Rhan bwysig o gynllun y Ganolfan oedd adfer dwy ardd sydd bellach yn ardd berlysiau draddodiadol a gardd fwthyn sydd yn tyfu blodau persawrus. Erbyn hyn maent yn adnodd amhrisiadwy a phrofiad nefolaidd yw bod ynddynt boed ymwelwyr neu weithwyr. Llafur gwirfoddol yw’r cwbl – y cynllunio, trin y tir, plannu, tirlunio ac ysgrifennu taflenni ac ati. Byddwn yn anelu at gyfarfod ar y Sadwrn cyntaf o’r mis i gynnal a chadw a mwynhad pur yw bod wrth y gwaith dan gyfarwyddyd Dr Anne Elizabeth Williams a Howard Williams.
Cydnabyddwn yn ddiolchgar gymhorthdal Amgylchedd Cymru tuag at brynu offer garddio, deunyddiau a dehongli er mawr hwylustod i ddatblygu’r ardd.
Y GARDDIO NESAF: 9 y bore hyd at hanner dydd, ar Sadwrn i’w bennu yn ystod y mis – ychydig ddyddiau ymlaen llaw gan ddibynnu ar y tywydd. Ceir te ddeg. Croeso mawr i wirfoddolwyr newydd. Y rhif cyswllt: 01286 660 655.
BLE MAE’R ARDD?
Ym mynedfa’r Ysgoldy mae yna ddôr yn arwain i’r ardd. Hefyd gellir camu iddi o’r Ysgoldy ei hun.