Yr hyn sydd gennym i’w gynnig:
(i) Gardd Uwchgwyrfai
Perlysiau a blodau bwthyn yn fwyaf arbennig. Mae gennym daflen i alluogi ymwelwyr i ddarllen am y planhigion. Trefniant ymlaen llaw. (01286 660 853/655). Cydnabyddwn yn ddiolchgar gymorth Amgylchedd Cymru yn y gorffennol.
(ii) Yr Arddangosfa yn Yr Ysgoldy (a gynhelir yn achlysurol).
(ii) Yr Archif Ddigidol
Mae angen trefnu ymlaen llaw. Gellir gwrando ar sgwrs neu ddwy o Utgorn Cymru, gweld y llyfrau a’r cryno-ddisgiau sydd gennym, rhai papurau bro lleol, a chael gwybod am hanes lleol, ac am y lleoedd diddorol i’w gweld, ayb.