Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn
Datganiad i’r wasg
13.08.17
Er bod yr Arolygiaeth Gynllunio a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ag apêl Morbaine Ltd gyda’u cais cynllunio i godi 366 o dai ym Mhen-y-ffridd, Bangor, bydd rhaid ei hailystyried, a hynny oherwydd bod safle’r datblygiad arfaethedig ym Mhenrhosgarnedd y tu allan i derfynau’r Cynllun Datblygu newydd a fabwysiadwyd gan Gyngor Gwynedd ar 28 Gorffennaf. Mae cais cynllunio Morbaine yn perthyn i’r hen gynllun datblygu, sef Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd, ac mae’r terfynau wedi’u newid.
Mae’r datblygiad tai hwn y mwyaf yn hanes y cyngor sir ac mewn ward sydd â 52% o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg, a chafodd ei wrthod gan y Pwyllgor Cynllunio ddwywaith y llynedd cyn i’r cwmni fynd i apêl. Roedd y penderfyniad yn groes i argymhelliad y swyddogion cynllunio a oedd wedi cymeradwyo’r asesiad effaith ieithyddol a gyflwynwyd gan y datblygwyr fel rhan o’r cais cynllunio. Roedd yr asesiad hwnnw yn dweud na fyddai’r datblygiad yn gwneud niwed i’r Gymraeg ac y gallai fod yn llesol i’r iaith, ond dangosodd asesiad iaith annibynnol gan Hanfod y byddai’r ganran yn debygol iawn o ostwng i 48% o ganlyniad i ddatblygiad o’r maint yma.
Gan fod safle’r datblygiad arfaethedig y tu allan i derfynau Cynllun Datblygu newydd y cyngor sir, mae Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi rhoi gwybod i’r cyngor sir a’r aelodau o’r cyhoedd a oedd yn gwrthwynebu’r cais cynllunio bod hawl ganddynt i ofyn am asesiad newydd o’r apêl. Mae’r cyngor ac aelodau o’r cyhoedd wedi ymateb, ac o ganlyniad bydd ailystyried yr apêl gan gynnwys cynnal gwrandawiad cyhoeddus newydd.
Mae’r mudiadau iaith yn enw Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth hanfodol a chanolog pan fydd yr apêl yn cael ei hailystyried. Yn eu llythyr, mae Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai yn nodi nifer o ofynion:
- Penodi Arolygydd Cynllunio newydd ar gyfer ailystyried yr apêl, a hynny er mwyn sicrhau annibyniaeth barn.
- Penodi Arolygydd Cynllunio sy’n medru’r Gymraeg i ymdrin â’r apêl. Os na fydd Arolygydd Cynllunio o’r fath ar gael ar y pryd, dylid gohirio’r broses hyd nes y sicrheir hynny. Mae darpariaethau iaith Deddf Gynllunio (Cymru) 2015 yn gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth gynllunio statudol, ac roedd y Gymraeg yn ystyriaeth pan wrthodwyd y cais cynllunio gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd.
- Cyfarwyddo’r Arolygiaeth Gynllunio i drefnu bod Alun Davies AC fel Gweinidog y Gymraeg yn cyfranogi yn yr asesiad o’r apêl, a’i fod ef yn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.
- Peidio ag ailystyried yr apêl hyd nes y cyhoeddir y canlynol: ‘Nodyn Cyngor Technegol 20: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg’ a ‘Fframwaith Asesu Risg i’r Gymraeg a Chanllawiau’ gan Lywodraeth Cymru, a’r ‘Canllaw Cynllunio Atodol: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg’ gan Gyngor Gwynedd.
Ieuan Wyn (Ysgrifennydd Cylch yr Iaith)
Ruth Richards (Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith)
Geraint Jones (Rheolwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai)
Menna Machreth (Pwyllgor Rhanbarth Gwyedd/Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)