Ar Wib trwy hanes Cymru

Tyrrodd dros gant o gynulleidfa frwd i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, ddydd Sadwrn, 19 Hydref 2013 pan dreuliwyd y bore a’r prynhawn, bron i saith awr yn wir, mewn digwyddiad cwbl unigryw yn gwrando ar ddeuddeg siaradwr brwd yn adrodd Stori Cymru o’r dechreuad hyd at y cyfnod presennol. 

  • Cyfyngwyd y sgyrsiau i ugain munud yr un a’r nod oedd agor cwr y llen ar hanes Cymru y’n hamddifadwyd ni oll rhag dysgu amdano yn yr ysgolion.Mae hyd yn oed Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli o’r diwedd fod ein plant ysgol yn haeddu gwell a’u bod, y dyddiau hyn,yn ymwrthod â’r pwnc gan fod y nifer sy’n ei astudio fel rhan o’r “Cwricwlwm Hanes Cenedlaethol” yn gostwng bob blwyddyn, ac er bod rhannau ohono ar y Cwricwlwm, hanes ein gwlad o safbwynt Lloegr yw’r canllawiau hynny ac mae cymaint o ddewisiadau fel y bo’n bosibl i ysgolion ei anwybyddu yn llwyr.  
  • Pwysleisiwyd drachefn a thrachefn nad atodiad i hanes Lloegr yw hanes Cymru, ond hanes pobl a thir sydd â’r hawl i fod yn sofran ar eu tomen eu hunain. 

Y siaradwyr oedd:  Yn eistedd: (o’r chwith):  Dewi Williams, Rhys ap Rhisiart, Geraint Jones (Llywydd), Ieuan Wyn, Alwyn Pritchard, Dawi Griffiths;  Yn sefyll (o’r chwith): Gareth Haulfryn Williams, Dr John Glyn, J. Dilwyn Williams, Howard Huws, Elfed Roberts, Dr. Gwawr Jones, Dafydd Glyn Jones.

CRYNODEB O’R SGYRSIAU:

STORI CYMRU

Ar Wib trwy wir hanes ein gwlad

Ein hen hen hanes hyd 383 OC 

Elfed Roberts

Pa mor bell yn ôl i lawr yr oesoedd y gallwn ni fynd yn ein hanes a gallu dweud i sicrwydd mai ni oedd yno ar unrhyw bwynt yn y llinell amser?

Oes modd dweud?

Wrth olrhain ein hanes drwy’r milenia maith, fe welwn fod yna, yn y cyfnod cyn-hanes, yng nghydblethiad pobloedd yr Oes Gerrig Ganol ac Oes Newydd y Cerrig, ryw awgrym o’r dechreuad. Gwelwn fod rhai o’r nodweddion a berthynai iddyn nhw, o dipyn i beth, yn cydgrynhoi ac yn ymblethu ac yn ymdebygu wrth iddyn nhw gyd-fyw’n hir yn yr un diriogaeth gan rannu arferion ac ieithoedd.

A’r bobloedd hynny, ymhen amser, a ymffurfiodd yn llwythau, y llwythau Brythonig hynny a wynebodd holl rym yr Ymerodraeth Rufeinig. O rai o’r llwythau hynny, a thrwy gydymdreiddiad tir ac iaith, y ganwyd ein cenedl ni.

 

383-700   O Facsen i Gadwaladr

Dafydd Glyn Jones

‘Oesoedd Tywyll’ ein hanes.  Eto mae ambell amlinell yn eglur ddigon. Macsen Wledig neu beidio, mae llengoedd Rhufain yn ymadael ychydig cyn troad y 5ed ganrif, gan adael y Brytaniaid lled-Rufeinedig, lled-Gristionedig i geisio ymdopi drostynt eu hunain. Yr hyn a wnaethant ohoni yw ein stori.

Ar ddechrau ein cyfnod maent yn trigiannu ar draws gorllewin Prydain, o’r Hen Ogledd  hyd Gernyw. Erbyn diwedd ein cyfnod, Cymru yw eu gwlad, a’i therfynau fwy neu lai fel yr ydym ni’n eu hadnabod. Mae Cadwaladr Fendigaid yn derbyn hynny.  Oddeutu hanner  ffordd drwy’r  cyfnod, dyweder canol y 6ed ganrif, fe gwblheir proses o newid naturiol ar y Frythoneg Ladinedig nes rhoi inni iaith newydd ei gwedd. Cymraeg.

Yr oedd ynddi lenyddiaeth bron o’r cychwyn. Trwy lafur ac ymroddiad dwy neu dair cenhedlaeth o bobl dduwiol,y Saint fel yr ydym yn eu galw, fe wreiddiodd Cristnogaeth yn gryf, a daeth Cymru’n wlad y llannau.

Un o’r Saint hyn, Gildas, yw hanesydd cyntaf y Cymry (er na byddai ef yn eu galw’n hynny), ac fe roes gychwyn i’r stori amdanynt yn colli eu gwlad, Ynys Brydain, oherwydd eu pechodau. Yma, yn ôl traddodiad, y digwydd trychineb sylfaenol ein hanes, camgymeriad  neu ‘frad’ Gwrtheyrn. Cafwyd llwyddiannau hefyd, dan arweiniad Emrys Wledig, ac wedyn yr Arthur na wyddom ond y nesaf peth i ddim amdano gydag unrhyw sicrwydd, ond a  dyfodd yn arwr chwedl gydwladol anferth. Llwyddiant nodedig iawn arall, er y byddai’n dda gwybod llawer mwy amdano: gwladychiad Cunedda Wledig a’i ‘feibion’. Mewn cerdd o tua’r 630au, wele inni’r gair ‘Cymry’. Tua chanol y 5ed ganrif efallai, dyma arysgrifau Lladin Penmachno, ‘y gwir arysgrifau Rhufeinig olaf yn y byd’ fel y dywedodd rhywun; un ohonynt yn coffáu ‘dinesydd o Wynedd’. A thua’r flwyddyn 700, ar faen yn Nhywyn, Meirion, dyma’r Cymraeg ysgrifenedig cyntaf.

 

700 – 950 : Wynebu ‘gwynt milain y Sais’

Y  Paganiaid Duon –  ac Oes Aur Cyfraith Hywel

Dawi Griffiths

Roedd y teyrnasoedd Cymreig yn wynebu bygythiad sylweddol o du teyrnas Seisnig Mersia am ran helaeth o’r wythfed ganrif, gyda Phowys yn brwydro’n galed i ddal y llif enbyd yn ôl. Eto cafodd Powys arweinwyr cadarn fel Cyngen yn ystod y cyfnod hwn i amddiffyn y dreftadaeth.  I’r cyfnod yma y perthyn y cylchoedd o englynion a elwir ‘Y Canu Englynol’,  gyda Llywarch Hen yn hiraethu ar ôl ei feibion a llosgi llys Pengwern ac anrheithio’r Dref Wen ymysg pethau eraill.

Er gwaethaf helbulon yr oes parhâi’r mynachlogydd a’r clasau Cymreig – fel Llanilltud Fawr, Llancarfan a Llanbadarn Fawr – yn ganolfannau dysg lle cynhyrchid llawysgrifau hynod gain. Roedd crefftwyr Cymreig hefyd  yn cynhyrchu gwaith metel o safon uchel.

Yn 818 daeth Merfyn Frych yn frenin Môn gan ddod yn arweinydd Gwynedd gyfan yn fuan. Yn ystod ei deyrnasiad dwysaodd ymosodiadau’r Llychlynwyr ar Gymru, yn ogystal â’r bygythiad cyson o du teyrnas Mersia.  Llwyddodd ei fab, Rhodri Mawr, i uno teyrnasoedd Gwynedd a Phowys ac, yn ddiweddarach, ymestynnodd ei awdurdod dros Geredigion ac Ystrad Tywi.  Roedd bri ar ddysg a diwylliant yn llys Merfyn Frych a Rhodri a dyma pryd mae’n debyg y dechreuwyd croniclo hanes y Cymry a chyfnod ysgrifennu’r ‘Historia Brittonum’ a briodolir i Nennius.

Yn dilyn marwolaeth Rhodri mewn brwydr yn erbyn y Saeson yn 877 cafwyd cyfnod eithriadol o gythryblus yn niwedd y nawfed ganrif gyda chyrchoedd enbyd gan y Daniaid yn arbennig.  Ond daeth cyfnod mwy sefydlog gyda theyrnasiad Idwal yng Ngwynedd yn hanner cyntaf y ddegfed ganrif  ac, yn arbennig, ei gefnder, Hywel ap Cadell – Hywel Dda – yn y Deheubarth. Yn ystod ei deyrnasiad hir galwodd Hywel gynulliad yn ei lys yn Hendy-gwyn ar Daf i roi trefn ac undod i gyfreithiau Cymru.

 

950-1137: O Ansefydlogrwydd dybryd at rym Gruffudd ap Cynan

Rhys ap Rhisiart

Wedi 950 arweiniodd y methiant i barhau undod a heddwch blynyddoedd olaf teyrnasiad Hywel Dda at ymron ganrif o ymryson diffrwyth yn yr ymdrech i greu rhyw fath o wladwriaeth Gymreig. Roedd y teyrnasoedd Cymreig mewn ymrafaelion cyson â’i gilydd ac, o ganlyniad, rhanedig fu ein hymdrechion yn wyneb bygythiadau o’r dwyrain (Lloegr)  a thros y môr (y Llychlynwyr).

Gydol ein cyfnod cofnoda’r Brut enghreifftiau cignoeth o gamwri a dialedd rhwng tylwyth a theyrnas, ynghyd ag erchyllterau o arteithio a difetha.

Y duedd mewn gwersi hanes fu clodfori campau Llywelyn ap Gruffydd, Gruffudd ap Cynan, Rhys ap Tewdwr a Gruffydd ap Rhys. Ni roddwyd sylw i eraill, ond y gwir yw y bu rhyfelwyr grymus, galluog, llai enwog a lwyddodd i reoli mewn awyrgylch wleidyddol dreisgar, gan ddangos medrusrwydd, doethineb a threiddgarwch mewn materion gwladol, a llwyddo i noddi diwylliant, celfyddyd a chrefydd yn yr amseroedd anodd hyn. Bydd cyfle i dynnu rhai o’r cysgodion: Meibion Idwal Foel, Maredudd ab Owain, Llywelyn ap Seisyllt, ac yn y blaen.

Yr unfed ganrif ar ddeg yw un o gyfnodau mwyaf cymhleth hanes Cymru. Dyrchafwyd brenhinoedd newydd gan ddarostwng grym hil Merfyn Frych. Yna, unwyd yr holl wlad, o fôr i fôr, dan Gruffudd ap Llywelyn ap Seisyllt, a gyhoeddwyd yn frenin dros Gymru oll yn 1056. Bu’n teyrnasu’n llwyddiannus dros ei deyrnas helaeth am rai blynyddoedd nes ei ladd yn 1063 gan y Saeson wedi iddo gael ei fradychu i’w dwylo.

Ymdreiddiodd trachwant di-dostur a digyfaddawd y Normaniaid yn donnau mileinig dros ein gwlad wedi iddynt ddod i rym yn Lloegr yn 1066.Gyda dyfodiad Arglwyddi Normanaidd y Mers yn y 1070au ddaeth yn gyfyng ar y Cymry.

Ganwyd Gruffudd ap Cynan yn 1055 yn Nulyn, ond fe’i magwyd yn ymwybodol o’i etifeddiaeth yng Nghymu. Daeth gyda byddin i’r parthau hyn yn 1075 ond fe’i trechwyd gan Drahaearn ap Caradog ym mrwydr Bron yr Erw. Cafodd fuddugoliaeth yn 1081 mewn cynghrair â Rhys ap Tewdwr ym mrwydr Mynydd Carn. Sicrhaodd y frwydr hon olyniaeth llywodraeth hil Gruffudd ap Cynan a Rhys ap Tewdwr yng Nghymru o hyn ymlaen. Wedi cyfnod o frwydro yn erbyn y Norman, sicrhaodd Gruffudd ap Cynan ei deyrnas yng Ngwynedd, a bu heddwch am ymron 40 o flynyddoedd. Dyma gyfnod cofnodi’r Mabinogi, cyfnod plannu coedwigoedd a gerddi, cyfnod codi eglwysi mawrion yn y prif lysoedd ‘nes bod Gwynedd yn disgleirio ag eglwysi gwyngalchog megis y ffurfafen a’r sêr’. Bu farw Gruffudd ap Cynan yn 1137.

 

1137-1318 : Oes Owain Gwynedd, Yr Arglwydd Rhys a’r ddau Lywelyn

Ieuan Wyn

Olynwyd Gruffudd ap Cynan yn 1137 gan Owain, yr hynaf o’i feibion adeg ei farw, gan etifeddu teyrnas Gwynedd.

Meddiannodd Geredigion a chreu cynghrair efo Deheubarth, ac adennill Iâl a Thegeingl yn y gogledd-ddwyrain gyda chymorth Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys) fel bod Gwynedd yn un o Ddyfi i Ddyfrdwy. Methiant fu ymdrech Harri II i oresgyn Cymru yn 1165, gydag Owain erbyn hynny yn arweinydd Pura Walia – y Gymru Gymreig – yn erbyn gormes coron Loegr yng Nghymru. Defnyddiai Owain y teitl ‘Brenin Cymru’, ‘Tywysog Cymru’ a ‘Tywysog y Cymry’.

Daeth Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys) yn Dywysog Deheubarth yn 1155. Roedd Henry II, brenin Lloegr, yn dwyn pwysau ar y Cymry ac yn hawlio gwrogaeth ganddynt. Gwnaeth Rhys gynghrair ag Owain Gwynedd, ac yn dilyn methiant Henry II ar lethrau’r Berwyn yn 1165, cymerodd Rhys weddill ei diroedd ein hun yn ôl i’w feddiant.

Bu’n gefnogwr hael i Urdd y Sistersiaid a llywyddodd dros gynulliad o feirdd a chantorion yn Aberteifi yn 1176. Yn dilyn marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, Rhys oedd yr arweinydd grymusaf ymhlith y Cymry hyd ei farw yntau yn 1197. ‘Tywysog Deheubarth’ oedd ei deitl arferol ond mae dwy ddogfen o’i eiddo sy’n dwyn y teitl ‘Tywysog Cymru’ a ‘Thywysog y Cymry’.

Yng Ngwynedd, pan fu farw Owain Gwynedd yn 1170, rhannwyd y deyrnas rhwng dau fab iddo, Dafydd a Rhodri ond, erbyn 1200, roedd Llywelyn ap Iorwerth, nai iddynt, wedi cipio’r awenau a dod yn ‘Dywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri’. Yn ystod ei deyrnasiad llwyddodd Llywelyn Fawr i dderbyn gwrogaeth tywysogion Powys a Deheubarth, gan weithredu fel Tywysog Cymru er na ddefnyddiodd y teitl. Roedd cynulliad y tywysogion yn Aberdyfi yn 1215 yn ddatblygiad pwysig yn hanes Cymru. Bu Llywelyn yn gynheiliad hael i’r beirdd ac i’r llannau a’r Urddau Mynachaidd. Pan fu farw yn 1240, roedd wedi teyrnasu am 40 mlynedd, a daeth Dafydd, ei fab o’i briodas â Siwan, i ’w olynu hyd at ei farw yntau yn 1246.

Bu farw Gruffudd, mab arall Llywelyn Fawr, yn 1244  wrth geisio dianc o’r Twr Gwyn yn Llundain, ac yn dilyn Brwydr Bryn Derwin rhwng ei feibion yn 1255, daeth Llywelyn ap Gruffudd yn llywodraethwr Gwynedd Uwch Conwy. Ymhen blwyddyn roedd yn rheoli Gwynedd i gyd ac erbyn 1258 roedd yn defnyddio’r teitl Tywysog Cymru. Yng Nghytundeb Trefaldwyn yn 1267, cydnabu Harri III, brenin Lloegr, a’r Pab hawl Llywelyn ap Gruffudd i’w alw ei hun yn Dywysog Cymru. Yn ystod y rhyfel olaf rhwng Cymru a Lloegr, lladdwyd Llywelyn trwy frad ger Cilmeri ym Mhowys ar 11 Rhagfyr, 1282, y diwrnod mwyaf tyngedfennol yn hanes Cymru.

Daeth ei frawd, Dafydd ap Gruffudd, i barhau’r gwrthsafiad ond fe’i dienyddiwyd yn 1283. Dinistriwyd y llysoedd Cymreig ac ymhen blwyddyn cafwyd Statud Rhuddlan i gadarnhau’r goresgyniad ac ad-drefnu bywyd Cymru.

Disodlwyd Cyfraith Hywel gan y Gyfraith Seisnig, a’r cymydau, y cantrefi, y llysoedd a’r maerdrefi gan drefn  lywodraethol Seisnig. Cychwynnodd Edward I ar y gorchwyl o godi cestyll cadarn i warchod yr hyn yr oedd wedi ei feddiannu trwy goncwest.

Yn ystod y blynyddoedd dilynol cafwyd tri gwrthryfel o bwys. Y cyntaf oedd yn Neheubarth yn 1287 dan arweiniad Rhys ap Maredudd, gor-wyr i’r Arglwydd Rhys. Yng Ngwynedd yn 1294 y cododd yr ail wrthryfel, o dan arweiniad Madog ap Llywelyn, gwr o dras Owain Gwynedd a allai hawlio’r teitl ‘Tywysog Cymru’, ac ymledodd i’r de dan arweiniad Cynan ap Meredudd, Maelgwn ap Rhys a Morgan ap Meredudd. Llywelyn ap Gruffudd ap Rhys (Llywelyn Bren) oedd arweinydd y trydydd gwrthryfel, a barhaodd o 1316 tan 1318.

 

1318-1536 :  Cyni economaidd, Gwrthryfel Glyndwr a’r Deddfau Uno

Howard Huws

Drwy’r bedwaredd ganrif ar ddeg roedd Cymru’n glytwaith o wahanol arglwyddiaethau ac roedd gwreng a bonedd fel ei gilydd yn gorfod ymgodymu â threfn a chyfraith estronol a dirywiad economaidd a ddwysaodd wrth i’r ganrif fynd yn ei blaen.  Hefyd ymwelodd Y Pla Du â Chymru am y tro cyntaf rhwng 1349 a 1352 gan achosi dioddefaint dychrynllyd.

Gwelwyd anniddigrwydd cynyddol ymysg yr uchelwyr Cymreig ac yn 1372 cyhoeddodd Owain Lawgoch, a oedd o linach Llywelyn ap Gruffudd, ei hun yn Dywysog Cymru. Roedd coron Lloegr yn ei ystyried yn gymaint o fygythiad nes iddi gyflogi ysbïwr i’w lofruddio yn Ffrainc.

Dechreuodd gwrthryfel Owain Glyndwr yn 1400 ac am rai blynyddoedd cafodd lwyddiannau rhyfeddol, gan gipio’r mwyafrif o’r cestyll Seisnig a sefydlu ei awdurdod dros Gymru gyfan i bob pwrpas. Roedd yn wr gyda gweledigaeth gadarn am Gymru unedig, addysgedig a chyfiawn a fyddai’n gweithredu fel gwladwriaeth sofran ymysg gwledydd Ewrop.

Yn dilyn trechu gwrthryfel Glyndwr bu cyfnod o wasgu enbyd ar y Cymry a chafodd y wlad hefyd ei sugno i mewn i Ryfel y Rhosynnau, a rwygodd Loegr am dalp helaeth o’r bymthegfed ganrif, wrth i rai o’r uchelwyr Cymreig ochri naill ai gyda phlaid Lancaster neu Iorc.

Daeth Harri Tudur i orsedd Lloegr fel Harri’r VII yn 1485, ond ei fab ef, Harri’r VIII a fynnodd dynnu pob arlliw o sofraniaeth oddi ar Gymru drwy’r Deddfau Uno a basiwyd yn 1536 a 1542 ac a ymgorfforodd Gymru yn rhan o deyrnas Lloegr.

1317                      Cymru’n glytwaith o ddegau o wahanol arglwyddiaethau.

1317-1340au       Dod i arfer â’r drefn newydd.

1340au                Anniddigrwydd ymysg yr uchelwyr Cymreig.

1349-1352           Y Pla’n taro Cymru am y tro cyntaf.

1352-1400          Dirywiad economaidd, ac anniddigrwydd cynyddol.

1372                     Owain Lawgoch yn ei gyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru.

1378                     Llofruddio Owain Lawgoch.

1400                    Dechrau gwrthryfel Glyndwr.

1401-1402          Deddfu yn erbyn y Cymry.

1426                    Diwedd y gwrthryfel, a’i ganlyniadau.

1455                    Brwydr gyntaf St Albans: dechrau Rhyfeloedd y Rhosynnau.

1468                    Ymgyrch William Herbert yng Ngwynedd.

1485                    Brwydr Bosworth: coroni Harri Tudur yn Frenin Lloegr.

1497                    Brwydr Blackheath: diwedd Rhyfeloedd y Rhosynnau.

1534                    Penodi’r Esgob Rowland Lee yn Llywydd Cyngor y Gororau.

1536                    Y Ddeddf Uno Gyntaf.

1542                    Yr Ail Ddeddf Uno.

 

1537-1662 : Gwaddol y Deddfau Uno

Protestaniaeth a Phiwritaniaeth

Dewi Williams

  1. Natur y gymdeithas

(a)  Poblogaeth

(b)  Y wlad a’r dref

(c)  Haenau cymdeithas

(ch)  Amaethyddiaeth a diwydiant

  1. Gwaddol Y Deddfau Uno

(a)  Rowland Lee

(b)  Deddf 1543

(c)  Arwyddocâd cymal yr iaith

  1. Sefydlu Protestaniaeth

(a) 1533 – 53 goruchafiaeth eglwysig

(b)  Diddymu’r mynachlogydd

(c)  Llyfrau defosiynol cynnar

(ch)   Adfer Catholigiaeth

(d)  Cytundeb 1559

(dd)  Y Gwrth-ddiwygiad

(e)  Y Testament Newydd, Llyfr Gweddi a’r Beibl Cymraeg

4)  Y Dadeni Dysg

(a)  Cyhoeddi

(b)  Yr Iaith Gymraeg

(c)  Hanes Cymru

(ch)  Barddoniaeth

  1. Yr ail ganrif ar bymtheg

(a)  Y brenin a’r senedd

(b)  Dewis ochr

(c)  Rhyfela 1642 – 49

  1. Piwritaniaeth

(a)  John Penry 1589 – 93

(b)  Cyhoeddiadau

(c)   Sectau anghydffurfiol 1653 – 60

 

1663-1734 : Cyfnod yr ystadau mawr

Cynnydd ymneilltuaeth a dechrau diwydiannaeth

Dr. Gwawr Jones

Wedi’r Adferiad, cafwyd mesurau i geisio cosbi’r rhai oedd yn gefnogol i’r Werinlywodraeth.  Fel canlyniad, nid peth hawdd oedd bod yn un o’r hen Ymneilltuwyr – yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a’r Crynwyr.  Parhaodd y cyfyngu ar ddinasyddiaeth lawn iddynt am dros ddau gan mlynedd. Ond yr oedd crib y Sefydliad wedi ei thorri, ac ni fyddai pethau’n union yr un fath wedyn ag yr oeddent cynt.

Daeth ystadau mawr i fodolaeth, a’u perchnogion yn Saeson.  Trwy gyd-ddigwyddiadau rhyfedd, methodd nifer o dirfeddianwyr â gadael meibion i etifeddu, a phriododd eu haeresau â Saeson.  Trwy hyn, torrwyd cysylltiad diwylliannol rhwng landlord a thenant, gyda diflaniad y bardd teulu bron yn llwyr. Crëwyd tensiwn cymdeithasol, yn arbennig lle’r oedd y tenantiaid yn Anghydffurfwyr, a’r meistr tir yn Eglwyswr.  Ymhen hyn, y meistr tir oedd yn rheoli’r gyfraith a  chrefydd, gan mai ef oedd yn penodi ustusiaid a chlerigwyr.   Ganddo ef hefyd oedd yr hawl i anfon dynion i ryfel, heb unrhyw iawn i benteulu petae’n cael ei ladd neu ei glwyfo.

Gan nad oedd yr hen brifysgolion yn agored i’r Ymneilltuwyr, agorwyd Academïau ganddynt o safon uchel iawn.

Yn wahanol i’r hen brifysgolion, dysgai’r Academïau wyddoniaeth; cynhyrchwyd diwydianwyr arloesol, yn ogystal â gweinidogion i’r eglwysi, athrawon, athronwyr a gwleidyddion.  Trwy ddatblygu diwydiannau newydd, yn y man crëwyd gwaith yng Nghymru gan sicrhau ardaloedd o boblogaeth ddwys a chymdogaethau bywiog lle’r oedd y Gymraeg yn gryf.

Torri tir newydd mewn sawl maes oedd byrdwn y cyfnod, gan fod dadlau rhwng carfannau gwahanol yn miniogi’r meddwl.  Rhyddhawyd dychymyg a gwreiddioldeb llawer o’n meddyliau gorau, gan arwain at gyhoeddi llawer mwy o lyfrau, cynnig esboniadau newydd o’r byd o’n cwmpas, cofnodi trysorau’r gorffennol ac ymdrechu i gael mwy o gyfiawnder i drwch y boblogaeth.   Hyn i gyd pan yr oedd y broses o fyw o ddydd i ddydd yn anodd a didrugaredd.

Pam gwnaeth hyn oll ddigwydd pan wnaeth o?  Efallai bod esboniad…….

1735 – 1811 : Y Diwygiad Methodistaidd, Twf Addysg a’r Chwyldro Diwydiannol

Alwyn Pritchard

Cafodd Hywel Harris dröedigaeth yn 1735 a dyna, mewn gwirionedd, ddechrau’r Diwygiad Methodistaidd neu’r Diwygiad Efengylaidd. Y ddau arloeswr arall gyda Harris yn ystod cyfnod cyntaf y Diwygiad oedd Daniel Rowland, Llangeitho, a William Williams, yr emynydd mawr o Bantycelyn.  Drwy’r ddeunawfed ganrif aeth y diwygiad o nerth i nerth gyda seiadau ac achosion yn cael eu sefydlu ledled Cymru.

I gyd-fynd â’r Diwygiad gwelwyd galw cynyddol am addysg a dysgu darllen, yn arbennig er mwyn darllen y Beibl a llyfrau defosiynol eraill. O’r 1730au ymlaen sefydlwyd ysgolion Gruffydd Jones, Llanddowror. Erbyn 1761 roedd tua 3500 o ysgolion wedi’u sefydlu ac yn agos i 200,000 o bobl wedi dysgu darllen.  At ddiwedd y ganrif hefyd gwelwyd sefydlu’r Ysgolion Sul dan arweiniad Thomas Charles.

Ond roedd yna Gymru arall hefyd – Cymru’r anterliwt a’r dafarn a’r gwyliau mabsant. Bu Twm o’r Nant fyw drwy’r rhan fwyaf o’r cyfnod dan sylw, gan gael ei eni yn 1739 a marw yn 1810.

Gwelwyd gwreiddiau’r Chwyldro Diwydiannol o ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen, gyda chloddio am gopr ym Mynydd Parys, plwm yn Sir y Fflint, glo yng nghymoedd y de a datblygiad y gweithfeydd haearn a dur yn yr ardaloedd hynny.

1812-1859 : Cau’r tiroedd comin, oes y cynnydd ac oes y diwygiadau

John Dilwyn Williams

 Bu’r cyfnod rhwng sefydlu’r Methodistiaid yn enwad ar wahân yn 1811 a diwygiad crefyddol 1859 yn gyfnod o newid cymharol chwyldroadol yn hanes Cymru, yn amaethyddol, yn ddiwydiannol, yn gymdeithasol, yn grefyddol, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol.

Dyma benllanw cyfnod cau’r tiroedd comin pan oedd grym y landlordiaid Seisnigedig yn amlwg. Gwlad o ystadau mawrion oedd Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gydag o leiaf dri chwarter ffermwyr Cymru yn denantiaid.

Daeth diwydiant yn rhan amlwg o fywyd Cymru gyda thwf a datblygiad y meysydd glo a haearn, yn y de yn bennaf, a’r chwareli llechi yn y gogledd. Cynyddodd y boblogaeth rhwng 1801 ac 1851 o 541,546 i 1,163,139.

Bu twf mewn Anghydffurfiaeth. Erbyn 1851 roedd 80% o boblogaeth Cymru yn eu hystyried eu hunain yn anghydffurfwyr a chyda diwygiad 1859 ychwnegwyd tua 80,000 at eu nifer. Yn sgil hyn bu terfyn ar lawer o hen arferion a difyrion gwerin. Er bod Methodistiaeth yn ddigon ceidwadol ar y dechrau, bu cynnydd yn ystod y cyfnod mewn radicaliaeth o du’r anghydffurfwyr. Er gwaethaf terfysgoedd y cyfnod ni welwyd ffrwyth y radicaliaeth honno tan ar ôl y cyfnod dan sylw. Gwelwyd datblygiad papurau newydd a chyhoeddi cylchgronau. Bu twf mewn eisteddfodau ond bu Seisnigo arnynt hefyd i blesio’r tifeddianwyr.   Cyfnod o ddeuoliaethau.

1819  – Y llinell “Rhoi angen un rhwng y naw” o Awdl Elusengarwch Dewi Wyn o Eifion yn cyfleu tlodi’r cyfnod.
1823

Cyhoeddi Cyffes Ffydd y Methodistiaid Calfinaidd.

1830 Diddymu Llys y Sesiwn Fawr, y symbol olaf o arwahanrwydd Cymru.
1831 Terfysgoedd Merthyr a chrogi Dic Penderyn.
1832 Deddf Diwygio’r Senedd.
1834 Deddf y Tlodion a sefydlu’r drefn o godi wyrcws ym mhob Undeb o blwyfi.
1836 Deddf Cofrestru. Cael priodi mewn capeli.
1839 Terfysg y Siartwyr a chyrch Casnewydd.
1840au Twf y Mudiad Dirwest.
1839-43 Helynt y Beca.
1847 Adroddiad addysg – “Brad y Llyfrau Gleision”.
1851 Cyfrifiad Crefyddol.
1856 Cyfansoddi “Hen Wlad fy Nhadau”
1859 Diwygiad Crefyddol

1860–1925 : Gormes ac ymfudo, sefydliadau cenedlaethol,

cynnydd Rhyddfrydiaeth a lladdfa’r Rhyfel Mawr

Gareth Haulfryn Williams

Roedd pobl Cymru ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn llythrennog iawn, diolch yn bennaf i ymdrechion y capeli. Ysywaeth, gyda datblygiad addysg statudol ffurfiol daeth dylanwad Saesneg cryf.

Mygodd hyn, ynghyd â theyrngarwch di-gwestiwn i’r  frenhiniaeth Seisnig, unrhyw awch am ryddid politicaidd.

Roedd gormes y landlordiaid Seisnig a’u hymlyniad wrth yr eglwys sefydledig yn gyrru pobl oddi ar y tir – rhai i weithio yn y diwydiannau trwm, y glofeydd a’r chwareli lle profwyd unwaith eto annhegwch ac ecsbloetio. Aeth miloedd dramor a gwelwyd sefydlu’r Wladfa ym 1865. Yn y mudo a’r diwydiannu hyn roedd am y tro cyntaf fygythiad gwirioneddol i’r iaith Gymraeg fel iaith y werin.

Yn nes ymlaen yn y ganrif, cafodd Cymry da’r cyfnod foddhad o weld sefydlu colegau prifysgol ac, wedyn, Prifysgol Cymru. Yn y man, sefydlwyd cyrff diwylliannol cenedlaethol megis y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol. Roedd hyn yn fuddugoliaeth i ffrwd o genedlaetholdeb diwylliannol saff ond, er hynny, dichon i bethau fel hyn fygu dyheadau mwy radical.

Roedd ysbrydoliaeth o Iwerddon, a’r mudiad cyffredinol o fewn y Blaid Ryddfrydol Brydeinig tuag at ‘ymreolaeth i bawb’, yn gyfle i ddeffro cenedlaetholdeb y Cymry. Ar ôl i ddynion cyffredin Cymru gael yr hawl i bleidlais gudd, ym 1872 llwyddodd y Blaid Ryddfrydol sawl gwaith i gipio bron bob sedd seneddol yng Nghymru. Arweiniodd hyn at sefydlu carfan Gymreig o fewn y blaid a gefnogid gan y mudiad gwlatgar, Cymru Fydd, dan arweiniad Tom Ellis. Tua 1895, roedd gobaith gwirioneddol y gallai Cymru ddod yn wlad â rhyw elfen fach o annibyniaeth ganddi. Chwalwyd y cwbl o fewn ychydig flynyddoedd, fodd bynnag, oherwydd marwolaeth Ellis ac agwedd Seisnigaidd Rhyddfrydwyr y De – ynghyd â diffyg sêl ar ran Lloyd George.

Aeth hwnnw ymlaen at bethau mawr Prydeinig gyda chefnogaeth ddall y Cymry, a edrychai arno bron fel y mab darogan er na chyfrannodd yn sylweddol at y bywyd cenedlaethol yng Nghymru. Nid oedd y rhan a chwaraeodd yn y Rhyfel Mawr o unrhyw fantais i Gymru, a chollodd miloedd lawer o Gymry eu bywydau oherwydd yr awch Imperialaidd a goleddid ganddo fo a’i debyg. Ar ôl y rhyfel, daeth yn gynyddol amlwg bod y Blaid Ryddfrydol yn gwanhau. Yn ei lle daeth y Blaid Lafur, â’i phwyslais ar ryng-genedlaetholdeb yn hytrach na chenedlaetholdeb, i ddenu cefnogaeth dorfol y Cymry.

1865 Sefydlu’r Wladfa
1870 Deddf Addysg Forster
1881 Deddf Cau’r Tafarnau yng Nghymru
1888/1894

Ffurfio Cynghorau Sir, Dosbarth a Phlwyf

1893 Sefydlu Prifysgol Cymru
1893-1896

Comisiwn Tir Cymru

1907 Sefydlu’r Llyfrgell a’r Amgueddfa
1914-1918 Y Rhyfel Mawr
1920 Datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru

1926 – 2013 : Sefydlu’r Blaid Genedlaethol, Penyberth,

Tryweryn, Tynged yr Iaith ac wynebu’r dyfodol 

John Glyn

1925    Sefydlu’r Blaid Genedlaethol, gyda’i phwyslais mwyaf, yn gychwynnol o leiaf, ar warchod y diwylliant Cymraeg ei iaith.
1926

Streic ‘Genedlaethol’, yn ein hatgoffa mai cynni economaidd oedd yn blino’r mwyafrif o bobl Cymru, a bod eu  hedrychiad hwy yn mynd i fod yn gynyddol tuag at y Blaid Lafur.

1936 Sefydlu’r Ysgol Fomio, a’r Tân yn Llyn o ganlyniad i hynny, yn gweld ymchwydd mewn cenedlaetholdeb.
1939-45

Yr Ail Ryfel Byd. Ton o Brydeindod yn amlygu gwendid y mudiad cenedlaethol Cymreig a thyndra o’i fewn at  faterion megis pasiffistiaeth.

1956

Ymdrechion dros newidiadau cyfansoddiadol yn araf ennill eu plwyf o fewn y Blaid, ac yn ehangach.

Y ddeiseb fawr dros Senedd i Gymru yn brawf o hyn, ac er amryw dro trwstan, y llafurio hwn yn dwyn rhyw ffurf ar ffrwyth erbyn diwedd y ganrif.

1962-65 Boddi Tryweryn
1962 Darlith ‘Tynged yr Iaith’ Saunders Lewis yn ymdrech i roi’r iaith yn ôl ar yr agenda, ac yn esgor ar wrthdystio sydd, yn ei dro, wedi ennill nifer o gonsesiynau i’r iaith.
1969 Yr Arwisgo.
1979

Methiant y Refferendwm Ôl- Ddeddfwriaethol.

1982 Sefydlu S4C.
1993 Deddf Iaith a sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

1997

Ennill y Refferendwm Cyn-Ddeddfwriaethol o drwch blewyn.
2001 Canlyniadau’r Cyfrifiad yn galonogol o ran niferoedd a chanran siaradwyr Cymraeg.
2010

Deddf Iaith Newydd. Diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

2011 Ennill Refferendwm ar bwerau deddfu gyda chefnogaeth eang ar draws Cymru.
2013 Cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn dangos gostyngiad yn niferoedd ac yng nghanran siaradwyr y Gymraeg dros y wlad drwyddi draw

Cymru 2013

‘Y Gymru Brydeinig’ yn parhau i ymestyn, ‘Welsh Wales’ yn sefydlog, y ‘Gymru  Gymraeg’ dan warchae.

Problemau a Sialensiau.

Allfudo a Mewnfudo, Arfer Iaith a Throsglwyddiad Cenedliadol, Rhai Mythau a Chamsyniadau.

Ymatebion, Atebion, Argymhellion.

       Cymhathu, Ymwybyddiaeth Iaith, Disgwrs, Gwleidyddiaeth.

 

 

                 Cenedl

                      Un cof a roed i’n gofal, – ac un graig

                      I’n gwrogaeth ddyfal;

             Un hanes yn ein cynnal,

               Un darn o dir yn ein dal.

                                                                                                          Ieuan Wyn