaethau Gwerin Cymru, un o’n llyfrau pwysicaf un, yn codi cwr y llen ar rai meddyginiaethau ym myd anifeiliaid fferm tuag at wella dolur gwddw, rhyddni, moelni, pigiad draenen, niwmonia, y pas a phigiad neidr.

DAFYDD IWAN yn canu ei gân o’r saithdegau sydd yn edrych ar ein brwydr ni yng Nghymru fel rhan o frwydrau cyffelyb ledled y byd.

Utgorn 105  (Gwanwyn 2021)

Cyflwynydd: Morgan Jones
Gerallt Lloyd Owen Atgofion difyr EVIE WYN JONES  am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen a fu’n gyfaill agos ac yn gymydog iddo.
Ellis Bryn Coch MARIAN ELIAS ROBERTS yn dwyn i gof yr arlunydd a’r cartwnydd athrylithgar Ellis Owen Ellis, Bryn Coch, Aber-erch, gan olrhain hanes ei Oriel y Beirdd, un o drysorau diflanedig ein cenedl.
Capel Bach Nanhoron JOHN DILWYN WILLIAMS yn adrodd hanes Capel Ymneilltuol hynaf Gogledd Cymru sydd â’i ddyfodol bellach yn ddiogel.
Enwau Lleoedd yn Eifionydd Y tro hwn, Bwlch, Drws a Llysiau yw pynciau ymchwil MARGIAD ROBERTS.
Llun gwerthfawr Stori gyffrous GARETH HAULFRYN WILLIAMS am lun a ddarganfuwyd o fewn ffiniau Uwchgwyrfai a fu’n loes calon i deulu uchelwriaethol ond yn llawn llawenydd i rai estroniaid.

Utgorn 104  (Gaeaf 2021)

Cyflwynydd: Morgan Jones
Llwythi   Llongau Llŷn Sgwrs ddifyr gan GARETH HAULFRYN            WILLIAMS, cyn archifydd Gwynedd, am y cyfnod 300 mlynedd a rhagor yn ôl cyn bod sôn am y lôn bost pan ddibynnid llawer ar longau i gludo      gwahanol nwyddau.
O.M. Edwards DAWI GRIFFITHS yn dod â hanes OM Edwards i ben trwy olrhain ei hanes fel prif arolygwr addysg Cymru a chawn hanes ei wraig Elin a’i diwedd adfydus, ei ymlyniad yn ystod y Rhyfel Mawr  at weithgareddau recriwtiol John Williams Brynsiencyn, John Morris Jones a Lloyd George ac am y “Syr” a gafodd yn wobr am yr ymlyniad ymerodrol hwn.
Afonydd Eifionydd Y tro hwn aiff MARGIAD ROBERTS  i ddilyn lli’r afonydd yn bennaf yng nghwmwd Eifionydd. Gŵyr pawb, mae’n debyg, am Dwyfor a Dwyfach, Glaslyn ac Erch, ond beth am afonydd Carrog a Ferlas, Henwy a Chwilogen, Colwyn a Faig?  A llu o rai eraill.
Castell Gwrych Sgwrs ddifyr gan BOB MORRIS am Gastell Gwrych ger Abergele a Felicia Hemans, bardd cynhyrchiol mawr ei dylanwad a dreuliodd ran o’i phlentyndod yno. Enillai fwy o arian am ei gwaith hyd yn oed na Jane Austen, Wordsworth a Tennyson.  Dylanwadwyd rhywfaint arni gan y diwylliant Cymreig.
Nennius DAFYDD GLYN JONES yn parhau â’i ddarlith gyfoethog ar Nennius, yr hanesydd cynnar, cynnar yn ein hanes. Yma mae ar drywydd tri o enwogion Cymreig: Maelgwn Gwynedd, y Brenin Arthur a Gwrtheyrn.

Utgorn 103 (Hydref 2020)

Rhifynnau blaenorol yr Utgorn

Cylchgrawn Hanes llafar gwladgarol yw Utgorn Cymru a gyhoeddir yn chwarterol – Gwanwyn, Haf, Hydref, Gaeaf – i aelodau o’r Ganolfan ar ffurf cryno-ddisg neu MP3.

 Ceir hyd at 80 munud o sgyrsiau difyr a safonol ym mhob rhifyn, yn ymwneud â Chymru a’r Gymraeg:  Hanes,  Llenyddiaeth, Cerddoriaeth a Gwleidyddiaeth ddi-flewyn-ar-dafod, yn cynnwys Sêt y Gornel – golwg feirniadol y Golygydd ar y Gymru Vach a’i Sevydliad Seisnig, divater, clustvyddar. 

Byddwn yn anfon cryno-ddisg o’r Utgorn yn ddi-dâl at gannoedd o ddeillion a rhai â nam ar y golwg.

  • Anfonir rhai copïau at Gymry alltud, nifer dda ohonynt yng ngweddill gwledydd Prydain ond hefyd cyn belled â Phatagonia, Yr Almaen, UDA, Norwy, Awstralia a Seland Newydd.
  • Gwirfoddol yw’r holl waith a wneir ar gyfer y cylchgrawn hwn a sicrhawyd gwasanaeth ac addewidion nifer fawr o wirfoddolwyr talentog i gyfrannu sgyrsiau neu eitemau ar ei gyfer.

Golygydd/Cynhyrchydd          

Ysgrifennydd

Aelodaeth

Dosbarthydd

Archifydd

Y Cyflwynydd

Geraint Jones

Dawi Griffiths

Jina Gwyrfai

Jina Gwyrfai

Sarah G. Roberts

Morgan Jones

    Pwy bynnag sydd yn awyddus i dderbyn y cylchgrawn, cysyllter â ni: 

Utgorn Cymru, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, CAERNARFON,  Gwynedd.    LL54 5BT    hanes.uwchgwyrfai@gmail.com    01286 660  655 / 546

    Mae tanysgrifiad yr Utgorn yn gynwysedig yn y tâl aelodaeth.  Gweler AELODAETH.

Gadael Ymateb