Penderfyniad Cyngor Gwynedd
Ar y 7fed o Fawrth 2019, penderfynodd Cyngor Gwynedd gyda mwyafrif sylweddol – 39 pleidlais i 20 – sef bron ddau draean o’r aelodau a oedd yn bresennol, y dylid rhoi heibio’r bwriad i israddio Canolfannau Iaith y sir mewn unrhyw fodd ac na ddylai cymorthyddion gymryd lle athrawon cymwysedig ynddynt. Fodd bynnag, yn ôl cyfansoddiad y cyngor, y Cabinet sydd â’r hawl i wneud y penderfyniad terfynol. Bydd y Cabinet yn ystyried y mater ar 2 Ebrill.
Cynhaliwyd rali ar y Maes yng Nghaernarfon am 11.30 o’r gloch fore dydd Sadwrn, 30 Mawrth er mwyn cydnabod neges glir a diamwys y cyngor llawn, a galw ar y Cabinet i gadarnhau’r penderfyniad hollbwysig hwn.
Trefwyd y rali hon gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn cydweithrediad â Chylch yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai a Rhieni dros Addysg Gymraeg.
Cyfarfod y Cabinet, 2 Ebrill 2019
Cynhaliwyd piced o flaen yr adeilad am 12.15 i dystiolaethu yn gyhoeddus yn erbyn israddio’r Canolfannau Iaith sydd mor hanfodol i lwyddiant addysg Gymraeg yng Ngwynedd.
e-bost D. Mawrth, 9 Ebrill 2019: Oddi wrth: Ieuan Wyn
At: Williams Dilwyn Owen (TA) <DilwynOwenWilliams@gwynedd.llyw.cymru>
Cc: <cynghorydd.dyfrigsiencyn@gwynedd.llyw.cymru>, Thomas Gareth (CYNG/COUN) <cynghorydd.gareththomas@gwynedd.llyw.cymru>, <cynghorydd.cemlynwilliams@gwynedd.llyw.cymru>
Annwyl Dilwyn Owen Williams,
Cyfarfod Cabinet Cyngor Gwynedd 2 Ebrill, 2019 – Ail-strwythuro Canolfannau Iaith Gwynedd
Dyma union eiriad y penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod mewn perthynas â’r mater uchod:
‘Ein bod ni’n cadw’r strwythur fel y mae o yn y Canolfannau Iaith, ond yn peilota mewn un ganolfan, dod i lawr i un athro a chymhorthydd, a gwerthuso hyn’na, ac ar ôl blwyddyn yn dod yn ôl efo adroddiad ar ansawdd, a hefyd cynnwys dileu y CAD a’r ôl-ofal.’
Ond yr hyn sydd ar wefan y cyngor yw’r canlynol:
‘ i. Gweithredu cynllun peilot o strwythur staffio o athro a chymhorthydd gan gynyddu’r gymhareb athro : disgybl mewn un Canolfan Iaith am gyfnod o flwyddyn, gan ei fonitro’n ofalus er mwyn canfod a ydyw yn cael effaith ar ansawdd yr addysg a chyrhaeddiad y plant.
- Diddymu lwfans CAD i athrawon ymhob Canolfan Iaith, ynghyd ag ymgorffori’r ôlofal yn rhan o ddarpariaeth graidd y Canolfannau Iaith, gan ddiddymu’r swydd ôlofal sydd yn bodoli ar hyn o bryd.
iii. Er mwyn prynu amser i ystyried canlyniadau’r peilot, cymeradwyo cyllid pontio i gyfarch y bwlch fydd yn parhau i fodoli ar ôl gweithredu ar ii uchod hyd nes y bydd casgliadau’r peilot yn wybyddus.’
Er mwyn inni allu gwerthfawrogi’r sefyllfa’n llawn, byddem yn falch iawn pe baech yn darparu atebion inni i’r cwestiynau canlynol:
- Pam nad yw union eiriad y penderfyniad ddim wedi ei atgynhyrchu’n ysgrifenedig ar wefan y cyngor?
- Beth sy’n gyfrifol am y gwahaniaethau?
- Pwy oedd yn gyfrifol am y geiriad sydd ar y wefan?
- Mae cymal cyntaf y penderfyniad yng nghyfarfod y Cabinet yn datgan y ‘Ein bod ni’n cadw’r strwythur fel y mae o yn y Canolfannau Iaith, ond yn peilota mewn un ganolfan…’
Mae ‘cadw’r strwythur fel y mae o’ yn golygu cadw cyflogau a lwfansau fel ag y maent, gan fod strwythur yn cynnwys cyflogau a lwfansau. Pam, felly, mae athrawon yn y canolfannau sydd ddim yn rhan o’r cynllun peilot yn colli lwfans CAD, a pham mae swydd yr athrawes ôl-ofal bresennol yn dod i ben?
- Ar ba sail gyfreithiol y mae modd i athrawon golli lwfans CAD?
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Yn gywir,
Ieuan Wyn (Ysgrifennydd, Cylch yr Iaith) Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Ruth Richards (Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith) Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)
Y CEFNDIR
Mae diffygion difrifol ym mhroses yr ymgynghoriad mewnol, a chyflwynwyd cwyn ffurfiol i’r cyngor.
Mae opsiwn diweddaraf y cyngor i staff y canolfannau ei ystyried yn golygu y byddai hanner dysgwyr y canolfannau yn cael eu dysgu gan gymorthyddion yn lle athrawon cymwysedig. Gyda phob dyledus barch i gymorthyddion a’u cyfraniad neilltuol, ni ellir disgwyl iddynt ymgymryd â gorchwylion y mae gofyn i athrawon cymwysedig eu cyflawni.
Nid ail-strwythuro mo hynny ond diraddio gwasanaeth sy’n hanfodol i’r Gymraeg. Heb sicrhau bod gan y dysgwyr afael ddigonol ar y Gymraeg, dengys profiad na fyddant yn gallu derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg nac yn ymdoddi i fywyd Cymraeg yr ysgolion.
Y gwyn ffurfiol:
Oddi wrth Gylch yr Iaith at Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd
10 Chwefror, 2019
Annwyl Dilwyn Owen Williams,
Parthed: Ymgynghoriad mewnol ar ail-strwythuro’r Canolfannau Iaith
Dymunwn wneud cwyn ffurfiol oherwydd y diffygion canlynol yn yr ymgynghoriad uchod – diffygion sydd yn annilysu’r ymgynghoriad.
- Er bod y mater yn ymwneud yn uniongyrchol â’r Gymraeg, ni wahoddwyd y canlynol i gyfranogi yn y broses o’r cychwyn: Pwyllgor Iaith y cyngor; Gwasanaethau Iaith y cyngor; Hunaniaith; a Deilydd Portffolio’r Gymraeg.
- Nid yw’r ddogfen ymgynghori a gyflwynwyd i staff y Canolfannau Iaith yn cynnwys maen prawf hanfodol i osod yr opsiynau yn ei erbyn, sef ansawdd y ddarpariaeth. Mae hwn yn faen prawf allweddol, sef gallu’r Canolfannau Iaith i gyflawni eu diben yn effeithiol o ran sicrhau bod gan y dysgwyr afael ddigonol ar y Gymraeg i fedru derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac ymdoddi i fywyd Cymraeg eu hysgolion. Gyda phob dyledus barch i gymorthyddion a’u cyfraniad neilltuol, ni allant ar unrhyw gyfrif gymryd lle athrawon cymwysedig yn y Canolfannau Iaith gan fod angen arbenigedd i gyflawni holl ystod y gofynion addysgol i’r safon briodol.
- Nid oes asesiadau effaith wedi eu gwneud o’r opsiynau a gyflwynwyd i staff y Canolfannau Iaith. Mae’n gwbl amhriodol fod yr Adran Addsyg wedi gwneud cais i aelodau unigol staff y Canolfannau Iaith ddewis opsiwn cyn darparu adroddiad cynhwysfawr iddynt ar asesiadau effaith o’r opsiynau.
- Yn ei lythyr ar 30 Hydref 2018 at staff y Canolfannau Iaith mae Pennaeth Addysg y cyngor yn datgan fel a ganlyn: “Eglurwyd bod y Canolfannau Iaith yn cael eu hariannu 100% gan y Grant Gwella Addysg (GGA), a defnyddir y gyllideb hwn ar gyfer staffio’r Canolfannau Iaith.” Fodd bynnag, yn ei ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth gennym, mae’r cyngor ar 1 Chwefror eleni yn datgan “Mae Cyngor Gwynedd wedi cyfrannu tuag at y Canolfannau Iaith erioed.” O gymharu’r ddau ddatganiad, mae yma aneglurdeb camarweiniol lle dylid bod yn gwbl eglur a diamwys.
- Cyfarfod Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar 24 Ionawr eleni. Er mwyn iddynt allu cyflawni eu swyddogaeth o graffu, dylid bod wedi darparu’r wybodaeth gyflawn ar gyfer yr aelodau, yn ogystal ag adroddiad cynhwysfawr ar asesiadau effaith o’r opsiynau. Yr un modd, dylai’r wybodaeth a dderbyniodd yr aelodau naill ai mewn cyflwyniadau neu atebion i gwestiynau yn ystod y cyfarfod fod wedi bod yn gywir a chyflawn. Ystyrier y canlynol:
- Roedd yr wybodaeth gefndirol gydag eitem y Canolfannau Iaith yn rhaglen y cyfarfod a gyflwynwyd i’r aelodau o flaen llaw yn anghyflawn a chamarweiniol.i). Roedd bylchau ac aneglurdeb yn y cefndir hanesyddol o ran sefydlu a chyllido’r Canolfannau Iaith o 1985 hyd at y sefyllfa bresennol (gweler 4 uchod).ii). Yn y cyfeiriad at ohebiaeth, ni chynhwyswyd enwau’r holl gyrff sydd wedi anfon at y cyngor yn gwrthwynebu’r bwriad i ail-strwythuro’r Canolfannau Iaith, gan gynnwys nifer o gynghorau cymuned a thref. Hefyd, ni chyfeiriwyd at y dystiolaeth o bwys yn llythyr cyn-benaethiaid a chyn-athrawon cynorthwyol y Canolfannau Iaith.
- Yn ystod y cyfarfod, yng nghyd-destun yr opsiynau lle byddai athrawon cymwysedig yn cael eu cyfnewid am gymorthyddion, cyfeiriwyd at Ganolfan Iaith Dolgellau gan bwysleisio mai pennaeth a chymhorthydd sy’n ei staffio, a hynny heb dynnu sylw at y ffaith allweddol mai 8 o blant (ar y mwyaf) sy’n ei mynychu, ac nid 16 fel sydd yn y Canolfannau Iaith cynradd eraill.
- Yn ystod y cyfarfod, cyflwynwyd gwybodaeth anghywir i’r aelodau, sef:i). Bod Canolfan Iaith yn cael ei harolygu fel rhan o’r arolygiad o’r ysgol y mae wedi eu lleoli ar ei safle. Anghywir. Mae gwaith y Canolfannau Iaith yn cael ei arfarnu trwy arolygiad thematig (2017 oedd yr olaf) ac arolygiad Athrawon Bro yn genedlaethol.ii). Bod staff y Canolfannau Iaith yn cael CPA ½ diwrnod yr wythnos. Anghywir. Mae staff y Canolfannau Iaith i fod i dderbyn CPA ½ diwrnod, ond nid yw’n bosibl ei weithredu oherwydd bod y cyllid ar gyfer athrawon llanw i gyflenwi cyfnodau CPA wedi dod i ben yn ystod tymor yr Hydref, 2016.iii). Nad yw penaethiaid y Canolfannau Iaith yn rheolwyr llinell. Anghywir. Mae pennaeth Canolfan Iaith yn rheolwr llinell ar yr athro/athrawes gynorthwyol (a’r cymhorthydd yn achos Canolfan Iaith Dolgellau.)iv). Nad yw plant CA1 yn mynychu’r Canolfannau Iaith cynradd. Anghywir. Mae plant CA1 (Bl 2) yn mynychu’r Canolfannau Iaith pa fo’r rhifau’n caniatáu.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Yn gywir, Ieuan Wyn, Ysgrifennydd Cylch yr Iaith