2014

CYFARFODYDD 2014

Mae gennym bedwar math:

  • y cyfarfodydd diwylliannol arferol ar nos Fercher ola’r mis. Tâl mynediad: £1
  • y cyfarfodydd dathlu arbennig – Gŵyl Glyndŵr a Chofio Llywelyn
  • y cylch trafod llyfrau (Cyfeillion Eban) – ar drydedd nos Fawrth y mis.  Ni fydd pwys ar neb i agor y mater na chyfrannu os nad ydynt yn dymuno, ac nid oes tâl aelodaeth, ond  derbynnir cyfraniad at y lluniaeth.
  • yn dilyn llwyddiant y diwrnod arloesol AR WIB TRWY HANES CYMRU ym mis Hydref 2013 trefnwyd cyfarfod BE NESA? i ddechrau ac yna dri chyfarfod i edrych yn fanylach ar gyfnodau allweddol yn hanes ein gwlad – “Ein Gwir Hanes”.  Fe’u trefnwyd ar ddyddiau Sadwrn, 10.30 – 2.30. Mynediad am ddim, paned am ddim ond gofynnwyd i bawb ddod â thamaid o fwyd.

18 Ionawr             

BE NESA?        EIN GWIR HANES (2)                                                                                                                                                                Y ffordd ymlaen i gynorthwyo’r safiad yn erbyn dadfeiliad  y Gymru Gymraeg. Bedair blynedd ers trychineb canlyniadau’r Cyfrifiad mae sefyllfa ein hiaith yn ei chadarnleoedd yn dal i waethygu. Beth allwn ni ei wneud?                                    Siaradwyr: Dr Simon Brooks a Dr Richard Glyn Roberts.   Cyflwynwyd rhai syniadau ganddynt yn seiliedig ar gynnwys eu hysgrifau mewn llyfr diweddar: Pa beth yr aethoch allan i’w achub? a olygwyd ganddynt. (Gwasg Prifysgol Cymru).  Llywydd: Geraint Jones

26 Chwefror

Dr Geraint Tudur: DYDDIADURON HOWEL HARRIS o flwyddyn ei dröedigaeth yn 1735 hyd at ei farw yn 1773.                                                                                           Darlith ar achlysur trichanmlwyddiant geni Howel Harris (1714-1773), un o arloeswyr y Diwygiad Methodistaidd, un a ddenai ddeng mil o wrandawyr, ac un y teflid tyweirch a cherrig a baw ato weithiau i’w rwystro rhag pregethu.  Yn ôl yr hanes bu ugain mil (20,000) o bobl yn ei angladd yn Nhalgarth yn 1773. Gwasanaeth hollol fud ydoedd gan fod y gwŷr eglwysig dan ormod o deimlad i fedru torri yr un gair.

8 Mawrth

EIN GWIR HANES (3):  Brad y Llyfrau Gleision 1847  a’r effaith ar feddylfryd y Cymry hyd heddiw.                                                                        Siaradwyr:  Eryl Owain,  Dr. John Glyn a’r Dr. Gwawr Jones

26 Mawrth

Wil Aaron yn cyflwyno’r glasur o ffilm: Tir na n-Og.

30 Ebrill

Geraint Jones.   Testun:  John Preis.                                                                         Roedd llyfr anfarwol Geraint Jones am y crwydryn anfarwol ar werth (£10).  Oherwydd poblogrwydd y testun a’r siaradwr trefnwyd y cyfarfod hwn yn Neuadd Bentref Trefor, a oedd yn orlawn y noson hon. Llywydd y noson oedd Emlyn Richards.  Am ragor o fanylion gweler y Catalog.

14 Mai

Darlith Flynyddol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.                                                Dr Robert Rhys o Academi Hywel Teifi, Abertawe:  D.J. Williams,  Abergwaun.   Mynediad £3.

17 Mai

Y Prifardd Cen Williams:  Taith yn ne-ddwyrain Môn dan ei arweiniad.

14 Mehefin          

EIN GWIR HANES (4): Rhai o’r gwirioneddau am Gymru a’r                              Rhyfel Byd Cyntaf.                                                                                               Siaradwyr:  Pryderi Llwyd Jones, Harri Parri, a Geraint Jones

12 Gorffennaf

Elfed Roberts: Taith yn Ardudwy dan ei arweiniad.

12 Medi                

GŴYL GLYNDŴR

Darlith Dr Rhys Evans, Adran Newyddion BBC Cymru, Caerdydd ac enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn 2006 am ei gofiant i Gwynfor Evans.                                       Llywydd:  Dafydd Wigley.  Tâl mynediad: £2.

24 Medi

Y Prifardd Cen Williams yn CYFLWYNO EI FRO   “O Landegfan i Lanfair” trwy gyfrwng lluniau ar y sgrin fawr.  Llywydd:  Y Cynghorydd Lewis Davies, Ynys Môn.     Tâl mynediad: £2.

18 Hydref

EIN GWIR HANES (5): Oes y Tywysogion: Teyrnasiad Owain Gwynedd 1137-70   Siaradwyr:  Y Prifardd Ieuan Wyn, Howard Huws a Dawi Griffiths

29 Hydref

Dr Huw John Huws: “Thomas Charles o’r Bala, yr addysgwr  (1755-1814)”

26 Tachwedd

Lluniau a sgwrs gan Bedwyr Rees, Cwmni Rondo Media: “Trysorfa o Enwau Arfordir Môn”

12 Rhagfyr

COFIO LLYWELYN. Dwy sgwrs: Geraint Lloyd Owen a’r Prifardd Ieuan Wyn:  “Gerallt a Chilmeri”.

 

CYFEILLION EBAN (Cylch Darllen y Ganolfan): Trydedd nos Fawrth y mis am 7 o’r gloch.    Dim tâl mynediad ond disgwylir cyfraniad at y paned.

21 Ionawr                Dwy soned, dau rigwm a dwy ysgrif o waith T.H. Parry-Williams.

18 Chwefror            Crwydro Llŷn ac Eifionydd (Gruffudd Parry)

18 Mawrth              Y Briodas (Rhan gyntaf o drioleg y nofel Cwm Hiraeth gan Rhydwen                                    Williams)

15 Ebrill                   DAU GYWYDD yr un gan Gerallt Lloyd Owen a Dafydd ap Gwilym

20 Mai                     Y Cofiant Gronwy ddiafael, Gronwy ddu (Alan Llwyd)

17 Mehefin             Tair Drama Fer (W S Jones)

21 Hydref                Tuchan o flaen Duw yng nghwmni’r awdur, Aled Jones Williams.

18 Tachwedd          Mab y Bwthyn (Cynan).

16 Rhagfyr              William Jones (T. Rowland Hughes)

GARDDIO

Byddwn yn anelu at fore Sadwrn cyntaf y mis o Chwefror hyd at fis Tachwedd gan ddibynnu ar y tywydd.  (O 9 tan hanner dydd. Ceir te ddeg.) Croeso cynnes i wirfoddolwyr newydd ond fe’u cynghorir i gysylltu ymlaen llaw rhag ofn y bydd y trefniadau wedi eu newid.  (01286 660 655)

7 Mehefin  Trefnwyd bore garddio yng nghwmni dysgwyr.

Gadael Ymateb