27 Chwefror 2013
Rhaglen amrywiol ar Eben Fardd a fu farw 150 mlynedd yn ôl – ar 17 Chwefror 1863. Bardd enwog, beirniad cenedlaethol, ysgolfeistr yng Nghlynnog, postfeistr, hanesydd lleol, emynydd, cyfieithydd, llythyrwr, cerddwr, arwr i lawer a dyddiadurwr anghyffredin o werthfawr. Cymerwyd rhan gan Dawi Griffiths, J. Dilwyn Williams, Diane Jones, Huw J. Jones, Sarah Roberts a Twm Elias, Cynhyrchwyd cryno-ddisg o’r rhaglen hon. (£5 + cludiant – gweler CATALOG)
27 Mawrth 2013
Arwel Jones (Hogia’r Wyddfa): Cythraul y Bêl Gron Cynhyrchwyd cryno-ddisg o’r un enw o’r sgwrs feistrolgar a hwyliog hon. Gweler CATALOG.
28 Ebrill
Taith Utgorn Cymru trwy Lŷn yn ôl troed Hywel Harris dan arweiniad J. Dilwyn Williams. Rhoddwyd blaenoriaeth i aelodau’r Ganolfan. Ymwelwyd â: Glasfryn Fawr, Eglwys Llannor, Rhydyclafdy, Llanfihangel Bachellaeth a Thywyn (Tudweiliog) yna swper yng Ngwesty Nanhoron, Nefyn.
15 Mai
DARLITH FLYNYDDOL UTGORN CYMRU
Einion Thomas (Archifydd Prifysgol Bangor): Boddi Capel Celyn
6 Gorffennaf
Taith Utgorn Cymru trwy Ddyffryn Conwy dan arweiniad Eryl Owain, Penmachno.Swper yn Amser Da, Llanrwst. Rhoddwyd blaenoriaeth i aelodau’r Ganolfan.
13 Gorffennaf
Stondin yr Utgorn yn Ffair Lyfrau’r Lasynys yn Neuadd Talsarnau.
3-10 Awst
Stondin y Ganolfan/Utgorn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.
7 Medi
Stondin yr Utgorn yng Ngŵyl Lyfrau Canolfan Soar, Merthyr Tudful.
13 Medi
DATHLU GŴYL GLYNDŴR Christine James, Archdderwydd newydd Cymru: Agwedd ar Gyfraith Hywel.
25 Medi
Cyfres Cyflwyno Bro Elfed Gruffydd, Pwllheli: Gwlad Llŷn
28 Medi
Stondin yr Utgorn yn Ffair Lyfrau Bob Owen yn Y Borth, Ynys Môn.
19 Hydref (Sadwrn, 10-4 pm)
AR WIB TRWY HANES CYMRU: Ein GWIR Hanes
Diwrnod unigryw: 2,000 o flynyddoedd o hanes ein gwlad a’i phobl mewn 6 awr! 12 o haneswyr gwladgarol yn ein tywys ar wibdaith hyd gerrig milltir ein hunaniaeth fel cenedl. Prif ddigwyddiadau hanes Cymru o safbwynt Cymreig – nid Prydeinig.
30 Hydref
Dafydd Islwyn, Caerffili: Tanchwa Senghennydd 1913
27 Tachwedd
Y Prifardd Ieuan Wyn: R Williams Parry yn Nyffryn Ogwen.
11 Rhagfyr
GŴYL LLYWELYN yng nghwmni Tecwyn Ifan, Llanddoged ac Eryl Owain, Penmachno.
Yn ystod y noson tynnwyd raffl – Cwilt Cilmeri – gwaith llaw Eifiona Williams, a chlustog hardd i gyd-fynd ag ef o waith Megan Williams, Trefor. Yr enillydd oedd Alison Chapman, Rhos-meirch, Llangefni. Diolchwn yn fawr i’r ddwy wniadwraig anhygoel o fedrus am eu rhoddion arbennig iawn ac i bawb am eu cefnogaeth.
CYFEILLION EBAN (Cylch Darllen y Ganolfan) Trydedd nos Fawrth y mis am 7 o’r gloch
Ionawr Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (RT Jenkins) Chwefror Dirgelwch Gallt y Ffrwd (E. Morgan Humphreys) Mawrth Neb (Hunangofiant R.S. Thomas) Ebrill Cribau Eryri (Rhiannon Davies Jones) Mai Moelystota, (ysgrifau J.H. Jones, golygydd enwog Y Brython (Lerpwl) yng nghwmni Meinir Pierce Jones (perthynas). 17 Medi Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 2013 15 Hydref Merch Gwern Hywel (Saunders Lewis) 19 Tachwedd Hen Atgofion (W J Gruffydd) 17 Rhagfyr Mae Pawb yn Cyfrif (Gareth Ffowc Roberts) yng nghwmni’r awdur.