Archif Utgorn

Rhifyn 81 GWANWYN 2015
Enwau caeau Yr olaf o sgyrsiau poblogaidd YR ATHRO BEDWYR LEWIS JONES sydd, y tro hwn, yn sôn am eiriau dieithr fel cotal a regal, ac am y cysylltiad rhwng enwau caeau a’r porthmyn.
Clefyd Efnisien Sgwrs ddifyr a dadlennol gan YR ATHRO BRANWEN JARVIS sydd yn ein tywys i fyd hud a lledrith y Mabinogi ac at ddadansoddiad o wendid meddwl Efnisien.
W.J. Gruffydd a Silyn W.H.ROBERTS yn darllen gwaith W.J.GRUFFYDD sydd yn sôn amdano’i hun yn cyfarfod am y tro cyntaf â Silyn, yr heddychwr, y sosialydd, y pregethwr, y bardd a’r cyn-chwarelwr, a hynny mewn cwch ar y Fenai.
Calendr Uwchgwyrfai MARIAN ELIAS ROBERTS, ysgrifennydd y Ganolfan, yn cyflwyno rhai o’n gweithgareddau diweddaraf.
Sêt y Gornel: Llofruddiaeth? GERAINT JONES, o Sêt y Gornel, yn adrodd stori bur ryfeddol am ddigwyddiad pur amheus mewn amgylchiadau anarferol a chawn ein tywys o aelwyd Lloyd George yn Downing Street i Awstralia, y Dwyrain Canol, America, chwarel gerrig a mynwent plwyf ei fro enedigol.
O’r Daily Mirror DR JOHN ELWYN HUGHES yn adrodd stori a ymddangosodd yn y Daily Mirror yn 1936.
Y Dreflan DAFYDD GLYN JONES, Gwasg Dalen Newydd, a’i ddadansoddiad byrlymus o rai o’r cymeriadau a’r sefyllfaoedd diangof a grewyd gan y dihafal Daniel Owen yn Y Dreflan.
Rhifyn 80 GAEAF 2015
Fel milgi mewn brwyn EMLYN RICHARDS, un o ffyddloniaid yr Utgorn, yn sgwrsio am orsaf drenau Aberystwyth ble bu’n gweithio pan oedd yn fyfyriwr diwinyddol ifanc, ac am lyfrau y bu’n pori ynddynt ‘fel milgi mewn brwyn’.
Casia Aiff DR. JOHN ELWYN HUGHES â ni i’r rheinws, i ddalfa’r carcharorion, ac i gwmni cymeriad hynod arall o Ddyffryn Ogwen.
Owen Thomas, Tŷ Isa W.J.EDWARDS gyda sgwrs ddifyr am ddyddiadur Owen Thomas o ddiwedd y 19eg ganrif sydd yn gofnod cymdeithasol pwysig ac sy’n sôn am ffeiriau, tripiau Ysgol Sul, etholiadau, ac angladdau.
John Preis GERAINT JONES, o Sêt y Gornel, yn cyflwyno rhan o ddarlith a draddododd ar y crwydryn anfarwol, John Preis –  un y ceir ei hanes yn y gyfrol o eiddo Geraint a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ganolfan Uwchgwyrfai.
Cae a ffridd a gweirglodd Pedwaredd ran o sgwrs ddifyr YR ATHRO BEDWYR LEWIS JONES ar enwau caeau a gwir ystyr y gwahanol eiriau a geir yn y Gymraeg am gae a’r diffiniad ohonynt.
Cymraeg yr Aelwyd Y diweddar W.H. ROBERTS, y mwynlais o Fôn, yn darllen sylwadau’r ATHRO W.J. GRUFFYDD ar yr ymgrych iaith honno gynt a elwid yn Gymraeg yr Aelwyd.
Hen Lanc Tyn y Mynydd Llais peraidd y diweddar T. GWYNN JONES, Tre-garth, yn canu un o gerddi hyfrytaf W.J. GRUFFYDD.

 

Rhifyn 79
Hydref 2014
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Calendr Uwchgwyrfai DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd yn rhoi gwybod am weithgareddau’r Ganolfan.
Sêt y Gornel: Y Gadair Ddu (2) GERAINT JONES yn traddodi ail ran ei  sylwadau treiddgar, dadlennol a beirniadol ar ddefod y cadeirio yn Eisteddfod Penbedw 1917 yngyd â datganiad gan Gôr Meibion Y Rhos o Englynion Coffa Hedd Wyn gan R. Williams Parry.
“Dyddiau Mebyd” (W.J. Gruffydd) W.H.ROBERTS yn darllen am ddyddiau mebyd W.J. Gruffydd o’i gyfrol ‘Hen Atgofion’.
Owen Thomas, Y Lôn W.J.EDWARDS yn adrodd hanes ardal Penllyn o 1982 i 1912 yn nyddiaduron taid yr Aelod Cynulliad Dafydd Elis-Thomas.
Rhagor o enwau caeau BEDWYR LEWIS JONES yn sgwrsio am rai rhesymau dros enwi caeau yn y dyddiau a fu.
Happy Doll J.ELWYN HUGHES, pen hanesydd Dyffryn Ogwen,  yn adrodd hanes dynes ryfedd a sut y daeth o hyd i’w henw iawn.
Ogwennydd (2) Rhan olaf sgwrs GWEN GRUFFUDD am John Richard Jones, cymeriad rhyfedd arall o Ddyffryn Ogwen – ymgreiniwr, Tori a bardd-chwarelwr.
Cân Ben Jerry T. GWYNN JONES (Gwynn Tre-garth) yn canu cân o hiraeth am Fethesda, Dyffryn Ogwen, yn ei ddull dihafal ei hun.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 78
Haf 2014
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Sêt y Gornel: Y Gadair Ddu (1) GERAINT JONES yn agor ein llygaid am seremoni Cadair Ddu Hedd Wyn yn Eisteddfod Penbedw 1917 a phropaganda’r Rhyfel Mawr.
Enwau ‘coman’ caeau BEDWYR LEWIS JONES gyda sgwrs ddifyr arall am rai o’r enwau mwyaf cyffredin ar gaeau Cymru.
Ogwennydd (1) GWEN GRUFFUDD yn adrodd hanes John Richard Jones o Ddyffryn Ogwen.
Llyfr John Preis MORGAN JONES yn bwrw golwg ar lyfr poblogaidd Geraint Jones, ein golygydd, am y crwydryn o ardal Uwchgwyrfai.
Yr Hen Fro’ (W.J. Gruffydd) W.H.ROBERTS gydag atgofion W.J. Gruffydd am blwyf Llanddeiniolen o’i gyfrol ‘Hen Atgofion’.
Eleaser Roberts,  Mr Moody, y fam a’r plentyn DAWI GRIFFITHS yn adrodd hanes un o bennaf cymwynaswyr y gân a chyfundrefn y Tonic Sol-Ffa.
Hen Wlad fy Nhadau AELODAU CANOLFAN HANES UWCHGWYRFAI yn canu ein hanthem genedlaethol – y tri phennill.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 77
Gwanwyn 2014
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Anectodau llenyddol TEGWYN JONES yn adrodd hanesion difyr am Watcyn Wyn, Llew Llwyfo, a’r cyn-archdderwydd, Crwys.
Sêt y Gornel GERAINT JONES, ein golygydd, yn rhoi gwir ddarlun o’r byd cyhoeddi Cymraeg.
Dau lythyr Goronwy Owen W.H.ROBERTS yn darllen dau o lythyrau’r bardd mawr o Fôn sydd yn y nawfed o’r ‘Cyfrolau Cenedl’ gan Wasg Dalen Newydd.
Straeon Gwerin ROBIN GWYNDAF yn trafod storïau ffraeth a rhigymau doniol, gwleidyddol, crefyddol a beddargraffiadol.
Griffith Evans y Milfeddyg W.J.EDWARDS yn adrodd hanes gyrfa’r milfeddyg byd enwog o Dywyn, a fu’n ddisgybl i Ioan ab Hu Feddyg.
“Tynnaf ymaith ei chae…” BEDWYR LEWIS JONES yn egluro ystyr hanesyddol y gair ‘cae’ a hen enwau caeau.
Byd y faled EMLYN RICHARDS yn traethu ar hanes y faled a Harri’n canu baled amserol o waith Gruffudd Parry.
Baled ‘Y Mewnlifiad’ HARRI RICHARDS
 
Utgorn Cymru Rhifyn 76
Gaeaf 2014
Cyflwynydd; Morgan Jones
 
Anectodau llenyddol TEGWYN JONES, y chwilotwr o Geredigion,  hefo straeon am yr enwog Ellis Owen o  Gefn y Meusydd, yng nghwmwd Eifionydd.
Edward, brenin Lloegr DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn traethu am y brenin gormesol a chreulon o Loegr a fu’n gyfrifol am ladd ein tywysog, Llywelyn ap Gruffydd.
Dwy stori ddoniol ROBIN GWYNDAF yn adrodd dwy stori o’r gyfrol ‘Storiau Gwerin Cymru’.
Y Border Bach ANNE ELIZABETH WILLIAMS â’i gwybodaeth arbenigol am blanhigion a meddyginiaethau a fu’n rhan annatod o fywyd y werin.
Crac yn y bowlen blwmonj EMLYN RICHARDS yn edrych yn ôl a ‘chofio cynefin’ mewn sgwrs hamddenol braf.
Y Golled ELFYN PRITCHARD yn sôn am Gwilym Owen, a fu’n brifathro Ysgol Gwyddelwern, Edeyrnion, dros hanner canrif yn ôl.
Sêt y Gornel: ‘Ias o Anobaith’ GERAINT JONES, ein golygydd, yn datgan yr angen i ni deimlo’r gobaith all ddod â deffroad a daioni i’n gwlad.
Breuddwydio’r Wybren Las TECWYN IFAN yn canu geiriau Waldo Williams am obaith ynghanol y cymylau duaf,  yng ngyfarfod blynyddol ‘Cofio Cilmeri’ yng Nghanolfan Uwchgwyrfai.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 75
Tachwedd 2013
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Anecdotau TEGWYN JONES gyda mwy o anecdaotau llenyddol – y tro hwm am ddau Fedyddiwr amlwg yn eu dydd, sef Robert Ellis (Cynddelw) a Pedr Hir.
Gwenallt y bardd SAUNDERS LEWIS y bardd, gwladgarwr a Christion mawr, yn adrodd hanes un arall o’r un anian.
Ddoe ni ddaw’n ôl Rhan o sylwadau gogleisiol  EMLYN RICHARDS.
Brut y ddau Lywelyn DAWI GRIFFITH, ein Cadeirydd, yn sôn am ran olaf y llyfr holl bwysig yn ein hanes, sef ‘Brut y Tywysogion’.
Greenland a Samaria GLENDA CARR gyda’r olaf mewn cyfres ddifyr – y tro hwn am hen enwau lloeodd yn yr hen Sir Gaernarfon.
Ffarwel i Addysg DIANE JONES, cyn-reolwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn traethu am ddramâu’r nofelwraig Kate Roberts.
Eglwys Llandegwning J.DILWYN WILLIAMS, yr hanesydd, yn sôn am hanes eglwys fechan ym mherfeddion gwlad Llŷn.
Sêt y Gornel: Prifysgol ‘Cymru’? GERAINT JONES, ein golygydd, yn ei ffordd ddi-flewyn-ar-dafod, yn trafod pwnc sensitif iawn, sef Prifysgol Cymru.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 74
Awst 2013
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Stori Taid ELFYN PRITCHARD yn adrodd stori ddifyr gan ei ŵyr am ŵr o Lŷn a fu mewn carchar.
Sêt y Gornel GERAINT JONES, ein golygydd, wrth atgyfodi’r golofn ‘Sêt y Gornel’ a’i rhoi ar lafar, yn egluro tarddiad y teitl.
Clymau teuluol W.J.EDWARDS yn sôn am berthynas cenedlaethau â’i gilydd, o Syr Henry Jones i Waldo Williams.
Anecdotau Llenyddol TEGWYN JONES, y gŵr o Geredigion, yn sgwrsio am John Hughes, Pontrobert a Henry Rees a’i frawd William Rees (Gwilym Hiraethog).
Yr Athro W.J. Gruffydd BERYL GRIFFITHS yn rhoi darlun cyflawn a chytbwys o’r Athro W.J.Gruffydd, un oedd yn gawr ymhlith llenorion Cymraeg.
Enwau rhyfedd GLENDA CARR, sy’n arbenigo ar ystyron enwau lleoedd, yn sôn am rai dyrys i’w hesbonio.
Brut y Tywysogion (4) DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, gyda rhagor o gynnwys yr hen lyfr rhyfeddol ‘Brut y Tywysogion’, a hanes y ddeuddegfed ganrif greulon.
 
Cyhoeddwyd Utgorn Cymru yn ddi-dor er mis Hydref 2006, chwe mis wedi agor y Ganolfan, ond oherwydd amgylchiadau anorfod, fe’i rhewyd yn Hydref 2012 hyd at Awst 2013. O hyn ymlaen, fe’i cyhoeddir ar ei newydd wedd bedair gwaith y flwyddyn a bydd yn cynnwys Colofn Sêt y Gornel: colofnydd gwladgarol a saciwyd gan Y Cymro am iddo ddweud y gwir plaen, rwan yn dychwelyd a’i waedd dros Gymru unwaith eto’n byddaru’r Sevydliad a gelynion Kymmru Vach!
 
Utgorn Cymru Rhifyn 73
Hydref 2012
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Merched yr enwau lleoedd Sgwrs gan GLENDA CARR am leoedd ym mhlwyf Llandwrog, Arfon, sy’n cynnwys enwau merched o Oes y Chwedlau.
Coelcerth Rhyddid (2) GERAINT JONES yn ein goleuo am ddigwyddiadau cyffrous dri-chwartref canrif yn ôl a hanes y cyfarfod i groesawu’r ‘tri gwron’ wedi eu rhyddhau o’r carchar am losgi Ysgol Fomio Penyberth.
Anecdotau Llenyddol (2) TEGWYN JONES, y chwilotwr o Geredigion, yn sôn am Dwm o’r Nant, Nicander, Wil Tatws Oerion a Robert ap Gwilym Ddu.
Brut y Tywysogion (3) DAWI GRIFFITHS, ein cadeirydd, gyda’r drydedd o sgyrsiau addysgiadol ar ‘Frut y Tywysogion’ : y 12fed ganrif.
Lli Mawr 1781 W.J.EDWARDS yn rhoi hanes y lli enbytaf a welwyd yn Llanuwchllyn, Penllyn ac sydd â’i olion yn dal i’w gweld yn yr ardal.
Clymau tafod ROBIN GWYNDAF hefo rhigymau â ffurf arbennig iddynt, fel cwlwm tafod ac ailadrodd, a chwedlau am y goruwchnaturiol.
Cythrel Cystadlu (1) Rhan o ddarlith T.LLEW JONES, y nofelydd, y bardd a’r athrylith sy’n dangos ei ffraethineb heintus a’i ddawn anghymarol fel darlithydd.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 72
Medi 2012
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Anecdotau llenyddol (1) Y gyntaf mewn cyfres o hanesion difyr am awduron gan TEGWYN JONES sydd hefyd yn awdur toreithiog ac yn Gadeirydd y Cyngor Llyfrau.
Storïau Gwerin (1) ROBIN GWYNDAF yn cyflwyno cyfres ar chwedlau llafar gwlad: straeon hud a lledrith a rhamantaidd.
Brut y Tywysogion (2) DAWI GRIFFITHS, ar Frut y Tywysogion: yr unfed ganrif ar ddeg, 1066 a 1075.
Carneddog (4) BLEDDYN O.HUWS gyda mwy o’r casgliad ‘Cerddi Eryri’ a olygwyd gan Carneddog, sy’n adlewyrchu hen fyd a hen fywyd Eryri.
Yr Ŵyl Ddiolchgarwch (4) TWM PRYS JONES hefo’r olaf o hanes yr Ŵyl Ddiolchgarwch, yn arbennig ymysg y Methodistiaid Calfinaidd.
Nôl i’r gorffennol ELFYN PRITCHARD yn edrych yn ôl ar  ddigwyddiadau’r flwyddyn 1961 yn Sir Feirionnydd a’i chyrion.
Coelcerth Rhyddid (1) GERAINT JONES, ein golygydd, yn manylu ar ddigwyddiad arbennig ar yr unfed ar ddeg o Fedi 1937.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 71
Awst 2012
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
A heuo faes ELFYN PRITCHARD yn sôn am gysylltiadau’r Prifardd a’r cyn-Archdderwydd Geraint Bowen â’r Sarnau, Meirionnydd.
Brut y Tywysogion (1) DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn y gyntaf o’i gyfres, yn ein tywys drwy rai o ddigwyddiadau pwysicaf ein cenedl a gofnodir ym Mrut y Tywysogion.
Mathews Ewenni W.J.EDWARDS, un o hoelion wyth yr Utgorn yn sôn am y dihafal Edward Mathews, Ewenni, Bro Morgannwg
Yr Wyl Ddiolchgarwch (3) TWM PRYS JONES yn rhoi mwy o hanes tarddiad yr Ŵyl Ddiolchgarwch Gymreig gan y ‘ditectif enwadol’.
Carneddog (3) BLEDDYN O.HUWS yn ein tywys eto i Nantmor, Beddgelert at y cymeriad rhyfeddol Carneddog a ‘Cerddi Eryri’.
Niclas y Glais (5) Yr olaf o gyfraniadau EMYR LLYWELYN,   Golygydd Y Faner Newydd, ar hanes y bardd, y Comiwnydd a’r heddychwr.
David Lloyd GERAINT JONES, ein Golygydd, yn sôn am David Lloyd, y tenor enwog o Drelogan.
Bugail Aberdyfi DAVID LLOYD gyda geiriau Ceiriog a cherddoriaeth Idris Lewis.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 70
Gorffennaf 2012
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Enwau anghyffredin GLENDA CARR ar eglurhad enwau pur anghyffredin fel ‘Apii-fforum’, ‘Hendre Feinws’ ac ‘Elernion’ .
Carneddog (2) BLEDDYN O.HUWS yn rhoi hanes y ffrae anhygoel fu rhwng Carneddog a’i gyfaill mynwesol, yr anfarwol Bob Owen, Croesor.
Elin Wilias, bydwraig ROBIN GWYNDAF yn sgwrsio gyda’r wraig fyrlymus, Siân Lloyd Williams, am ei mam, Elin Williams, a chip ar effaith Diwygiad ’04 arni.
Henry Hughes, Bryncir (2) HARRI PARRI gydag ail ran portread o’r Parch Henry Hughes, a fu’n weinidog ym Mryncir a Brynengan am ymron hanner canrif.
R.S. (2) GERAINT JONES, ein golygydd, yn sôn am ei ffrind, y bardd a’r gwladgarwr, R.S.Thomas.
Niclas y Glais (4) EMYR LLYWELYN yn sôn am un o gymwynaswyr pennaf ein cenedl, Niclas y Glais.
Gwin y gorffennol EMLYN A HARRI RICHARDS – Y ddau frawd o Lŷn yn rhoi rhywfaint o flas hen win y gorffennol i ni. Emlyn yn sôn am fywyd llofft stabal a Harri â’i afiaith arferol yn canu un o’i hoff faledi – ‘Baled y Lleuen’.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 69
Mehefin 2012
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Niclas y Glais (3) EMYR LLYWELYN â rhagor o hanes T.E.Nicholas, y bardd a’r sosialydd oedd yn gwmniwr difyr a diddorol, yn wisgwr lliwgar a hefyd yn ddeintydd go arw.
Rhai ymadroddion YR ATHRO BRANWEN JARVIS yn sôn am ymadroddion dieithr a fabwysiadwyd gan werin gwlad, rhai o feysydd cad y Rhyfel Mawr ac eraill  a ddaeth gyda milwyr Rhufain a’r Normaniaid.
Dydd Llun Diolchgarwch (2) TWM PRYS JONES yn parhau i olrhain tarddiad a datblygiad yr Ŵyl Diolchgarwch.
Siân Williams, Tynygongl ROBIN GWYNDAF yn rhoi blas inni o rai o’i  gyfweliadau gyda Siân Williams,  (a fu farw yn 96 mlwydd oed yn Ionawr 1992) ac a recordiwyd  ym Môn yn 1976.
Carneddog BLEDDYN O.HUWS o Ddyffryn Nantlle yn cyflwyno rhan gyntaf sgwrs a draddododd yn Y Ganolfan, am y cymeriad rhyfeddol hwnnw o Namor ger Beddgelert.
Henry Hughes, Bryncir  HARRI PARRI, yn rhan gyntaf ei sgwrs yn sôn am Henry Hughes, Bryncir, un o wŷr mawr Eifionydd ac un o bennaf haneswyr Cymundeb y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru.
R.S.    GERAINT JONES, ein Golygydd, yn sgwrsio’n ddifyr a hwyliog am y bardd, y pregethwr a’r gwladgarwr heb ei fath, R.S.Thomas, gwta naw mis cyn dathlu canmlwyddiant ei eni.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 68
Mai 2012
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Llai na blwyddyn yn Llŷn.(2) PRYDERI LLWYD JONES hefo ail ran ei sgwrs ddiddorol a dadlennol am yr heddychwr George M. Ll. Davies.
Niclas y Glais (2) EMYR LLYWELYN gyda’i gyfraniad pellach am y bardd, pregethwr a heddychwr, T.E. Nicholas a’r driniaeth gwbl warthus a dderbyniodd gan y llysoedd barn.
R.S. ROBYN LEWIS, y cyn-Archdderwydd, ar drothwy dathlu canmlwyddiant geni’r bardd, R.S. Thomas, yn dwyn atgofion amdano a’i gysylltiad â ‘Chyfeillion Llŷn’.
Yr Wyl Ddiolchgarwch (1) TWM PRYS JONES o Langybi, Eifionydd a rhan gyntaf o ffrwyth ei ymchwil i un o’n gwyliau crefyddol sydd ar fin diflannu, sef Gŵyl – neu Ddydd Llun – y Diolchgarwch.
Owain Lawgoch CANON TEGID ROBERTS yn adrodd hanes Owain ap Tomos, neu Owain Lawgoch, oedd yn or-nai i Lywelyn ap Gruffudd.
Yn ôl i Langollen (2) GERAINT JONES, ein Golygydd, gyda’r ail sgwrs am y tenorydd byd-enwog Luciano Pavarotti a ddychwelodd i Langollen i ddiolch i bobl Cymru am roi un o’r cyfleodd cyntaf iddo fel canwr.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 67
Ebrill 2012
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Llai na blwyddyn yn Llŷn (1) PRYDERI LLWYD JONES yn sgwrsio am yr heddychwr rhyfeddol hwnnw, George M. Ll. Davies, a dreuliodd gyfnod byr yng ngwlad Llŷn.
Carmen Sylva GARETH HAULFRYN a’i sgwrs am y cysylltiad rhwng brenhines Rwmania ag enwau dwy stryd yng Nghraig-y-Don, Llandudno.
Tom Nefyn (2) HARRI PARRI gyda’r ail ran o’i bortread o un o wŷr mawr Llŷn yn y cyfnod wedi iddo ddychwelyd i’r gogledd yn dilyn helyntion trist Cwm Gwendraeth.
R.S. ALWYN PRITCHARD, un arall o gyfeillion R.S. Thomas, yn sôn am y bardd ac yn enwedig am ei barti pen blwydd ym 1993 yn bedwar ugain oed.
Iocws GLENDA CARR yn treiddio’n ddoeth a dwfn i ystyr a tharddiad enwau lleoedd a’r tro hwn i enw diddorol dros ben a thro sydyn yn ei gynffon.
Niclas y Glais (1) EMYR LLYWELYN, Golygydd y cylchgrawn rhagorol, ‘Y Faner Newydd’, gyda rhan gyntaf o ddarlith ar fywyd a gwaith T.E. Nicholas, a recordiwyd yn 1986.
Yn ôl i Langollen GERAINT JONES, ein Golygydd, yn sôn am ganwr byd-enwog, am Eisteddfod Llangollen 1955 ac am yrfa ryfeddol gŵr o’r Eidal. Gyda’r unawd tenor ‘La donna è mobile’ allan o ‘Rigoletto’ gan Verdi.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 66
Mawrth 2012
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Wil Wandring J.ELWYN HUGHES, yr hanesydd, yn sôn am gymeriad digri o Ddyffryn Ogwen a oedd yn un o’r bobl nad oedd ‘mesur eu llathen hwy yr un hyd â llath’
Enwau Lleoedd (3) GLENDA CARR yn sôn yn arbennig am enwau lleoedd a newidiwyd ac a lurginiwyd dros amser.
Tom Nefyn (1) HARRI PARRI â’i sgwrs gyntaf am Tom Nefyn Williams, pregethwr o Lŷn a ddaeth yn ffigwr cenedlaethol dadleuol yn dilyn helynt yn Nghwm Gwendraeth.
Teulu’r Mesns GARETH HAULFRYN, cyn-archifydd sirol Gwynedd, aiff â ni i ardal Pumlumon, i wlad y mwynfeydd plwm a theyrnas y Wesleiaid, ac yn bennaf i gwmni’r Mesns.
R.S. Thomas – cymydog GARETH WILLIAMS o ardal Porth Neigwl ym mherfeddion Llŷn yn sôn am y bardd a’r gwladgarwr R.S. Thomas a fu’n gymydog iddo am flynyddoedd lawer.
Rhisiart Wynn a’r Chwyldro ROBYN LEWIS, y cyn-Archdderwydd o Nefyn yn sôn am Rhisiart Wynn o ardal Llanfihangel Bachellaeth, Llŷn, a hyrddiwyd i ganol y chwyldro Ffrengig ddiwedd y ddeunawfed ganrif.
Leila Megane (2) GERAINT JONES – O ‘Gornel y Cerddor’ caiff Geraint gyfle i sôn ymhellach am y gantores Gymreig enwog a’i gŵr, Osborne Roberts.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 65
Chwefror 2012
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Llys y Sesiwn Chwarter (2) J.DILWYN WILLIAMS gyda ail ran ei sgwrs ar rai o gofnodion y Sesiwn Chwarter o oes Cromwell a’r werin lywodraeth sydd ar gael yn yr archifdy yng Nghaernarfon.
Hen a Newydd EMLYN RICHARDS y pregethwr poblogaidd a’r awdur toreithiog o Fôn, â’i feddyliau am y berthynas rhwng dau air sydd fel ffon fesur ar werth pethau a phobl.
William Griffith yn Affrica (2) GWENLLÏAN JONES gyda mwy o hanes William Griffith a’i lythyrau o Affrica sydd yn adlewyrchu ysbryd y bedwaredd ganrif ar ddeg a meddylfryd ymerodrol Prydain Fawr.
Enwau lleoedd (2) GLENDA CARR gyda ail ran o sgwrs ar hanes enwau lleoedd, fel Nantlle, sydd a chysylltiadau â chwedlau’r Mabinogion.
Fanny Jones (2) MARIAN ELIAS ROBERTS yn rhoi rhagor o hanes Mrs John Jones Tal-y-sarn, a ddaeth yn wraig busnes o’r radd flaenaf.
Tynged yr Iaith 1962 SAUNDERS LEWIS – Ei ddarlith radio enwog, a draddododd yn Chwefror 1962, ac a roddodd sylfaen newydd i wleidyddiaeth ddiwylliannol, ymosodol yng Nghymru.
Leila Megane GERAINT JONES, yng Ngornel y Cerddor yn adrodd hanes merch a ddaeth yn un o fawrion y llwyfan yng Nghymru a llwyfanau mawr y byd.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 64
Ionawr 2012
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Enwau lleoedd (1) GLENDA CARR gyda’r rhan gyntaf cyfres o sgyrsiau ar enwau lleoedd a’u hystyron,  sy’n rhoi goleuni newydd a gwahanol ar enw lle a gysylltwyd â’r Mabinogion.
Llys y Sesiwn Chwarter (1) J.DILWYN WILLIAMS, yr hanesydd rhagorol, yn rhan gyntaf ei drafodaeth ar un o drysorau’r archifdy yng Nghaernarfon, sef hen gofnodion Llys y Sesiwn Chwarter.
Fanny Jones (1) MARIAN ELIAS ROBERTS, ein hysgrifennydd, â rhan gyntaf hanes Frances Edwards a ddaeth yn wraig i John Jones, Tal-y-sarn, un o bregethwyr mawr y 19ed ganrif.
Hen dref Caernarfon T.MEIRION HUGHES – Un o gyfranwyr ffyddlon yr Utgorn, yn sôn am enwau strydoedd ac adeiladau hen dref Caernarfon oddeutu dwy ganrif yn ôl.
Gerallt Gymro (4) BOB MORRIS yr hanesydd,  yn ei sgwrs olaf am yrfa a chymeriad Gerallt Gymro a’i le yn hanes ein gwlad.
William Griffith yn Affrica (1) GWENLLÏAN JONES yn traddodi ei sgwrs gyntaf am y gŵr o’r Felinheli a fu’n gweithio i gwmni o fwynwyr deiamwntiau ym Motswana a De Affrica.
Emynwyr y Fro (2) DAWI GRIFFITHS ein Cadeirydd, yn traddodi ail  ran ei sgwrs ar ddau emynydd o Fro Morgannwg sef Tomos Wiliam a John Williams, a chynulleidfa Cymanfa Ganu yng Nghwm Tawe yn canu.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 63
Rhagfyr 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Hen Nadolig y Cymry TWM ELIAS yn sgwrsio am hen arferion a thraddodiadau’r Cymry wrth iddynt ddathlu’r Nadolig a’r Calan, er gwaethaf yr ymdrechion i geisio cael gwared ohonynt.
Gerallt Gymro (3) BOB MORRIS  – sgwrs arall ddadlennol am Gerallt Gymro – y tro hwn ar ei uchelgais i fod yn Esgob Tŷ Ddewi.
Henaint EMLYN RICHARDS yn sôn am gyrraedd y pedwar ugain oed.
Hel Achau (2) T.MEIRION HUGHES yn rhoi sylw arbennig i’r dull o gyfenwi yng Nghymru sydd yn prysur ddod yn ôl.
Emynwyr y Fro (1) DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn sôn am ddau o fawrion Morgannwg, sef John Williams Sain Tathan a Tomos Wiliam, Bethesda’r Fro.
Tlysau Ynys Prydain DIANE JONES, cyn-reolwraig Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, â hanes diddorol am dri thlws ar ddeg o oes yr Hen Brydain, y Brythoniaid a’r Gododdin.
Côr Meibion Treorci (11) GERAINT JONES – O Gornel y Cerddor. Dyma’r olaf o’i sgyrsiau am ganu corawl Cwm Rhondda a’r ardloedd glofaol sydd yn cloi gyda Chôr Meibion Treorci, yn canu ‘Myfanwy‘.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 62
Tachwedd 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Y Lleidr ‘Menyn TWM ELIAS yn sgwrsio am ‘wynt traed y meirw’, hen ffeiriau’r gaeaf, a’r stori ryfeddol am dwyllo’r lleidr ‘menyn.
Bro Llugwy Y PRIFARDD CEN WILLIAMS yn sôn am ail ran ei daith yng ngogledd-ddwyrain Môn, y tro hwn yn ardal Llugwy lle ceir ‘adfeilion byw’ – yr hen adeiladau hudolus sydd â’u sylfeini yn gadarn ym mhridd gorffennol ein cenedl.
Gerallt Gymro (2) BOB MORRIS yn ei ail sgwrs yn edrych ar gyfnod rhamantus yn hanes ein gwlad, sef y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd-ganrif-ar-ddeg, drwy ffenestr Gerallt Gymro.
Bro Morgannwg (2) DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd a’r ‘pererin llon’ sy’n dal ar ei daith ym Mro Morgannwg, yn ymweld â llawer o lefydd tlws a hanesyddol fel Plasty’r Sger, ac yn sôn am Iolo Morganwg.
Côr Meibion Treorci (10) GERAINT JONES, ein Golygydd, yn ein tywys o Gornel y Cerddor i gyfarfod â’r frenhines Fictoria yng nghwmni Côr Meibion Treorci a Chôr Chwarelwyr Dinorwig, Arfon.
Hel Achau (1) T.MEIRION HUGHES, hanesydd tref Caernarfon yn sôn am hel achau ac yn cael cymorth arbenigwraig yn y maes i ddangos sut i fynd ati os am lwyddo i ddod o hyd i ffeithiau.
Triawd y Coleg (5) CLEDWYN JONES gyda rhan olaf ei ddarlith a gair o ddiolch a chyfeiriadau at fod yn wleidyddol gywir, cyn cloi gyda’r gân am ‘Hen Feic Peni-ffardding fy Nhaid’.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 61
Hydref 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Jac Lantar Nos Glangaea’ TWM ELIAS a’i rwdan a’i Jac Lantar, yn troi’n sylw at nos Glangaea’ a hen, hen elfennau cytefig a phaganaidd y traddodiad yng Nghymru.
Gerallt Gymro (1) BOB MORRIS, yr hanesydd, yn y gyntaf o bedair sgwrs addysgiadol a difyr, yn sôn am hanes y Cymro rhyfeddol a digon cymhleth sydd â’i Gymreictod honedig yn rhan annatod o’i enw – Gerallt Gymro.
Côr Meibion Treorci (9) GERAINT JONES yng Nghornel y Cerddor, yn sôn am darddiad enw Treorci, am hanes glofeydd yr ardal ac am y côr meibion  a ddaeth yn goron y diwylliant ac yn enwog drwy’r byd.
Eisteddfodau a Beirdd Llŷn Y PRIFARDD CEN WILLIAMS o Fôn, yn sgwrsio am gynnyrch Eisteddfodau Pwllheli gynt ac am awdl ‘Y Dewin’ gan Moses Glyn Jones o Fynytho a fu’n fuddugol yn Eiteddfod  Caerfyrddin ym 1974.
Bro Morgannwg (1) DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, a’r ‘crwydryn llon’ yn dechrau ar ei daith trwy bentrefi hyfryd Bro Morgannwg, yn enwedig Llancarfan, Llanilltyd ac Ewenni.
Siarad EMLYN RICHARDS, yr hynaws bregethwr o Fôn a gwlad Llŷn yn ein harwain at Bob a Nel o Garmel, Sir Fôn a’r gwyddau oedd yn siarad.
Triawd y Coleg (4) CLEDWYN JONES yn parhau â’i atgofion difyr am Driawd y Coleg ac yn cyflwyno rhai o’r caneuon hyfryd a swynol a wnaeth y triawd yn eicon ganol yr 20fed ganrif.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 60
Medi 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Hanes Utgorn Cymru MORGAN JONES, ein cyflwynydd yn rhoi ychydig o hanes Utgorn Cymru ac yn sôn am gynnwys y rhifyn cyntaf yn Hydref 2006.
Pen-blwydd Utgorn Cymru MARIAN E.ROBERTS ein Hysgrifennydd, ar ben blwydd Utgorn Cymru yn bump oed, yn sôn am agor y Ganolfan ac am ddechrau cyhoeddi’r cylchrawn chwe mis yn ddiweddarach.
Rhys Hendra Bach HARRI PARRI, y pregethwr a’r llenor sydd yn un o ffyddloniaid yr Utgorn, yn portreadu saer cribiniau, saer eirch a ‘Babtys o’r bru’ –  Rhys Roberts, Hendra Bach.
Cofio’r Athro JR Jones PRYDERI LLWYD JONES yn sôn am y Cymro a’r heddychwr, Yr Athro J.R. Jones, o Abertawe a Phwllheli, gŵr nad ydym bob amser yn sylweddoli nad ei athroniaeth na’i genedlaetholdeb oedd ei unig argyhoeddiadau angerddol.
Lleuad a Chaseg Fedi TWM ELIAS yn sôn y mis hwn am Leuad Fedi a’r naw nos olau, am hwyl ddiniwed y Gaseg Fedi,  Gŵyl Fihangel, Ha’ bach Mihangel a’r diafol.
Triawd y Coleg (3) CLEDWYN JONES, yn nhrydedd ran ei sgwrs, yn troi ei olygon at rai o ganeuon anfarwol y Triawd fel ‘Y Tri Chanwr’, ‘Mari Fach’, ‘Triawd y Buarth’, ac un a gyfansoddwyd gan Robin Williams, baswr y Triawd: ‘Pictiwrs Bach y Borth’.
Tŷ’r Ysgol DIANE JONES  yn ein tywys i bentref bach Rhyd-Ddu yng nghalon Eryri i sôn am un sonedau anwylaf y Gymraeg, sef ‘Tŷ’r Ysgol’ gan T.H. Parry-Williams.
Côr Meibion Treorci (8) GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn sôn am fuddugoliaeth y ‘Rhondda Glee Men’ a’u harweinydd nodedig, Tom Stephens, yn Ffair y Byd yn Chicago. Ar y diwedd cawn glywed diweddglo un o ddarnau prawf y gystadleuaeth honno sef ‘Cytgan y Pererinion’, Joseph Parry, yn cael ei ganu gan un arall o fawrion gorau meibion Cwm Rhondda:Côr Meibion Pendyrus.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 59
Awst 2011
Cyflwynydd; Morgan Jones
 
Y tymor saethu TWM ELIAS, y mis hwn, yn ein tywys i fyd gŵr y Plas a’r saethu, yn sôn am Ŵyl Ieuan y Moch, ac yn adrodd stori go amheus o stad Dolannog, Sir Drefaldwyn.
Lewis Morris (2) Y PRIFARDD CEN WILLIAMS o Fôn, yn parhau â’i stori arbennig am y di-ildio a’r dawnus Lewis Morris.
Gildas (2) HOWARD HUWS gyda rhagor am un o gymeriadau mawr hanes cynnar ein cenedl.
Dafydd Jones o Gaeo DAWI GRIFFITHS yn troi ei olygon at bentref bychan Caeo yn Sir Gaerfyrddin, ac at un o’n hemynwyr enwocaf.
Triawd y Coleg (2) CLEDWYN JONES gyda’i ail ran sgwrs ddifyr ar hanes y triawd rhyfeddol a fu’n diddanu’r genedl yng nghyfnod cynnar y gwasanaeth radio Cymraeg – cyfnod Sam Jones a’r Noson Lawen.
Bysus Bach y Wlad T.MEIRION HUGHES, hanesydd tref Caernarfon, yn dwyn ar gof ogoniant a fu bysus bach y wlad.
Côr Meibion Treorci (7) GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn datgan fel y crewyd rysait ddi-feth ar gyfer cythraul canu pan ddaeth William Thomas, Tom Stephens a Chôr Meibion Treorci a’r Rhondda Glee Men ynghyd.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 58
Gorffennaf 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Teisennau Berffro TWM ELIAS â’i arlwy ysbrydol a chorfforol a chyfuniad rhyfedd o bereindota a theisennau Berffro.
Triawd y Coleg (1) CLEDWYN JONES – brodor o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, awdur a llenor sydd hwyrach yn fwy adnabyddus trwy Gymru fel un o’r triawd arloesol.
Lewis Morris (1) Y PRIFARDD CEN WILLIAMS yn ein tywys i Fôn at hanes y mwyaf o’i mawrion, y pennaf a’r mwyaf galluog o’r brodyr enwog – Morrisiaid Môn.
Y Cofiant Cymeig (3) DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn yr olaf o’i sgyrsiau ar y cofiant Cymreig yn ein hatgoffa fod ochr ddigri hefyd i rai o’r hen gofiannau oedd, fel rheol, yn sych a thrwmlwythog.
Côr Meibion Treorci (6) GERAINT JONES, ein Golygydd, o Gornel y Cerddor, yn ein tywys i Gwm Rhondda, i Dreorci’n benodol, ac at y ffenomen gerddorol hynod o Gymreig – y côr meibion.
Gildas (1) HOWARD HUWS sydd wedi ei ymdrwytho yn hanes cynnar ein cenedl, yn ei sgwrs gyntaf am un o haneswyr y gorffennol pell.
Moliannwn J.ELWYN HUGHES yn mynd i lygad y ffynnon i gael y gwir am darddiad ac awduraeth geiriau’r gân enwog ‘Moliannwn’ .
 
Utgorn Cymru Rhifyn 57
Mehefin 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Troad y Rhod a’r Ysbrydnos TWM ELIAS y tro hwn yn symud o’r Gwanwyn tuag at ganol yr Haf a ddathliadau Mehefin, mis ein puro â than a mis Gŵyl Ifan a Gŵyl yr Ysbrydnos.
Catrin o Ferain (3) DR ENID PIERCE ROBERTS – Rhan olaf sgwrs Dei Tomos â’r ddiweddar ysgolhaig Dr. Enid Pierce Roberts am y ryfeddol Gatrin o Ferain a’i phriodasau niferus, a’r pwysigrwydd o gael plant yn llinach yr uchelwyr.
Ffynhonnau Llŷn (2) ELFED GRUFFYDD yn ei ail sgwrs ar enwau rhai o ffynhonnau Llŷn, yn enwedig y rhai yr oedd cred yn eu nerth meddyginiaethol ac y bu pererindota atynt yn gryf gydol yr oesau.
Cilan ac Edern Y PRIFARDD CEN WILLIAMS o Fôn, yn ein harwain ar daith lenyddol i Lŷn, i Gilan, cynefin y Prifardd Alan Llwyd ac i Edern at  John Glyn Davies, bardd Porthdinllaen a Fflat Huw Puw.
Y Napoleon T.MEIRION HUGHES yr hanesydd, yn sôn am un o hen longau Caernarfon, yr enwog ‘Napoleon’ y cysylltwyd ei henw yn ddiweddarach â theulu o Gofis.
Y Cofiant Cymreig (2) DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn ei ail sgwrs ar y cofiannau Cymreig, a oedd bron yn ddieithriad wedi eu neilltuo i ddynion, a’r rheini â bucheddau dilychwin.
Côr Meibion Treorci (5) GERAINT JONES o Gornel y Cerddor, yn ein tywys i’r Palas Grisial yn 1873 a buddugoliaeth berlewygol y cantorion Cymreig.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 56
Mai 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Caseg Pemprys a’r Sulgwyn TWM ELIAS yn adrodd hanes caseg wen nwydus o ardal Boduan, Llŷn, ac yn sôn am ddathliadau’r  Sulgwyn, ar yr wythfed Sul wedi’r Pasg.
Straeon Celwydd Golau ROBIN GWYNDAF, yn dilyn oes o weithio yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan a gwrando ar straeon lawer ledled Cymru, yn adrodd un neu ddwy o’r rhai mwyaf amheus.
Ffynhonnau Llŷn (1) ELFED GRUFFYDD, brodor o Langwnadl yn Llŷn, a chyn-brifathro ysgolion Nefyn a Phwllheli, gyda rhan gyntaf sgwrs ddiddorol sy’n sôn am hanes rhai o hen ffynhonnau’r ardal.
Y Cofiant Cymreig (1) DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn cyflwyno ei sgwrs gyntaf ar ffurf lenyddol y cofiant Cymreig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Catrin o Ferain (2) DR.ENID PIERCE ROBERTS – Y ddiweddar Ddr. yn ail ran ei sgwrs gyda Dei Tomos yn sôn am ei diddordeb yn hanes Catrin o Ferain.
Nant Gwrtheyrn DEILWEN HUGHES o Fethel yn Arfon yn darllen rhai o atgofion ei thad, Robert Gwynedd Crump, am fywyd pentref Nant Gwrtheyrn.
Y flwyddyn 1900 TEGWYN JONES, y gŵr gwybodus o Geredigion, yn sôn am 1900, y flwyddyn yr heriodd y Boeriaid rym yr ymerodraeth Brydeinig, blwyddyn gemau Olympaidd Paris a llawer mwy.
Côr Meibion Treorci(4) GERAINT JONES, yng Nghornel y Cerddor, yn sgwrsio am Griffith Rhys Jones, y gof talentog o Drecynon, Aberdâr, sef Caradog, a roddodd sylfaen i’r cysyniad o Gymru Gwlad y Gân.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 55
Ebrill 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Rhyfeddodau Ebrill TWM ELIAS yn sôn am natur gyfnewidiol Ebrill, am ‘wellingtons’, am y gôg ac am boeri ar bres.
Hedfan i Sir Fôn T.MEIRION HUGHES, yr hanesydd ffyddlon, gyda hanes rhywun yn hedfan o gastell Caernarfon i Fôn yn 1857.
Teulu Penygeulan W.J.EDWARDS yn ein tywys i ardal Penllyn, Meirionnydd at un o deulu Penygeulan yr hanai  O.M.Edwards ohono.
Catrin o Ferain (1) DR ENID PIERCE ROBERTS – Rhan gyntaf  sgwrs y ddiweddar Ddr. Enid Pierce Roberts, Bangor gyda Dei Tomos, ar Gatrin o Ferain a’i hamrywiol briodasau.
Chwedlau’r Llyn ROBIN GWYNDAF, un arall o ffyddloniaid yr Utgorn, yn adrodd rhai hen straeon am Lyn Safaddan ym Mrycheiniog.
T. Rowland Hughes DIANE JONES, cyn-reolwr Y Ganolfan, gyda chyfraniad byr am ‘y dewraf o’n hawduron’ – y bardd a’r nofelydd T.Rowland Hughes.
Rhiw-bach (4) VIVIAN P.WILLIAMS o Flaenau Ffestiniog, gyda rhan olaf hanes Rhiw-bach, y pentref chwarelyddol yr ochr uchaf i Benmachno a’i gymdeithas ddiwylliedig.
Côr Meibion Treorci (3) GERAINT JONES o Gornel y Cerddor, yn sgwrsio am ddatblygiad canu corawl yn Nhreorci a hanes y canwr ‘Caradog’ a enillodd le yng nghyfrolau hanes Gwlad y Gân.
Bardd y Betws Fawr J.DILWYN WILLIAMS â golwg ar droeon gyrfa un o feirdd mwyaf Cymru: Robert ap Gwilym Ddu.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 54
Mawrth 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Y Pasg a’i arferion Gŵyl y Pasg a’i thraddodiadau yw testun sgwrs TWM ELIAS y tro hwn.
Idwal Wyn Jones HARRI PARRI yn sôn am y diweddar Idwal Jones, gweinidog gyda’r Bedyddwyr, casglwr hen greiriau a chymeriad yn ei hawl ei hun.
Y flwyddyn 1890 TEGWYN JONES, un arall o gyfranwyr ffyddlon Yr Utgorn, yn sgwrsio am y flwyddyn 1890.
Y teiffws a’r geri marwol DAWI GRIFFITHS, cadeirydd gweithgar Pwyllgor Gwaith Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn sôn am ddau afiechyd marwol fu’n rheibio Cymru am amser maith.
Stori cyflawni camp ROBIN GWYNDAF yn troi ei olygon at ardal Dyffryn Ceiriog, at ffurf ar stori draddodiadol ac un a glywodd gan Idris Davies.
Evan R. Davies, Pwllheli (3) TWM PRYS JONES  yn cyflwyno rhan olaf ei sgwrs ar Evan R. Davies, gŵr dawnus a gweithgar yn nhref Pwllheli.
Rhiw-bach (3) VIVIAN PARRY WILLIAMS gyda mwy o hanes Rhiw-bach a hynt a helynt Kate Hughes, ysgolfeistres y pentref.
Côr Meibion Treorci (2) GERAINT JONES yng Nghornel y Cerddor, yn sôn am ganu cynulleidfaol y capeli yng nghymoedd y de ac am ddylanwad aruthrol ‘Llyfr Tonau’ Ieuan Gwyllt,  y gŵr a sefydlodd y gymanfa ganu Gymreig.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 53
Chwefror 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Llyffantod  Gyda dyfodiad y ‘mis bach’ dyma sgwrs fer gan TWM ELIAS.
Hen Feibl W.J.EDWARDS yn dychmygu hanes llyfr o’i eiddo sydd yn werthfawr oherwydd ei natur, ei gynnwys, a hefyd ei oed.
Evan R. Davies, Pwllheli (2) TWM PRYS JONES gydag ail ran hanes Evan Robert Davies, y gŵr o Bwllheli a oedd yn gyfaill mynwesol i Lloyd George.
Tyddyn Cwtyn y Ci ROBIN GWYNDAF yn ein tywys i Fro Hiraethog ac at hen draddodiad adrodd straeon y fro honno.
Yr Hen Felinydd SOPHIA PARI-JONES o’r Felin Faesog ym mhlwyf Clynnog Fawr yn Arfon, yn sôn am Emanuel Evans a fu’n felinydd yno, ac a oedd yn ŵr diwilliedig ac yn gerddor amryddawn.
Rhiw-bach (2) VIVIAN PARRY WILLIAMS ac ail ran hanes y pentref diflanedig ym mharthau uchaf Cwm Penmachno, a bwrlwm diwylliannol y lle yn awr anterth y chwarel lechi.
Y Pla Du DAWI GRIFFITHS yn disgrifio gwedd drist iawn ar hanes Cymru – yr afiechydon a chlefydau fel y gwahanglwyf a’r pla du.
Côr Meibion Treorci GERAINT JONES, yn y gyntaf o un ar ddeg o sgyrsiau, yn teithio i Gwm Rhondda i gael golwg fanwl ar fyd y corau meibion sydd ag iddo le arbennig yn ein traddodiad cerddorol.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 52
Ionawr 2011
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Y Calan a Dwynwen TWM ELIAS, ar ddechrau blwyddyn newydd, yn sôn am hen bethau’r calan gynt, am oruchwylion gaeafol byd amaeth ac am y Santes Dwynwen.
Huw Llwyd o Gynfal GERAINT VAUGHAN JONES, un o brif nofelwyr y Gymraeg, sydd yn rhoi hanes un o dylwyth y Llwydiaid athrylithgar o Gynfal Fawr ym mhlwyf Maentwrog.
Y flwyddyn 1873 TEGWYN JONES â’i stôr o wybodaeth am rai o ddigwyddiadau’r flwyddyn 1873,  am David Livingstone, Twm Sion Cati, am golli llongau a llawer mwy.
Puleston PRYDERI LLWYD JONES yn adrodd hanes un o heddychwyr mawr Cymru, sef y galluog a’r dewr bregethwr dall, John Puelston Jones.
Rhiw-bach VIVIAN PARRY WILLIAMS, brodor o ardal Penmachno, yn ei gyntaf mewn cyfres o bedair sgwrs ar ardal fynyddig ac anghysbell Cwm Penmachno a phentref chwarelig Rhiw-bach.
Morrisiaid Môn Y PRIFARDD CEN WILLIAMS o Fôn, yn sôn am Forrisiaid enwog yr ynys – y pedwar brawd oedd yn llythyrwyr brwd, a’r berthynas ryfeddol oedd rhyngddynt.
Evan R Davies, Pwllheli (1) TWM PRYS JONES yn ei sgwrs gyntaf o dair am Evan Robert Davies, un o feibion Pwllheli a fu’n faer y dref bedair gwaith ac a fu’n gysylltiedig â llawer o agweddau ar fywyd yr ardal.
Stori Martha Williams ROBIN GWYNDAF yn adrodd stori ryfeddol a glywodd gan Martha Williams o Harlech.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 51
Rhagfyr 2010
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Y drwg a’r da ROBIN GWYNDAF yn troi at yr hen thema a geir yn ein chwedlau gwerin, sef y frwydr rhwng y da a’r drwg.
Chwedl Branwen BRANWEN JARVIS, cyn Athro’r Gymraeg yng Ngholeg Bangor, yn ein tywys at un o’r hen ffefrynnau o fyd y Mabinogi, sef hanes Branwen ferch Llŷr.
Talhaearn GORONWY DAVIES, Llanfairtalhaearn, yn adrodd hanes John Jones, Talhaearn a oedd yn fardd, yn bensaer ac eisteddfodwr, ar flwyddyn dathlu dau can mlwyddiant.
Thomas Roberts, Llwynrhudol (4) ARTHUR MEIRION ROBERTS yn cyflwyno  rhan olaf ei gyfres o sgyrsiau diddorol am un o gewri Cymreig y ddeunawfed ganrif.
Hen Gantorion Dyffryn Nantlle IFAN GLYN JONES, un o’r ddau olygydd, yn sôn am gyhoeddi cryno- ddisg o hen gantorion Dyffryn Nantlle, a oedd yn ffrwyth misoedd o lafur.
Coed-y-Gell Y PRIFARDD CEN WILLIAMS yn ein tywys i rai o ardaloedd Môn; i Fynydd Bodafon, i Goed-y-Gell, ac i Fynydd Eilian lle magwyd  y diweddar Bedwyr Lewis Jones.
Awen Lawen THPW Y PRIFARDD LLION JONES yn trafod rhai o weithiau T.H.Parry Williams sydd yn datgelu iddo ufuddhau i gyngor ei dad i fod ‘yn feiddgar hyd walltgofrwydd’.
Y Nadolig a’r Sadwrnalia TWM ELIAS yn troi’n sylw at Ŵyl y Nadolig a’i harferion, at y deiliach gwyrddion, y gwledda, a hen ŵyl baganaidd y Rhufeiniaid gynt: y Sadwrnalia.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 50
Tachwedd 2010
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Ffeiriau Glangaea TWM ELIAS yn sôn am hen ffeiriau lle’r arferid cyflogi gweision a morynion ffermydd.
Ysbrydion tanllyd WILLIAM LEWIS, gŵr o Fôn, yn sôn am ddirgelwch tân a welwyd ar yr Ynys.
Thomas Roberts, Llwynrhudol (3) ARTHUR MEIRION ROBERTS gyda rhagor o hanes Thomas Roberts, Llwynrhudol a’i berthynas â’n brodyr Celtaidd o Lydaw.
Y flwyddyn 1867 TEGWYN JONES yn oedi yn y flwyddyn 1867, blwyddyn o ddigwyddiadau mawr yn Iwerddon, a blwyddyn bwysig yn hanes yr Eisteddfod a hefyd Sarah Jacob yma yng Nghymru.
Ieuan Gwynedd W.J.EDWARDS yn adrodd hanes diddorol am Ieuan Gwynedd, un o wŷr mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cwlwm tafod ROBIN GWYNDAF yn rhannu rhai o’r storïau a adroddwyd iddo am glymau tafod neu dafod llithrig.
Yr wylan : Dafydd ap Gwilym DIANE JONES yn sôn am y bardd anfarwol, Dafydd ap Gwilym, ac yn cyflwyno un o’i gerddi hyfrytaf.
Dwy delyneg goll Y PRIFARDD LLION JONES yn trafod dwy gerdd goll arall o eiddo T.H.Parry-Williams, sef dwy gerdd rhyfel.
Achubiaeth Gymreig GERAINT JONES, ein gohebydd, yn ein tywys at ddigwyddiadau y waredigaeth a ddaeth i ran gweithwyr y pwll copr ac aur yng ngwlad Chile yn ddiweddar a llawer achubiaeth gyffelyb a fu yng nglofaoedd De Cymru.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 49
Hydref 2010
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Y Madarch Hudol TWM ELIAS yn trafod madarch a’u cysylltiadau â gwrachod, rhithweledigaethau a thylwyth teg.
Hen Arferion Cymru (2) ROBIN GWYNDAF gyda mwy o storïau gwerin a dyfodd dros y blynyddoedd, y tro hwn am y wraig hynod, Catrin o Ferain.
Dwy delyneg goll Y PRIFARDD LLION JONES yn trafod dwy delyneg o waith T.H.Parry-Williams nas cyhoeddwyd erioed.
Gwenfrewi GWENLLIAN JONES yn rhoi hanes y santes Gwenfrewi, o’r seithfed ganrif, a’i chysylltiadau â Threffynnon a  Gwytherin.
Thomas Roberts, Llwynrhudol (2) ARTHUR MEIRION ROBERTS gydag ail ran ei sgwrs am Thomas Roberts, Llwynrhudol a’i bwysigrwydd yn hanes Cymru.
Y Royal Charter Y PRIFARDD CEN WILLIAMS yn sôn am drychineb y llong ‘Royal Charter’ a ddrylliwyd ar y creigiau ger Moelfre, fis Hydref 1859.
Edmwnd Glynne (3) GARETH HAULFRYN WILLIAMS yn rhan olaf o’i sgwrs am hynt a helynt Edmwnd Glynne, yr Ynad Heddwch o’r Hendre, ger Glynllifon.
Baled Penyberth (Ianto Soch) EMLYN A HARRI RICHARDS yn sôn am faled a gyfansoddwyd gan Ianto Goch adeg codi’r ysgol fomio ym Mhenyberth yn Llŷn.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 48
Medi 2010
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Gŵyl y Grog a’r Gyhydnos TWM ELIAS yn sôn am bwysigrwydd Gŵyl y Grog a’r Gyhydnos yn y flwyddyn amaethyddol.
Dau le ELFYN PRITCHARD yn sgwrsio am ddau ŵr arbennig ac am ddau le cysegredig sydd â rhan bwysig yn hanes ein cenedl.
J.P. Davies, Porthmadog PRYDERI LLWYD JONES yn adrodd hanes J.P.Davies, gŵr dewr ac unplyg oedd yn heddychwr ac yn genedlaetholwr digymrodedd.
Newyn yng Nghymru DAWI GRIFFITHS, ein cadeirydd, yn sôn am ymdrechion Cymry’r oes a fu i oresgyn argyfyngau tra’n cydio’n dynn yn edefyn brau bywyd.
Castell Dolbadarn DIANE JONES, ein cyn-reolwr, yn sôn am hanes un o gestyll cynhenid Gymreig ein tywysogion a’i arwyddocad hanesyddol.
Thomas Roberts, Llwynrhudol (1) ARTHUR MEIRION ROBERTS yn cyflwyno rhan gyntaf ei sgwrs am un o wŷr mawr a dewr y ddeunawfed ganrif.
Moelfre Y PRIFARDD CEN WILLIAMS sydd yn ein tywys i ogledd-ddwyrain Ynys Môn, ac i gyfeiriad pentref Moelfre.
Edmwnd Glynne (2) GARETH HAULFRYN WILLIAMS yn cyflwyno  ail ran ei sgwrs am Edmwnd Glynne, Yr Hendre, Llandwrog;  Piwritan ac Ynad Heddwch.
Hen Arferion Cymru (1) ROBIN GWYNDAF yn y gyntaf mewn cyfres o sgyrsiau am hen draddodiadau a chwedlau Cymru.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 47
Awst 2010
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Tri llif Awst TWM ELIAS yn sôn am fis Awst a’r hen ddywediadau am ei dywydd.
Lle hudolus ELFYN PRITCHARD yn sgwrsio am lecyn sydd yn arbennig iddo, lle y gall lwyr ymgolli.
Edmwnd Glynne (1) GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn-archifydd Gwynedd, yn y gyntaf mewn cyfres o sgyrsiau am un o wŷr mawr teulu breintiedig Glynllifon.
Y Llofft Stabal (3) EMLYN RICHARDS yn nhrydedd ran ei sgwrs am fywyd y gwas fferm yn yr oes a fu.
Bro Caradog Prichard (4) J.ELWYN HUGHES yn yr olaf mewn cyfres o sgyrsiau am fro Caradog Pritchard ac am lawnder bywyd Bethesda a Dyffryn Ogwen.
Adeiladu yn Lerpwl (2) DAWI GRIFFITHS, ein cadeirydd, yn parhau i sôn am Lerpwl ac am ran allweddol y Cymry yn nhwf y ddinas.
Y flwyddyn 1865 TEGWYN JONES yn ein tywys i flwyddyn llawn digwyddiadau, yn eu plith lladd yr Arlywydd Abraham Lincoln, hwylio’r Mimosa gyda’r fintai gyntaf am Batagonia, ac Eisteddfod Aberystwyth.
Mormoniaid Felin Faesog SOPHIA PARI-JONES, un o noddwyr Utgorn Cymru, sydd yn sôn am ŵr a oedd yn ffrind i Joseph Smith, arweinydd y Mormoniaid, ac a ddylanwadodd ar lawer o Gymry a ymfudodd i  Ddinas y Llyn Halen, U.D.A.
Siôn Gwerthyr HARRI PARRI yn datgelu’r hanes am aelod o’i deulu, sef y dihiryn John Thomas, neu Siôn Gwerthyr.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 46
Gorffennaf 2010
 
 
Dyddiau’r Cŵn TWM ELIAS yn sôn am y cyfnod poethaf o’r flwyddyn, o’r 3ydd o Orffennaf hyd y 10fed o Awst.
Y Llofft Stabal (2) EMLYN RICHARDS a hanes ei flynyddoedd yn was fferm cyn ei alwad i’r weinidogaeth.
Damwain Bryncir 1866     GARETH HAULFRYN WILLIAMS 
Llawn eco yw Llanycil W.J. EDWARDS 
Y flwyddyn 1851 TEGWYN JONES a’r gyntaf o’i chwe cyfraniad ar wahanol flynyddoedd mewn hanes.
Bro Caradog Prichard (3) J. ELWYN HUGHES 
Pafiliwn Corwen ELFYN PRITCHARD yn sôn am hen Bafiliwn Corwen a’i hanes anrhydeddus mewn cysylltiad â llawer gwedd ar ein diwilliant.
Adeiladu yn Lerpwl DAWI GRIFFITHS â’i gyntaf o ddwy sgwrs am ran flaenllaw y Cymry yn adeiladu Lerpwl, prifddinas honedig siroedd y gogledd.
Ffarwel i Ddociau Lerpwl  
 
Utgorn Cymru Rhifyn 45
Mehefin 2010
 
Bro Caradog Prichard (2)
Milwr o Feirion ELFYN PRITCHARD yn sôn am Tom Jones, un o feibion Meirion, a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac a gladdwyd ym mynwent Cefnddwysarn.
Y Llofft Stabal (1) EMLYN RICHARDS â’r gyntaf o dair sgwrs ar fywyd yr hen lofft stabal, “canolbwynt y gymdeithas amaethyddol”.
Plentyn Glannau Merswy  
Troad y Rhod TWM ELIAS yn sôn am hen goelion ynglŷn â’r dydd hwyaf, gŵyl Barnabas, troad y rhod, a Gŵyl Ifan.
Bardd Du’r Betws HARRI PARRI â hanes Robert ap Gwilym Ddu, y bardd a’r “emynwr un emyn” o Eifionydd.
Gwenllïan (2) GWENLLIAN JONES ac ail ran yr hanes rhyfeddol am Gwenllian, y ferch wladgarol a fu’n ymladd dros iawnderau a rhyddid ei phobol.
Y Whipar-whîl GORONWY WYNNE, gŵr amlwg ym mywyd cerddorol (a botanegol) Cymru, gyda golwg newydd ar gân enwocaf Bob Roberts, Tai’r Felin.
Moliannwn BOB TAI’R FELIN
 
Utgorn Cymru Rhifyn 44
Mai 2010
 
Y Ffair Gyflogi TWM ELIAS yn adrodd hanes mis arbennig ym mywydau’r hen weision ffermydd gynt, gyda’i ffeiriau Calan Mai a’i ffeiriau cyflogi.
Mary King Sarah (2) AELWEN ROBERTS ag ail ran ei sgwrs ddifyr am y gantores ddawnus o Ddyffryn Nantlle.
Bro Caradog Prichard (1) J. ELWYN HUGHES 
Gwenllïan GWENLLIAN JONES â’r gyntaf o ddwy sgwrs ar Gwenllian, ferch Gruffydd ab Cynan, un o dywysogesau mwyaf rhyfeddol Cymru.
Llwyd o’r Bryn (5) GERAINT LLOYD OWEN a’r olaf o bum sgwrs am ei gymydog, ei ffrind a’i arwr, Llwyd o’r Bryn.
Y Tad Hughes HARRI PARRI yn adrodd hanes dyfodiad y Tad Hughes i Aber-soch ac i Ynys Tudwal Sant yn 1886.
Siôn Llwyn Moch GERAINT JONES yng  Nghornel y Cerddor, yn sôn am un arall o sylfaenwyr Gwlad y Gân, sef John Rees, neu Siôn Llwyn Moch, o Sir Forgannwg.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 43
Ebrill 2010
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Y telor a’r timba TWM ELIAS â stori werin ddifyr o Affrica am delor yr helyg, aderyn sydd â’i gân yn un o’r arwyddion fod y gwanwyn wedi dod.
Edward Griffith a’r Dragwniaid DAFYDD GLYN JONES 
Ffugenwau (2) DAWI GRIFFITHS ac ail ran ei sgwrs hynod ar ffugenwau llawn dychymyg, rhai o’r byd clasurol.
Llwyd o’r Bryn (4) GERAINT LLOYD OWEN â’i bedwaredd sgwrs am Llwyd o’r Bryn, ei ddawn lenyddol a’i allu i saernio llythyrau o’r radd flaenaf.
John Parry a’i atgofion W.J. EDWARDS
Mary King Sarah (1) AELWEN ROBERTS  
Yr hen athro canu GERAINT JONES,  yng Nghornel y Cerddor, â hanes gŵr o’r Waun-fawr yn Arfon oedd yn gerddor ac athro llwyddiannus ac yn ddylanwad ar yr ymchwydd cerddorol yng Ngwlad y Gân.
Hiraeth am gartref LLEISIAU’R LLWYN
   
 
Utgorn Cymru Rhifyn 42
Mawrth 2010
 
Sul y Pys a’r Gwyliau  TWM ELIAS yn mynd trwy ei bethau.
Yr Ysgol Sul HARRI PARRI a hanes dylanwad arbennig yr Ysgol Sul dros y canrifoedd yma yn Nghymru.
Llwyd o’r Bryn (3) GERAINT LLOYD OWEN â’r drydedd o bum sgwrs am eiteddfodwr a gŵr a fathodd yr ymadrodd ‘y pethe’.
Ffugenwau (1) DAWI GRIFFITHS â’r gyntaf o ddwy sgwrs am ffugenwau rhyfedd, ymarferol, a smala ymhlith beirdd a cherddorion Cymru.
Yr hen godwr canu (2) GERAINT JONES 
Harriet Elias EIRLYS GRUFFYDD â hanes Harriet, gwraig arbennig a ddaeth yn ferch-yng-nghyfraith i John Elias o Fôn.
Dafydd ‘Rabar T. MEIRION HUGHES, hanesydd tref Caernarfon, yn sôn am Borth-yr-Aur ac am un o’r cofis enwocaf a fu erioed.
   
 
Utgorn Cymru Rhifyn 41
Chwefror 2010
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Mis bach twyllodrus TWM ELIAS 
Helynt William Trotter DAFYDD GLYN JONES 
Achos y tai haf (2) ROBYN LEWIS, y cyn-Archdderwydd a’r cyfreithiwr, ac ail ran o sgwrs am yr achos llys a fu yn Mhwllheli yng nghyfnod y protestio yn erbyn tai haf.
Lewis Valentine BRANWEN JARVIS, cyn Athro’r Gymraeg ym mhrifysgol Bangor, yn sôn am ymateb cynulleidfa ei eglwys i ran Lewis Valentine yn llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth.  
Llwyd o’r Bryn (2) GERAINT LLOYD OWEN 
Gadael Tir:Cofio Hywel Teifi GERAINT JONES 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 40
Ionawr 2010
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Gwanwyn cynnar TWM ELIAS yn sôn am y newid yn y tymhorau ac am ddylanwad dyfodiad cynnar y Gwanwyn ar fyd natur.
Planhigion Meddyginiaethol ANNE ELIZABETH WILLIAMS 
Llwyd o’r Bryn (1) GERAINT LLOYD OWEN a’i atgofion am hanes a dylanwad un o gewri ardal y Sarnau ym Meirion.
Achos y tai haf (1) ROBYN LEWIS, y cyfreithiwr a’r cyn-Archdderwydd â hanes yr achos llys ym Mhwllheli yn anterth yr ymgyrch meddiannu tai haf.
Carchar Caernarfon T. MEIRION HUGHES yn ein hatgoffa am hen garchar Stryd y Jêl, Caernarfon, ac am y croesdoriad o droseddwyr a gadwyd yno.
Hen fwydydd y Cymry EMLYN RICHARDS 
Yr hen godwr canu (1) GERAINT JONES 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 39
Rhagfyr 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Dafydd Ddu Eryri GERAINT JONES, ar drothwy’r Nadolig,  yn sôn am un o garolwyr poblogaidd a mwyaf crefftus ein cenedl.
Y Tŷ Capel HARRI PARRI, gweinidog ymddeoledig, gyda hanesion difyr am brofiadau llawer pregethwr a fu’n aros mewn Tŷ Capel, un o syfedliadau pwysig amser a fu.
Bwyd ffarmwrs Môn EMLYN RICHARDS 
Arferion y Nadolig TWM ELIAS yn sôn am hen wasanaeth y Plygain a’i garolau, am yr arferiad o ddod â choed a chelyn i’r tŷ ac o anfon cardiau Nadolig.
Ann Griffiths (2) GWENLLIAN JONES ac ail ran ei sgwrs ar hynt, helynt a meddylfryd Ann Griffiths, ein prif farddones ac emynyddes.
Richie Thomas ARTHUR THOMAS yn sôn am ei dad, Richie Thomas, Penmachno;  un o’r tenoriaid mwyaf a gynhyrchodd Gwlad y Gân. I ddilyn cawn ei glywed yn canu  ‘Nosgan Serch’ o waith Mozart.
   
 
Utgorn Cymru Rhifyn 38
Tachwedd 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Glangaeaf a’i fendithion TWM ELIAS 
Abergarthcelyn (4) Y PRIFARDD IEUAN WYN â’r olaf o bedair sgwrs ar hanes ysblennydd ein tywysogion olaf.
William Williams y llenor DAFYDD GLYN JONES 
Ann Griffiths (1) GWENLLIAN JONES a rhan gyntaf o’i sgwrs am y ferch o Ddolwar Fach, ‘y danbaid, fendigaid Ann’.
Negro Jim GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn sôn am ei daith i dalaith Wisconsin ac am y caethwas du a fu yn godwr canu mewn capel Cymraeg.
Braw y Frech Wen W.J.EDWARDS, a fu’n weinidog yn ardal Penllyn, Meirionnydd am flynyddoedd, ac un o’i stôr o hanesion y fro, sef stori am glefyd a godai ofn ar genedl gyfan.
Bob Tom ARTHUR THOMAS, cyn-athro yn Ysgol Eifionydd, awdur toreithiog a mab y tenorydd Richie Thomas gynt, gyda hanes ei daid, Robert Thomas, arweinydd hen fand Penmachno.
 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 37
Hydref 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Tymor yr Hydref TWM ELIAS â chyfraniad misol arall sydd, y tro hwn, yn sôn am hen arferion tymor Gŵyl y Diolchgarwch, y bastai bwmpen a’r twrci tew.
Diolchgarwch MEIRION HUGHES, hanesydd tref Caernarfon, yn adrodd hanes tarddiad yr ŵyl Ddiolchgarwch, byd dychrynllyd  y cyrff ar draethau Cernyw, a newyn mawr Iwerddon.
Robin (ROGW) HARRI PARRI â phortread o weinidog, pregethwr, a gŵr hynod a fu hefyd yn boblogaidd trwy Gymru fel un o Driawd y Coleg.
John Dafis, Nercwys EIRLYS GRUFFYDD 
Helynt y Triog’ DAWI GRIFFITHS yn adrodd hanes helynt trioglyd dinas Boston yn yr Unol Daleithiau yn y flwyddyn 1919.
Abergarthcelyn (3) Y PRIFARDD IEUAN WYN â’i drydedd mewn cyfres o sgyrsiau ar Abergarthcelyn a theulu brenhinol Cymru ym 1282, blwyddyn dyngedfennol yn hanes Cymru.
Crych Elen GERAINT JONES, yng Nghornel y Cerddor, yn adrodd hanes gŵr o Ddolwyddelan a grwydrodd ymhell i’r Unol Daleithiau ac â’i hanwylodd ei hun i’r Cymry gyda’i gân ‘Y Bwthyn Bach To Gwellt’.
 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 36
Medi 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
William Williams, Llandygái DAFYDD GLYN JONES 
Abergarthcelyn  (2) Y PRIFARDD IEUAN WYN, â’r ail ran o’i sgwrs ddiddorol a dadlennol am Dywysogion Cymru.
Meibion y Daran ARWEL JONES, ‘Hogia’r Wyddfa’, yn sgwrsio am dîm pêl-droed ei bentref, Llanberis.
Dwyn ‘fala’ TWM ELIAS yn croesawu mis Medi, mis y cnau, mis y cynhaeaf a dwyn afalau.
 Goginan (2) LYN EBENEZER ac ail ran ei sgwrs ar y cymeriad unigryw a’r bardd a’r adroddwr Peter Davies.
Y flwyddyn 1936 TEGWYN JONES yn sôn am rai o ddigwyddiadau’r flwyddyn 1936 ar draws y byd ac am losgi’r ysgol fomio yn Llŷn ym mis Medi.
Utgorn Dafydd Miles GERAINT JONES 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 35
Awst 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Gwyliau Awst TWM ELIAS, yn ei gyfraniad misol, yn sôn am ddathliadau Awst yn y gwledydd Celtaidd.
Goginan (1) LYN EBENEZER â’r gyntaf o ddwy sgwrs ar ei hen gyfaill, yr eisteddfodwr a’r bardd Peter Davies.
Abergarthcelyn (1) Y PRIFARDD IEUAN WYN, gyda’r gyntaf o bedair sgwrs yn ein tywys i safle llys a phrif gartref tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif,  ac i borthladd Llan-faes ym Môn.
Tramp a phererin W.J. EDWARDS, gŵr adnabyddus am ei frwdfrydedd yn y meysydd crefyddol a gwladgarol, yn adrodd hanes y cardotyn a droes yn bererin a hanes Beibl rhyfeddol yr hen dramp.
Terfysg yn Eifionydd HARRI PARRI 
Y gêm hardd ARWEL JONES yn troi ei olygon at y bel gron a gêm y werin bobl fel y’i chwaraeid ym mhentrefi Eryri.
Tanymarian (2) GERAINT JONES o Gornel y Cerddor, yn sôn am Edward Stephen, am drasiedi Cymanfa fawr y Pafiliwn ac am angladd y cerddor oedd yn arwr gwerin gwlad.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 34
Gorffennaf 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Llyfr Du Sam Jones DAWI GRIFFITHS yn adrodd hanes yr arferiad o ddiarledd aelodau o gapeli yn y 19eg ganrif ac yn sôn am gofnodion o’r disgyblu fu yng nghapeli Cymraeg Lerpwl rhwng 1833 a 1874.
Llestri (2) TEGID ROBERTS ac ail ran ei sgwrs ddifyr ar lestri enwog a drudfawr.
Elin Morris (2) GWAWR JONES gyda mwy o hanes Elin Morris; hanes yn llawn helbulon ond sydd yn dangos gwytnwch teuluol arbennig.
Gorffen haf TWM ELIAS yn sôn am fis Gorffennaf, mis y gwyliau, mis y cynhaeaf gwair a’r pladuro, a gorffen yr haf.
Golgeidwad rhyfeddol ARWEL JONES yn ei elfen yn sôn am rai o gymeriadau’r cae pêl-droed.
Tanymarian (1) GERAINT JONES gyda’r gyntaf o ddwy sgwrs o Gornel y Cerddor am yrfa a chyfraniad un o dalentau mawr Cymru’r 19eg ganrif.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 33
Mehefin 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Guto Rhos-lan (2) DYFED EVANS ac ail ran ei sgwrs am Guto Roberts, y gŵr amryddawn o Eifionydd.
Cefn y rhwyd ARWEL JONES, Hogia’r Wyddfa yn y gyntaf o bedair sgwrs, yn ein harwain i fyd y bêl gron, a’i hanes a’i helyntion.
Elin Morris (1) GWAWR JONES, gwyddonwraig sy’n ymhyfrydu mewn pethau diwylliannol, yn adrodd hanes merch un o Forrisiaid Môn.
‘Hyfryd fis Mehefin’ TWM ELIAS
Llestri (1) TEGID ROBERTS, yn y gyntaf o ddwy sgwrs, yn sôn am ddylanwad y crochenydd ar ein ffordd o fyw.
Y flwyddyn 1926 TEGWYN JONES â hanesion blwyddyn gythryblus y dirwasgiad mawr.
Yr anthem goll GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn sôn am anthem genedlaethol Gymraeg Unol Daleithiau America: y geiriau gan ŵr o Ddyffryn Conwy a’r dôn gan ŵr o Forgannwg.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 32
Mai 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Gwenallt LYN EBENEZER, y gŵr rhadlon o Bontrhydfendigaid, yn sôn am un o bennaf feirdd Cymru.
Plwyfo Wil Cae Llywarch DAFYDD GLYN JONES
C’lamai TWM ELIAS yn sgwrsio am Galan Mai gan neidio o’r hendre i’r hafod ac edrych ymlaen at ddyfod yr haf.
Guto Rhos-lan (1) DYFED EVANS a rhan gyntaf o’i sgwrs am un o’i gyfeillion pennaf, y diweddar Guto Roberts, yr actor ac un o wŷr mawr Eifionydd.
Corsydd BERYL GRIFFITHS yn sôn fel y bu corsydd â lle amlwg yn hanes Cymru er mai prin fuont fel delweddau yn hanes pererindodau ysbrydol ein hemynwyr.
Geronimo GERAINT JONES o Gornel y Cerddor â hanes gŵr hynod a gwladgarwr gwiw, un o frodorion cynhenid America, ac i ddilyn cawn flas ar gerddoriaeth ddieithr a gwahanol gantorion y Garreg Ddu.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 31
Ebrill 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Ffwl Ebrill a’r Gyhydnos                        TWM ELIAS
Canu Gwerin (4) MEREDYDD EVANS â’r olaf o sgyrsiau difyr, diddorol ac addysgiadol ar ganeuon gwerin.
Williams Pantycelyn DAWI GRIFFITHS â’i sgwrs olaf o gyfres sydd y tro hwn yn sôn am ‘y llenor mwyaf adnabyddus yn hanes ein llên’.
Ganrif union yn ôl TEGWYN JONES yn bwrw trem yn ôl i’r flwyddyn 1909, awr anterth Lloyd George, y ‘Suffragettes’ a ‘Steddfod Llundain.
Adnabod pregethwr HARRI PARRI yn sôn am y ffordd yr adnabyddid pregethwyr anghydffurfiol ers talwm.
Cerddorion Crawshay Cyfarthfa GERAINT JONES 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 30
Mawrth 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Owen Rhoscomyl (3)  
Iwnion Jac y Castell (2)  
Dewi a’r dathlu TWM ELIAS, un o’n cyfranwyr ffyddlon, yn sgwrsio am Fawrth a dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.
Huw Ifans y Maes EMLYN RICHARDS, yr hynaws ŵr o Fôn, yn adrodd hanes un o Lanfair-yng-Nghornwy, yng ngogledd yr Ynys.
Canu Gwerin (3) MEREDYDD EVANS â’r drydedd ran o sgwrs ar ‘y canu caeth newydd’, a’r cynghaneddion sain.
Tair cofeb y Sarnau ELFYN PRITCHARD yn sôn am bentref bach y Sarnau a’r tair cofeb sydd ar furiau’r hen ysgol.
R.S. Hughes y cerddor GERAINT JONES
Arafa Don ARTHUR JONES (Tenor)
 
Utgorn Cymru Rhifyn 29
Chwefror 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Canu Gwerin (2) MEREDYDD EVANS ac ail ran ei gyflwyniad ar rai o’n caneuon gwerin; un ohonynt a gododd ei fam ar ei chlust gan hwsmon o ardal Llanegryn, Meirionnydd.
Iwnion Jac y Castell (1) T. MEIRION HUGHES
Owen Rhoscomyl (2) BOB MORRIS 
Chwefror TWM ELIAS yn son am ‘y mis bach mawr ei anghysuron’, a hen ŵyl eglwysig Mair y Canhwyllau, gŵyl baganaidd y Goleuni, a gŵyl Sant Ffolant.
Vosper, Salem a’r diafol                         DYFED EVANS
Yr Hen Gerddor GERAINT JONES o Gornel y Cerddor, yn sôn am unawd tenor arbennig, ac am yr unawdydd Hugh Evan Roberts, ‘Tenorydd yr Eifl’, un o brif denoriaid Cymru yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.
Eos Morlais YR ATHRO  HYWEL TEIFI EDWARDS yn traethu am y canwr mwyaf poblogaidd a welodd Cymru erioed.
Yr Hen Gerddor TENORYDD YR EIFL
 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 28
Ionawr 2009
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Calan a chalennig TWM ELIAS gyda’i stôr o wybodaeth am ddydd Calan a’r flwyddyn newydd.
Digwyddiadau 1885 TEGWYN JONES 
Owen Rhoscomyl (1) BOB MORRIS 
John Parry, Llanuwchllyn WJ EDWARDS 
Canu Gwerin (1) Dr. MEREDYDD EVANS  â’r gyntaf o gyfres o bedair sgwrs ar ei hoff destun: alawon gwerin Cymru, a eilw ef yn ‘ganeuon Mam’.
Hwch drwy’r siop DAFYDD WHITESIDE THOMAS  yn adrodd hanes diddorol am hen borthmon o Gymro, Elis Jones, a aeth yn fethdalwr.
Y batwn aur GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn adrodd hanes cythryblus batwn aur côr Caernarfon.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 27
Rhagfyr 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Siôn Corn a Niclas Sant  
Niclas y Glais LYN EBENEZER a phortread o’i arwr, y bardd T. E. Nicholas, sef Niclas y Glais.
Ceiriog YR ATHRO HYWEL TEIFI EDWARDS yn traethu’n gynnes huawdl am fardd mawr a phoblogaidd y 19eg ganrif – Ceiriog.
O.M.Edwards ELFYN PRITCHARD un o weithwyr diwylliannol dygn ardal Penllyn, yn sôn am ŵr arall o’r ardal, sef O.M.Edwards, un o bennaf cymwynaswyr Cymru a’r iaith Gymraeg.
Teithiau T.H.Parry-Williams  (3) LLION JONES 
Carolwyr mwyn Mallwyd GERAINT JONES 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 26
Tachwedd 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Yn Uwchaled HARRI PARRI yn adrodd hanes ei hynt a’i helynt pan oedd yn weinidog ifanc ym mro Uwchaled yn nwyrain Meirionnydd.
Chrysanths BERYL GRIFFITHS gyda stori sydd â sylfaen hanesyddol gywir iddi am fywyd caled morynion bach yr oes a fu.
Taith Lenyddol (4) CEN WILLIAMS, y Prifardd o Fôn â’r olaf mewn cyfres o sgyrsiau sydd yn ein tywys i bentref Llanystumdwy yn Eifionydd a’i gymeriadau talentog.
Traed y meirw TWM ELIAS yn sgwrsio am fis Tachwedd â’i ‘ddyddiau duon bach’, Gŵyl Gwynt Traed y Meirw, noson llosgi Guto Ffowc, a thân gwyllt.
Teithiau T.H.Parry-Williams (2) LLION JONES 
Cymysgfa Lenyddol DAWI GRIFFITHS yn ein tywys i gyfnod yn hanes ein llên pryd y cafwyd perlau gan rai fel Philipiaid Ardudwy, Owen Gruffydd o Lanystumdwy, Huw Morris, Eos Ceiriog ac eraill.
Pa le mae’r Amen? GERAINT JONES o Gornel y Cerddor, yn olrhain hanes y gân galon-rwygol ‘Pa Le Mae’r Amen?’  ac Ap Glaslyn, cyfansoddwr yr alaw.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 25
Hydref 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Y flwyddyn 1840 TEGWYN JONES, arbenigwr ar fyd yr hen benillion a’r baledi, ac enw cyfarwydd i’r sawl a gâr ein llên, yn sôn am ddigwyddiadau  blwyddyn gythryblus yng Nghymru a’r byd.
‘Yn genhades i India’ ANGHARAD ROBERTS yn adrodd gair o brofiad.
Teulu Began Ifan DAFYDD WHITESIDE THOMAS yn sôn am rai o’r llysenwau sy’n bodoli yn ardaloedd y chwareli yn Arfon, ac am un arbennig o’r Waun-fawr.
Eisteddfod Fawr Chicago HYWEL TEIFI EDWARDS 
Cwymp y Dail TWM ELIAS gyda sgwrs ddiddorol am gwymp y dail ac arwyddion tymhorol sy’n ymwneud â’r Hydref.
Taith Lenyddol (3) Y PRIFARDD CEN WILLIAMS â’r drydedd ran o daith lenyddol drwy gwmwd Eifionydd sydd yn oedi’r tro hwn yng Nghricieth.
Teithiau T.H.Parry-Williams(1) LLION JONES
Cofio Joan Wyn Hughes GERAINT JONES AC ELFYN PRITCHARD 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 24
Medi 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Cyflafan Fawr Pwllheli 1895  
Taith Lenyddol  (2) Y PRIFARDD CEN WILLIAMS mewn dau gartref ym Mhentre’rfelin yn Eifionydd sydd â chysylltiadau agos â rhyfeddod ein diwylliant: Hendregadredd a Phlas Gwyn.
Y Rhyddieithwyr DAWI GRIFFITHS gyda sgwrs feistrolgar ar gyhoeddi rhyddiaith yn y Gymraeg a phwysigrwydd cyfieithiadau gwŷr enwog fel William Salesbury, yr Esgob William Morgan a John Davies, Mallwyd.
Fisitors Mwyar Duon TWM ELIAS
Eirwyn Pontsiân LYN EBENEZER, gŵr amryddawn, awdur toreithiog, hanesydd, darlledwr a Chymro twymgalon, yn sgwrsio am y cymeriad annwyl a diwylliedig o bentre Pontsiân.
Megan Watts BERYL GRIFFITHS yn ein tywys i ardal fyrlymus Merthyr a Dowlais y 19eg ganrif ac at hanes un o fawrion Gwlad y Gân. I ddilyn, cawn glywed JANE JONES (Llinos y Ceiri) yn canu’r gân feloddramatig ‘ Y Gardotes Fach’ a genid gan Megan Watts a’i thebyg.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 23
Awst 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Gŵyl Awst TWM ELIAS gŵr amryddawn a hyddysg ym maes llên gwerin, yn sgwrsio am draddodiadau gŵyl Awst.
Iwerddon HARRI PARRI gyda sgwrs ddifyr am ei fynych ymweliadau â’r Iwerddon ac abaty Mount Melleray.
Boots a Ffair Wyddau EMLYN RICHARDS,  y pregethwr a’r darlithydd poblogaidd yn sgwrsio’r ddifyr.
Hildegard o Bingen GWENLLÏAN JONES yn adrodd hanes un o’r lleianod mwyaf rhyfeddol a droediodd daear erioed, yr Almaenes, Hildegard o Bingen.
Sgwp DYFED EVANS, a fu am rai blynyddoedd yn brif ohebydd ‘Y Cymro’, yn sôn am y sgwp a gafodd am faen mellt ym Meddgelert yn 1949.
Taith lenyddol (1) Y PRIFARDD CEN WILLIAMS o Fôn yn ein tywys ar daith lenyddol sydd yn cychwyn ym Mhorthmadog – prifddinas cwmwd Eifionydd.
Wil Blac Llanllyfni GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn adrodd stori am offerynnwr cerddorol rhyfeddol o ardal y chwareli a oedd yn chwannog i fynd dros ben llestri a’u malu’n deilchion.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 22
Gorffennaf 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Eisteddfod Abertawe 1863                    HYWEL TEIFI EDWARDS
Gwenllïan, merch y Llyw Olaf              TEGID ROBERTS
Gwilym Cowlyd Y PRIFARDD MYRDDIN AP DAFYDD yn ein tywys i Ddyffryn Conwy, bro ei febyd, i sôn am ŵr y ‘llynnau gwyrddion llonydd’.
Beirdd yr Uchelwyr DAWI GRIFFITHS yn parahau â’i gyfres ar hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda darlun o feirdd yr uchelwyr a’u hoes.
Cadair Dinorwig DAFYDD WHITESIDE THOMAS, hanesydd bro Eryri, yn adrodd hanes Gŵyl Cadair Dinorwig ym mhentref Brynrefail yn 1907.
Crug-y-bar a’r Morlo GERAINT JONES 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 21
Mehefin 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Morrisiaid Llŷn BERYL GRIFFITHS yn sgwrsio am rai o wlad Llŷn a fu’n ymdrechgar ym myd crefydd, diwylliant a diwydiant yr hen Sir Gaernarfon.
Llygaid y gath EMLYN RICHARDS gyda hanes Percy Shaw o Swydd Efrog a’i lygaid cathod.
William Tell GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn adrodd yr hanes tu ôl i’r opera ‘William Tell’ a gyfansoddwyd gan Gioacchino Rossini.
Caradog Prichard (2) J. ELWYN HUGHES
Bagad Gofalon Bugail HARRI PARRI 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 20
Mai 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Caradog Prichard (1)                               J. ELWYN HUGHES
Mary Slessor GWENLLÏAN JONES yn adrodd hanes Mary Slessor o’r Alban a fu’n genhades yn Affrica.
Helyntion Eglwys Llannor J. DILWYN WILLIAMS 
Barddoniaeth Enwau Lleoedd MYRDDIN AP DAFYDD 
Wil Lleidr Llongau DAFYDD WHITESIDE THOMAS yn adrodd un o’i stôr o hanesion gwaedlyd am droseddau a throseddwyr o bob math.
Cantorion Corn Gwddw GERAINT JONES
 
Utgorn Cymru Rhifyn 19
Ebrill 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Meddygon y Ddafad Wyllt HARRI PARRI
Anti Cadi AELWEN ROBERTS yn sgwrsio am un a gafodd ddylanwad pwysig ac arhosol arni.
Elizabeth Watkin Jones TEGID ROBERTS
Arwyr EMLYN RICHARDS yn sgwrsio am ei arwyr – ‘y rhai sy’n gwneud y gorau o’r gwaethaf’.
Dafydd ap Gwilym DAWI GRIFFITHS â rhan arall o’r gyfres ar hanes ein llenyddiaeth sy’n ein tywys at fywyd a gwaith un a gyfrifir gan lawer yn un o’n beirdd gorau.
Chwibannu (2) GERAINT JONES gydag ail ran o’i sgwrs o Gornel y Cerddor ar y grefft o chwibannu.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 18
Mawrth 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Dafydd Parry Ocsiwnïar (2) MEIRION LLOYD DAVIES 
Rhamant y Rhyfel Cartref (2) TEGID ROBERTS 
Buddug, Brenhines y Brythoniaid GWENLLIAN JONES 
Isaac Morris, Pentyrch DYFED EVANS
Y ras o Peking i Paris (2) DAFYDD WHITESIDE THOMAS
Chwibannu (1) GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, â’r gyntaf o ddwy sgwrs yn ymdrin â’r grefft o chwibannu.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 17
Chwefror 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Dafydd Parry Ocsiwnïar (1) MEIRION LLOYD DAVIES
Y ras o Peking i Paris (1) DAFYDD WHITESIDE THOMAS
Penillion y Canu Penillion MYRDDIN AP DAFYDD
Hen Benillion o Ddyffryn Banw ALUN JONES 
Rhamant y Rhyfel Cartref (1) TEGID ROBERTS 
Iodlio Gwlad y Cowboi GERAINT JONES 
Hon yw fy Olwen i WILLIAM EDWARDS, Rhydymain, un o gewri canu penillion yn canu un o oreuon caneuon serch Cymru.
 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 16
Ionawr 2008
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Bardd yr Haf yn Nyffryn Ogwen  IEUAN WYN
Hanes Stâd Broom Hall (3)  J. DILWYN WILLIAMS
Iodlio GERAINT JONES o Gornel y Cerddor yn ein tywys i’r Swisdir ar drywydd rhywogaeth gerddorol ryfeddol yr iodlwr.
Planhigion Meddyginiaethol  ANNE ELIZABETH WILLIAMS
Siopau Tal-y-sarn AELWYN ROBERTS â sgwrs am gownteri siopau pentref bach yn Arfon ryw hanner canrif yn ol.
Addysg yr oes mewn ysgol a chapel   BOB OWEN, CROESOR
 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 15
Rhagfyr 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Tanchwa Pensylfania 1907 BERYL GRIFFITHS 
Owen Llan’iolen-Postmon y Beirdd DAFYDD WHITESIDE THOMAS 
Tachwedd/Rhagfyr 1957 GWENLLIAN JONES
Hanes Stad Broom Hall (2) J. DILWYN WILLIAMS
Clywch Lu’r Nef BAND TORERO â charol adnabyddus mewn arddull anrhaddodiadol.
Cyllell Williams Pantycelyn                  HARRI PARRI
Pererin Wyf IRIS WILIAMS yn canu un o emynau’r Perganiedydd.
Pen Draw’r Byd EMLYN RICHARDS yn sgwrsio am ardal sydd, iddo ef, ym mhen draw’r byd.
Carol enwoca’r byd GERAINT JONES  o Gornel y Cerddor yn adrodd hanes carol arbennig a gyfansoddwyd yn 1818 ac a ddaeth yn fyd enwog.
Dawel Nos JAC a WIL, y ddeuawd enwog o Gefneithin, Sir Gerfyrddin, yn canu’r garol y sonia Geraint amdani.
Trwy rinwedd dadleuaeth                   DIANE JONES             

(EBEN FARDD)                   

 
 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 14
Tachwedd 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Hanes Stad Broom Hall (1)

Dafydd y Garreg Wen

 J. DILWYN WILLIAMS

LEILA MEGANE

Tachwedd/Rhagfyr 1907 GWENLLIAN JONES
Ffynnon Ddisglair (Prysgol) DAFYDD WHITESIDE THOMAS 
Y dôn Prysgol CÔR TELYN TEILO yn canu emyn Ann Griffiths ar y dôn ‘Prysgol’ a gyfansoddwyd gan William Owen.
Sgwrsio EMLYN RICHARDS y sgwrsiwr difyr yn sgwrsio mewn modd sgwrslyd ar y testun ‘Sgwrsio’.
Y Mabinogi DAWI GRIFFITHS â hanes chwedlau sy’n rhan allweddol bwysig o’n llenyddiaeth a’n treftadaeth.
Lle treigla’r Caveri GERAINT JONES o Gornel y Cerddor â hanes un o ddeuawdau mwyaf poblogaidd y llwyfan Cymreig.
Lle treigla’r Caveri (deuawd) ELWYN AC ARTHUR JONES 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 13
Hydref 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Helynt yr Alawon Cymreig DAFYDD WHITESIDE THOMAS 
Titrwm-tatrwm CÔR GLANNAU ERCH ar yr unig gopi y tybir sydd ar gael o’r record gorawl Gymraeg  y soniwyd amdani yn rhifyn Gorffennaf o’r Utgorn.
Medi/Hydref 1957 GWENLLÏAN JONES â rhagor o hanesion o’r papurau newydd, y tro hwn yn y flwyddyn 1957.
Morgan Griffith, Penmownt (2) MEIRION LLOYD DAVIES 
Yr Hengerdd (2) DAWI GRIFFITHS gyda sgwrs addysgiadol arall ar hanes ein llenyddiaeth ysblenydd a’r englynion cynnar tair llinell.
Y Dref Wen TECWYN IFAN
Tyddynwyr Arfon (2) TEGID ROBERTS 
Canmlwyddiant y dôn Cwm Rhondda GERAINT JONES 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 12
Medi 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Baner Bethel DYFED EVANS  yn sôn am un o ‘flaenoriaid y môr’, sef Capten Hughes, Gellidara, yn Llŷn, ac am faner a fyddai’n cyfleu neges arbennig i forwyr Cymraeg.
Morgan Griffith, Penmount (1) MEIRION LLOYD DAVIES
Cyffro yn Eifionydd DEWI WILLIAMS, athro hanes sydd wedi ymddeol, gyda stori am gyffro mawr a fu yng nghwmwd Eifionydd flynyddoedd yn ôl.
Yr Hengerdd (1) DAWI GRIFFITHS, un o olygyddion Utgorn Cymru, gyda’r gyntaf mewn cyfres ar hanes cynharaf llenyddiaeth Cymru.
Tyddynwyr Arfon (1) TEGID ROBERTS 
Medi/Hydref 1907 GWENLLÏAN JONES yn sgwrsio am rai o hanesion y papurau newydd yn y flwyddyn 1907.
Cadair Ddu Hedd Wyn 1917 GERAINT JONES 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 11
Awst 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Potsiars EMLYN RICHARDS yn ein tywys i fyd rhwyd a thryfer a chriw anfarwol y tywyllwch ym Môn.
William Meirion Evans (2) MARIAN ELIAS ROBERTS 
John Jones, Tal-y-sarn, y cerddor. GERAINT JONES
Enwau bro Y PRIFARDD IEUAN WYN, o Fethesda yn Arfon, yn ein hannog i warchod yr enwau persain, cyfoethog eu hystyron, sydd gennym ar rannau gwahanol o’n tirwedd.
Ynysoedd Aran 1977 BERYL GRIFFITHS 
Y crymanwr lloerig DAFYDD WHITESIDE THOMAS gyda hanes arall am anfadwaith ym mro’r llechen las yn y 19eg ganrif.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 10
Gorffennaf 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Modryb Mary a f’ewyrth Rhobat HARRI PARRI (dwy sgwrs fer) 
Gorffennaf/Awst 1907 GWENLLIAN JONES 
Gwilym Hiraethog DAWI GRIFFITHS yn adrodd hanes gŵr dawnus ac un o arwyr mwyaf y Gymru radicalaidd ganrif a hanner yn ôl.
Bob Owen, Croesor (6) DYFED EVANS 
William Meirion Evans (1) MARIAN ELIAS ROBERTS 
F’ewyrth Griffith a’r record golledig GERAINT JONES 
Rhieingerdd : John Morris-Jones CÔR GLANNAU ERCH 
 
Utgorn Cymru Rhifyn 9
Mehefin 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Cyflwyno GWYN ERFYL a’r Dr. R. TUDUR JONES, dau o brif gymwynaswyr ein cenedl, a rhan o’u sgwrs a gymerodd le rhyw ddwy flynedd ar hugain yn ôl, ac sydd yn cynnwys sylwadau praff a ddi-flewyn-ar-dafod ar y grefft o gyflwyno ym myd y llwyfan, y sgrin, a’r pulpud yng Nghymru.
Rhyd-ddu a’i ŵr enwog ROL WILLIAMS 
Gwenwyno DAFYDD WHITESIDE THOMAS gyda hanes gwaedlyd am anfadwaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
‘Pobl Od’ EMLYN RICHARDS
‘Mai/Mehefin 1957’ GWENLLIAN JONES
‘Ira D. Sankey’ GERAINT JONES
Tyn am y lan, forwr CÔR LLITHFAEN ET ALIA
 
Utgorn Cymru Rhifyn 8
Mai 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Bob Owen, Croesor (5) DYFED EVANS 
Mai/Mehefin 2007 GWENLLÏAN JONES sydd yn rhoi inni fraslun arall o’r hyn a fu yng Nghymru a thu hwnt ganrif yn ôl.
Eleazer Roberts a Mr Moody GERAINT JONES
Mr Moody, y fam a’r plentyn GERAINT JONES yn adrodd y gerdd 
Giangstars Llundain MORGAN, ein cyflwynydd, yn sôn am rai o giangstars dychrynllyd Llundain, rhai fel Ronald a Reginald Kray, y brodyr Richardson a llawer o ddihirod eraill.
Ffrae Wyddelig Farwol DAFYDD WHITESIDE THOMAS 
Owain Glyndwr DAWI GRIFFITH â sgwrs arall o’i gyfres addysgiadol a difyr ar ein gwladgarwyr enwog.
Galwad y Tywysog DAFYDD EDWARDS, y tenor o Fethania, yng Ngheredigion.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 7
Ebrill 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Diferion oddi ar y fargod EMLYN RICHARDS 
Mawrth/Ebrill 1957 GWENLLÏAN JONES yn ein tywys yn ôl at digwyddiadau misoedd Mawrth ac Ebrill 1957 yn y papurau newydd.
Diddymu’r Fasnach Gaethweision 1807 MORGAN JONES 
Arwerthiant y Caethwas GERAINT JONES yn adrodd cerdd enwog Gwilym Hiraethog 
Modryb Mary, Tyddyn Talgoch  HARRI PARRI
Damwain Trên Abergele GWILYM JONES 
Brad Dynrafon GERAINT JONES o Gornel y Cerddor gyda hanes morladron, llongddrylliwyr ac ysbeilwyr di-drugaredd.
Brad Dynrafon RICHARD REES y baswr yn canu’r unawd ‘Brad Dynrafon’ –  geiriau Watcyn Wyn a cherddoriaeth D.Pugh Evans.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 6
Mawrth 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Hen Gerddorion y Batus (2) GERAINT JONES
Ceridwen Peris BERYL GRIFFITHS yn sgwrsio am ‘ferch gyffredin anghyffredin’, y wraig ddiwyd a oedd yn awdures ac yn olygydd ‘Y Gymraes’.
D.J.Williams, Abergwaun DAWI GRIFFITHS 
Y wên na phyla amser DAFYDD IWAN 
Bob Owen, Croesor (4) DYFED EVANS
Mawrth/Ebrill 1907 GWENLLIAN JONES, wedi pori yn y papurau newydd a bwrw’i llinyn mesur dros eu cynnwys,yn adrodd peth o hanes Cymru a’r byd ganrif union yn ôl.
Taid Ynysfor HARRI PARRI gyda rhagor o’i bortreadau difyr o rai cymeriadau teuluol.
Padrig Sant MORGAN, cyflwynydd Utgorn Cymru, yn olrhain peth o hanes nawddsant Iwerddon.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 5
Chwefror 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Bob Owen, Croesor (3) DYFED EVANS 
Ionawr/Chwefror 1957 GWENLLIAN JONES 
Caradog Prichard JOHN ELWYN HUGHES, pennaf hanesydd Dyffryn Ogwen, yn sôn am y prifardd a’r nofelydd athrylithgar hwnnw o Fethesda.
Yr anfarwol dân yn Llŷn'(4) MORGAN JONES 
Llên Gwerin y Coed ANN ELIZABETH WILLIAMS yn sgwrsio’n ddifyr ac addysgiadol ar briodolaethau meddyginiaethol sydd yn perthyn i goed.
Hen Bethau Anghofiedig EMLYN RICHARDS 
Hen Gerddorion y Batus (1)

 

GERAINT JONES 
O fy Iesu bendigedig ELWYN JONES 
   
Utgorn Cymru Rhifyn 4
Ionawr 2007
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Yr Athro W.J.Gruffydd BERYL GRIFFITHS 
F’ewyrth William a’r brain HARRI PARRI 
Yr anfarwol dân yn Llŷn (3) MORGAN JONES 
John Puleston Jones EMLYN RICHARDS, un arall o feibion Llŷn, yn sôn am un o gewri’r pulpud Methodistaidd.
Ionawr/Chwefror 1907                           GWENLLIAN JONES
Carolau Plygain (2) GERAINT JONES o Gornel y Cerddor â’r ail ran o hanes ein carolau traddiodiadol, cyfoethog eu diwinyddiaeth.
 
Utgorn Cymru Rhifyn 3
Rhagfyr 2006
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Gruffydd ap Cynan DAWI GRIFFITHS ag un arall yn ei gyfres o sgyrsiau yn adrodd hanes gwŷr enwog ein gwlad.
Digwyddiadau 1906 GWENLLIAN JONES
Yr anfarwol dân yn Llŷn (2) MORGAN JONES 
Bob Owen, Croesor (2) DYFED EVANS 
Cymraes yn Chicago MARIAN ELIAS ROBERTS 
Carolau Plygain (1) GERAINT JONES o Gornel y Cerddor yn adrodd hanes y Nadolig traddodiadol Cymreig a’r hen garolau plygain.
Wele’n Gwawrio Ddydd i’w Gofio  
 
Utgorn Cymru Rhifyn 2
Tachwedd 2006
 
Cyflwynydd: Morgan Jones
Dafydd y Garreg Wen  GERAINT JONES
Cân Dafydd y Garreg Wen
Eglwys Llandegwning Yr hanesydd J. DILWYN WILLIAMS  yn edrych yn ôl ar gyfnodau arbennig yn hanes yr eglwys hon.
Llwybrau EMLYN RICHARDS, gŵr a fu’n hynod gefnogol i fenter Uwchgwyrfai o’r dechrau,yn sgwrsio am hen lwybrau.
  Ffordd Newydd                               MARIAN ELIAS ROBERTS yn darllen cerdd  i’r ffordd newydd trwy Glynnog ar adeg wahanol yn ei hanes – gan Eben Fardd 
Yr anfarwol dân yn Llŷn (1) MORGAN JONES  yn ein goleuo ar yr hanes hynod hwn.
Penyberth CÔR PENYBERTH
Digwyddiadau 1956 GWENLLIAN JONES yn codi cwr y llen.
Planhigion Meddyginiaethol ANNE ELIZABETH WILLIAMS yn parhau â’i hoff bwnc.
Y Border Bach  
 
Utgorn Cymru Rhifyn 1
Hydref 2006
Gwŷr Harlech Seindorf Trefor 1997
Bob Owen, Croesor (1) Y Newyddiadurwr dihafal DYFED EVANS yn portreadu cymeriad poblogaidd, lliwgar a feddai ar gof eithriadol.
Geifr Bodlas BERYL GRIFFITHS yn ein tywys i hen wlad Llŷn, i fyd amaeth a chwmni geifr ‘Bodlas’.
Cyfri’r Geifr MEREDYDD EVANS
Daeargryn San Ffransisco (1906) MORGAN JONES
Emrys ap Iwan DAWI GRIFFITHS, yn y gyntaf o gyfres ar hanes rhai o wladgarwyr pwysicaf a dylanwadol Cymru.
Digwyddiadau 1906  GWENLLIAN JONES yn pori yn Yr Herald Cymraeg ac yn llwyddo i ddod o hyd i ddigwyddiadau difyr.
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai  DIANE JONES, y Rheolwraig, yn egluro’r cefndir ac yn cyflwyno ein dyheadau.
‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn 150 oed  GERAINT JONES