17 Ionawr anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
15 Chwefror anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
28 Chwefror Moto Coch
Eleni dathlwyd canmlwyddiant sefydlu un o gwmnïau bysus enwocaf Cymru, Clynnog & Trefor (Moto Coch) a bu Geraint Jones yn adrodd ei hanes trwy gymorth canrif o luniau ac yn cofio rhai o gymeriadau rhyfeddol y sefydliad unigryw hwn. Tâl mynediad £1.
15 Mawrth anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
28 Mawrth Yr hen ffilm Noson Lawen
Wil Aaron a’r Dr Meredydd Evans yn cyflwyno a thrafod yr hen ffilm arloesol hon a Merêd ei hun yn chwarae rhan amlwg ynddi gydag enwogion fel Bob Tai’r Felin, y Co Bach a Thriawd y Coleg. £1
16 Ebrill anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
25 Ebrill Brwydr y Teulu Beasley
Cofio brwydr arloesol ac aberthol Trefor ac Eileen Beasley dros y Gymraeg hanner canrif a rhagor yn ôl a dathlu hanner canmlwyddiant darlith radio fawr Saunders Lewis, “Tynged yr Iaith”. Siaradwyr: Delyth a Cynog Prys (merch ac wyr Trefor ac Eileen Beasley). Tâl mynediad £1
15 Mai anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
16 Mai Darlith Flynyddol Utgorn Cymru:
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1962 gan Emyr Llywelyn
Darlith yn dathlu pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn hanner cant oed. Bydd cryno-ddisg o Ddarlith 2011 ar werth am £5: “Mae’r Hogia’n y Jêl” gan yr Athro Peredur Lynch.
2 Mehefin – diwedd Gorffennaf
Arddangosfa ‘Cludiant yn Uwchgwyrfai’.
Bu dathlu canmlwyddiant y Moto Coch yn rhan ganolog o’n harddangosfa ar gludiant a theithio dros y canrifoedd yng nghwmwd Uwchgwyrfai. Fe’i gwelwyd yn yr Ysgoldy ar brynhawniau Mercher a Sadwrn 1.45 – 4 o’r gloch a hefyd trwy drefniant ymlaen llaw i grwpiau a chymdeithasau ac ysgolion. Cafwyd cyfle i hamddena yng Ngardd Uwchgwyrfai ar yr un pryd. Tâl Mynediad £2.
5 Mehefin Taith fws i ddathlu “Jiwbili” Owain Glyndŵr, yr olaf o dywysogion
cyfreithlon Cymru.
‘Can tywysog rhywiog o’r rhain,
A’u diwedd fu hyd Owain.’ (Gutyn Owain)
Taith wladgarol gan deithio ar Ein Moto Ni – y Moto Coch – i Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth lle y cafwyd sgwrs gan Eryl Owain ar Owain Glyndŵr, yna ymwelwyd â Chefn Caer, Pennal, ac Eglwys Pennal. Pryd o fwyd wedyn yng Ngwesty’r Llew Gwyn, Machynlleth.
15 Mehefin anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
17 Mehefin (Sul) Pnawn yn yr Ardd
Gwahoddwyd ni gan Barc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd i ymuno â Gerallt Pennant, Bethan Wyn Jones a Bethan Gwanas yng Ngardd y Ganolfan hon i gael sgwrs am enwau planhigion, llenyddiaeth planhigion a dyfodol gerddi a chael lluniaeth ysgafn yn yr ardd.Trefnwyd gan Gwen Lasarus a Naomi Jones.
14 Medi COFIO GLYNDŴR
Noson yng nghwmni Dafydd Glyn Jones ac Emrys ap Iwan a’i bamffled enwog Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, sef gweledigaeth ddychanol y cenedlaetholwr mawr ym 1890 o Cymru 2012.
Ailgyhoeddwyd y gwaith hwn yn ddiweddar gan wasg Dalen Newydd yn y gyfres “Cyfrolau Cenedl”,ac yn ei ddull dihafal cawsom ragflas hefyd gan Dafydd Glyn Jones o’i fenter a’i weledigaeth yntau yn sefydlu’r wasg hollol arbennig hon.
17 Gorffennaf anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
15 Awst anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
15 Medi anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
28 Medi Cyfres Cyflwyno Bro:
J. Dilwyn Williams yn cyflwyno ‘Hen Dref Pwllheli’ gyda chymorth lluniau. Y noson hon cyhoeddir cryno-ddisg “Hanes Stad Weirglodd Fawr / Broom Hall” gan J. Dilwyn Williams. Pris £5.
15 Hydref anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
31 Hydref Harri a Nan Parri: Rhys Hendra Bach.
Y noson hon cyflwynwyd cryno-ddisg newydd: “Portreadau” gan Harri Parri, yn cynnwys Rhys Hendra Bach, Wili Bodwyddog, Siôn Gwerthyr, Henry Hughes Bryncir, Tom Nefyn, a llawer, llawer mwy o bobl ddiddorol eraill. Pris £5.
15 Tachwedd anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
28 Tachwedd Hen Alawon yng nghwmni Stephen Rees,
yr offerynnwr medrus fu’n aelod o Ar Lôg ac sydd yn awr yn ddarlithydd yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor.
11 Rhagfyr Cofio Llywelyn
Awr o ddathlu gwladgarol Cymreig gan aelodau o’r Ganolfan hon. Lluniwyd y sgript gan Geraint Jones a’r Prifardd Ieuan Wyn. Cyflwynwyd dehongliadau o gerddi enwog a detholiadau o ryddiaith glasurol.
14 Rhagfyr anfon Utgorn Cymru at ein haelodau
Cyfeillion Eban (Cylch Trafod Llyfrau)
17 Ionawr Gwen Tomos (Daniel Owen).
20 Chwefror Storïau’r Henllys Fawr (W.J. Griffith).
20 Mawrth Traed mewn cyffion (Kate Roberts)
17 Ebrill Y ddrama Cymru Fydd (Saunders Lewis)
15 Mai Wythnos yng Nghymru Fydd, Islwyn Ffowc Elis.
19 Mehefin Rhai o gerddi R. Williams Parry dan arweiniaid Rhys ap Rhisiart
18 Medi Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Morgannwg,
2012
16 Hydref Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys (Emrys ap Iwan)
(y cyhoeddiad diweddar) yng nghwmni DAFYDD GLYN JONES,
Cwmni Dalen Newydd.
20 Tachwedd I Hela Cnau (Marion Eames)
18 Rhagfyr Cerddi’r Cywilydd (Gerallt Lloyd Owen) yng nghwmni’r
Prifardd Ieuan Wyn.