Grwpiau

2007_0728Marian0215

Ymweliadau Grwpiau trwy drefniant ymlaen llaw, yn cynnwys ar y Sul

Cynigir gwahanol raglenni i gymdeithasau, pererindodau, ac ati.
Mae hyn yn cynnwys:

(i) sgwrs oddeutu hanner awr

Cynigir dewis o wahanol bynciau e.e. fel arfer yr Arddangosfa gyfredol (yn yr haf) neu sgwrs ar y planhigion meddyginiaethol neu ar agwedd ar hanes Uwchgwyrfai. Dewis arall yw gweld hen ffilmiau neu hen raglenni fideo ayb ayb sydd yn ein meddiant.

(ii) cip ar yr Ardd Gymunedol Hanesyddol (os bydd yng ngolau dydd)

Bydd rhai grwpiau hefyd yn trefnu ymweliad ar y cyd ag Eglwys Beuno, Clynnog Fawr, trwy gysylltu â’r Parchedig Lloyd Jones 01286 660 547.

Mae Capel Ebeneser (sydd rhwng ein Harchifdy a’r Ysgoldy lle y gwelir yr Arddangosfa) mewn cyflwr rhagorol ac yn cynnal oedfaon ar y Sul. Ar ddau achlysur trefnodd un bererindod ei gwasanaeth ei hun yno pan oedd yn ymweld â’r Ganolfan a’r Eglwys.

Mae rhai grwpiau Merched y Wawr wedi trefnu i aros yma i gael pwyllgor yn union ar ôl y sgwrs neu ar ôl gweld yr arddangosfa.

Gadael Ymateb