Arddangosfa Pennarth, Aberdesach, gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai gyda chymorth Gareth Evans, Pennarth, yn Rali Ffermwyr Ifainc Eryri, 23 Mai 2015.
Dewch i weld y cyfoeth sydd wrth ein traed, yr hyn yr amddifadwyd ni ohono yng nghyfundrefn addysg ein gwlad o gyfnod Brad y Llyfrau Gleision hyd at heddiw.
1. HANESYDDOL
- Neolithig, neu Yr Oes Garreg Newydd o tua 2,500 C.C. (Cromlech Pennarth).
- Yr Oes Bres Gynnar 1800 – 1400 C.C. (Bicer Pennarth).
- Cyfnod y Mabinogi tua 1060 (pan oedd Gwynedd, Gwent a Dyfed yn un).* Hanes Math fab Mathonwy a Gwÿr Gwynedd yn aros yng nghanol y ddwy faenor, Maenor Bennardd a Maenor Goed Alun cyn y frwydr fawr drannoeth rhyngddyn nhw a Phryderi a Gwÿr y De. [* Tua 1300 yw dyddiad y llawysgrif hynaf.]
- Mael ap Menwyd Pendefig Pennarth yn Arfon, g. tua 560 O.C.
- Ffynnon Digwg, Pennarth (Tegiwg ferch Ynyr Gwent) g. 590 O.C. Y chwedl am dywysoges a’i chariad ar eu ffordd i Aberffraw er mwyn iddi hi gyfarfod â’i deulu ef. Ond yn hytrach na chyfaddef ei fod wedi ei thwyllo a’i fod yn hanu o deulu tlawd mi benderfynodd y cariad dorri ei phen a dianc gyda’i cheffylau a’i haur a’i harian. Pwy a ddigwyddodd weld corff Digwg ond bugeiliaid Beuno a rhuthrasant i chwilio amdano. Llwyddodd Beuno i adfer ei phen a tharddodd ffynnon yn yr union fan. Treuliodd Digwg weddill ei hoes yng Nghlynnog.
- Enwau caeau diddorol a Ffrwd y Sbeildy gerllaw.
- Meibion Ithel ap Dafydd oedd yn byw ym Mhennardd yn Arfon yn y flwyddyn 1268 pan drosglwyddwyd y tir gan Brior Beddgelert i Lywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru ac Arglwydd Eryri ar yr 11eg o Fawrth.
- A llawer mwy.
2. TEULU PENNARTH HEDDIW A CHART ACHAU BYR
Olrheiniwyd y teulu, hyd yn hyn i 300 mlynedd yn ôl ond cyfeirir yn un lle iddynt fod yma am 600 mlynedd.
3. AMAETHYDDOL
- Bu Pennarth yn flaenllaw iawn yn hanes amaethyddiaeth yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a chynt.
- Yma y sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Clynnog (1909-1946).
- Bu yma ffatri gaws.