2017

EIN GWIR HANES

10.30 – 2.30 o’r gloch ar brynhawn Sadwrn ddwywaith neu dair y flwyddyn.                     Pawb i ddod â thamaid o fwyd.  Ni chodir tâl mynediad.


4  Chwefror          Trichanmlwyddiant  geni William Williams, Pantycelyn.

                              Y Parchedig Dr Goronwy Prys Owen: Y Diwygiad Mawr;

                              Yr Athro E. Wyn James: William Williams.

 

CYFARFODYDD DIWYLLIANNOL

Ar nos Wener olaf y mis am 7 o’r gloch oni nodir yn wahanol.

24 Chwefror         Lefi Gruffudd:    Hanner Canmlwyddiant Gwasg y Lolfa.

31 Mawrth            Vivian Parry Williams:  Elis o’r Nant, Cynrychiolydd y Werin.

28 Ebrill               Eryl Owain:   Copaon Cymru (+ lluniau).

26 Mai                  Y DDARLITH FLYNYDDOL gan Adam Price, AC:

Cymru — trefedigaeth gyntaf ac olaf yr Ymerodraeth Brydeinig.

CYFEILLION  EBAN 

Criw hwyliog a chyfeillgar sy’n cyfarfod yn rheolaidd am saith o’r gloch ar y drydedd nos Fawrth o bob mis i drafod llyfrau. Beth am ymuno â ni mewn awyrgylch anffurfiol a chael panad-a-chacan yn ogystal â joch o ddiwylliant?  Bydd croeso cynnes iawn yn eich disgwyl, ac os cewch chi hi’n anodd cael gafael ar y llyfr a drafodir, byddwn fel rheol yn cael cyflenwad o Lyfrgell y Sir.

Dyma lyfrau a dyddiadau’r cyfarfodydd hyd at fis Mai eleni:

Am 7 o’r gloch ar drydedd nos Fawrth y mis.

17 Ionawr           Nes Draw (Mererid Hopwood)

21 Chwefror       Canlyn Arthur (Saunders Lewis)

21 Mawrth         Ynys y Trysor (R. Lloyd Jones)

18 Ebrill             Ffwrneisi (Gwenallt)

16 Mai                Bachgen Bach o Ferthyr (Dulais Rhys)

GARDDIO

Byddwn yn anelu at fore Sadwrn cyntaf y mis o Chwefror hyd at fis Tachwedd gan ddibynnu ar y tywydd.  (O 9 tan hanner dydd. Ceir te ddeg.) Croeso cynnes i wirfoddolwyr newydd ond fe’u cynghorir i gysylltu ymlaen llaw rhag ofn y bydd y trefniadau wedi eu newid.  (01286 660 655)

 

Gadael Ymateb