Mawrth 2017

YMGYRCH HANES CYMRU
ar y cyd â Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai a Chylch yr Iaith
Gohebiaeth os gwelwch yn dda i:   Tan-y-dderwen, Penmachno,
Betws-y-coed LL24 0PS  owaintan@hotmail.com   ffôn: 01690 760335

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Eich cyf: TO/KW/00265/17

17 Mawrth 2017

Annwyl Kirsty Williams,

Diolch am y llythyr dyddiedig 1 Mawrth 2017 a dderbyniwyd, ar eich rhan, gan Kieran Shaw o Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru.

Rydym yn ddiolchgar am yr esboniad a gafwyd o’r camau gweithredu tuag at ddatblygu’r cwricwlwm newydd yn ôl argymhellion Dyfodol Llwyddiannus. Diolch hefyd am dynnu sylw at adroddiad cychwynnol y gweithgor, dyddiedig 27 Chwefror.

Croesawn y dyhead y bydd y cwricwlwm yn “ysbrydoli dysgwyr i fod yn wybodus am etifeddiaeth ieithyddol a diwylliant amrywiol Cymru, a’i chysylltiadau â’r byd ehangach” ac y bydd gweithgorau’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad, i’r perwyl hwn, yn gweithio ar sail diffiniad a fydd yn sicrhau bod y dimensiwn Cymreig a’r persbectif rhyngwladol wedi ei wreiddio ar draws y cwricwlwm.

Noda adroddiad 27 Chwefror y canfyddiad bod gwledydd megis Seland Newydd, Awstralia a’r Ffindir wedi mabwysiadu’r egwyddor fod eu hunaniaeth genedlaethol wrth galon dysgu. Gofynnwn i chi dderbyn yr egwyddor hon fel sylfaen ar gyfer cwricwlwm newydd Cymru. Byddai hynny’n rhoi arweiniad cliriach a chadarnach i’r Ysgolion Arloesi a’r gweithgorau a fydd yn datblygu’r cwricwlwm na’r datganiad amwys yn Dyfodol Llwyddiannus y dylai’r meysydd Dysgu a Phrofiad gynnwys, lle’n briodol, ddimensiwn Cymreig – neu, yn Saesneg, a Welsh dimension, sy’n awgrymu y gallai un elfen Gymreig o fewn y maes llafur cyfan fod yn ddigonol.

Nid ydym yn hyderus, o’r ateb a dderbyniwyd, eich bod yn gwerthfawrogi maint y diffyg sylw a gaiff hanes Cymru ar hyn o bryd mewn llawer o ysgolion ac felly bod angen ymdrech arbennig i weddnewid y sefyllfa anfoddhaol hon, nad yw’n gydnaws ag egwyddorion sylfaenol Dyfodol Llwyddiannus. Dylai’r angen i roi sylw arbennig i sicrhau mai hanes Cymru yw sylfaen a chalon cwricwlwm hanes ysgolion y dyfodol fod yn flaenoriaeth bendant, ynghyd â’r angen i sicrhau cyflenwad o ddeunyddiau addysgu perthnsaol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Galwn am arweiniad clir a phendant gennych fel Ysgrifennydd Addysg ar y materion hyn fel bod pob gweithgor a grŵp yn deall yn llawn yr angen am ddatblygu cwricwlwm gwirioneddol unigryw ar gyfer Cymru efo’r profiad Cymreig yn rhan annatod ohono fel na fyddai angen am sicrhau dimensiwn Cymreig fel atodiad iddo.

Yn gywir,

Eryl Owain

ar ran Ymgyrch Hanes Cymru

Yr ateb dros Kirsty Williams AC i lythyr Eryl Owain dyddiedig 6 Chwefror 2016:-

1 Mawrth 2017

Annwyl Eryl Owain

Diolch am eich llythyr dyddiedig 6 Chwefror at Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Gofynnwyd i mi ateb ar ei rhan fel swyddog arweiniol yn y maes hwn.

Mae rhwydwaith o Ysgolion Arloesi yn chwarae rôl ganolog yn y gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r arloeswyr hyn yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau megis Estyn, y consortia rhanbarthol, cyflogwyr ac arbenigwyr o Gymru ac o wledydd eraill i gynllunio fframwaith y cwricwlwm newydd. Maent wedi bod yn canolbwyntio ar gynllunio strwythur y cwricwlwm, yn ogystal ag ystyried y cynllun strategol a’r egwyddorion craidd ar gyfer fframwaith y cwricwlwm newydd. Maent wedi bod yn datblygu’r agweddau a ganlyn:

  • Asesu a Chynnydd
  • Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd
  • Cyfoethogi a Phrofiadau
  • Y dimensiwn Cymreig, safbwyntiau rhyngwladol a sgiliau ehangach

Mewn perthynas â’r dimensiwn Cymreig a safbwyntiau rhyngwladol, mae’r gweithgor wedi canolbwyntio ar ddatblygu diffiniad i’w ddefnyddio gan weithgorau’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, drwy ystyried elfennau allweddol megis cynaliadwyedd, dinasyddiaeth, iaith, etc. Mae llawer o’r trafodaethau wedi canolbwyntio ar bedwar diben y cwricwlwm newydd, ac yn benodol ar ddatblygu dinasyddion egwyddorol, gwybodus, sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd.

Mae’r grŵp wedi cael mewnbwn gan nifer o siaradwyr er mwyn llywio ein gwaith, gan gynnwys:

  • Dr Elin Jones, a gadeiriodd y grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru.
  • Dr Kevin Smith, Prifysgol Caerdydd, a rannodd ganlyniadau ei ymchwil gyda dysgwyr mewn perthynas â’r cysylltiadau rhwng yr ardal leol, Cymru a’r byd o ran ffurfio hunaniaeth, yn ogystal â phwysigrwydd addysg wrth ddatblygu dinasyddiaeth ac ymdeimlad o hunaniaeth.

Cyhoeddwyd adroddiadau cychwynnol ar bob un o’r agweddau hyn ar 27 Chwefror, ac rydym yn croesawu adborth ar bob un ohonynt. Gallwch eu gweld drwy ddilyn http://gov.wales/docs/dcells/publications/170224-welsh-dimension-international-and-wider-skills-en.pdf. Mae gweithgorau wedi cael eu sefydlu erbyn hyn i ddechrau creu cynllun lefel uchel ar gyfer y Meysydd Dysgu a Phrofiad, cyn gwneud y gwaith mwy manwl i ddatblygu pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus, sef adolygiad annibynnol yr Athro Donaldson o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru. Y meysydd yw:

  • Y celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a lles
  • Y dyniaethau
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg

Bydd pob Maes Dysgu a Phrofiad yn cynnwys, lle y bo’n briodol, ddimensiwn Cymreig a safbwynt rhyngwladol. Mae Dyfodol Llwyddiannus hefyd yn argymell y dylid gweithredu’r egwyddor sybsidiaredd, sy’n annog perchenogaeth a chyfrifoldeb lleol o fewn fframwaith cenedlaethol clir o ddisgwyliadau a chefnogaeth, yn y cwricwlwm newydd. Mae’r cysyniad hwn yn annog ysgolion i lunio’r cwricwlwm yn ôl eu lleoliad a’r cyd-destun. Felly, bydd y cwricwlwm newydd yn gallu cefnogi addysgu hanes lleol a hanes Cymru fel ei gilydd.

Yn ystod y broses ddatblygu, bydd yr Ysgolion Arloesi yn gwirio ac adolygu modelau newydd, er mwyn profi a rhannu syniadau a chasglu adborth. Hefyd, bydd mwy o gyfleoedd ffurfiol i’r unigolion a’r cyrff allweddol hynny sydd â diddordeb gyflwyno sylwadau ar gynigion mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd, drwy gyfrwng arolygon neu ymgynghoriad, ar adegau strategol yn ystod y gwaith datblygu. Rydym o’r farn y dylem integreiddio’r sgiliau ehangach ac agweddau’r Cwricwlwm Cymreig sy’n rhan o’r cwricwlwm newydd wrth ddatblygu’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, a’u datblygu wedyn ar y llinellau hynny.

Y nod yw darparu’r cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion a lleoliadau yng Nghymru mor gynnar â Medi 2018, a’i ddefnyddio fel sail i ddysgu ac addysgu ar gyfer plant a phobl ifanc 3-16 oed o fis Medi 2021 ymlaen.

Yn gywir 

Kieran Shaw

Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru

 

Yn Ionawr 2017 trefnwyd cyfarfod rhwng dirprwyaeth o’r Ymgyrch a Llŷr Gruffydd, AC.

 

Dyma grynodeb o’r cwricwlwm cyfredol.

 

TGAU  a’r Safon Uwch – meysydd llafur (neu fanylebau) newydd o Fedi 2016 ymlaen.

 

 

Datganiad i’r Wasg ar ran Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai  Cyd-drefnwyr Cynhadledd Hanes Cymru, Clynnog Fawr, 26 Tachwedd 2016

Gwaseidd-dra diwylliannol yn rhwystr dros beidio â dysgu hanes Cymru – Cynhadledd yn galw am Gwricwlwm Cymru

Penderfyniad unfrydol Cynhadledd Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr ddydd Sadwrn diwethaf (Tachwedd 26ain) oedd galw am sicrwydd y bydd cwricwlwm y dyfodol ar gyfer ysgolion Cymru yn un unigryw ar gyfer Cymru fel bod y profiad Cymreig yn amlwg ym mhob Maes Dysgu.

Dywedodd Eryl Owain, llefarydd ar ran y gynhadledd, bod angen disodli’r drefn annigonol bresennol o Gwricwlwm ‘Cenedlaethol’, a luniwyd ar gyfer Lloegr, gyda chwricwlwm Cymreig fel atodiad iddo. “Mae angen,” meddai, “llunio Cwricwlwm wedi ei wreiddio’n gadarn yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru a fydd yn gosod y sylfaen i’n disgyblion fedru edrych allan tua’r byd mawr o’u hamgylch trwy lygaid Cymreig. Mae hynny’n arbennig o bwysig ym maes hanes”

Prif siaradwraig wâdd y gynhadledd oedd yr hanesydd Dr Elin Jones, o Gwm Rhymni, a gadeiriodd dasglu ar ran Llywodraeth Cymru a adroddodd dros dair blynedd yn ôl pa mor annigonol oedd y sylw a roddir i’n hanes ni ein hunain mewn llawer iawn o ysgolion, gan ddweud mai “gwaseidd-dra diwylliannol yw’r rhwystr dros beidio â dysgu hanes Cymru,”

Er bod Adroddiad yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, (Chwefror 2015) yn gosod fframwaith ar gyfer cwricwlwm unigryw i Gymru, mynegodd hi bryder na fydd “dimensiwn Cymreig ystyrlon yn greiddiol i unrhyw Gwricwlwm i Gymru a seilir ar yr Adroddiad hwn,” gan nad yw’n “cynnig diffiniad ohono, yn ei enghreifftio nac yn manteisio ar gyfloedd amlwg i gyfeirio ato.”

Daeth dros hanner cant i’r gynhadledd, yn eu plith athrawon a darlithwyr, gwleidyddion a chynrychiolwyr amryw o fudiadau a chymdeithasau. Ategwyd ganddynt alwad ar Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, i ddatgan yn glir y bydd meysydd llafur, yn deillio o Dyfodol Llwyddiannus, sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan rwydweithiau o Ysgolion Arloesi, yn rhoi lle sylfaenol a chanolog i Gymru a’r profiad Cymreig.

Gelwir hefyd am sicrwydd y bydd adnoddau addas digonol ar gael i gyflwyno hanes Cymru a’r dimensiwn Cymreig ar draws y cwricwlwm yn effeithiol mewn modd deniadol ynghyd â threfniadau hyfforddiant ble mae angen hynny.

27 Tachwedd 2016

 

Canolbwyntiwyd yn ystod misoedd cynnar 2018 ar gysylltu â’r canlynol:

Aelodau Pwyllgor Plant, Pobl Ieuainc ac Addysg y Cynulliad i’w hatgoffa o bwysigrwydd hanes Cymru a gwendidau’r broses gyfredol o ddatblygu cwricwlwm newydd ac, yn benodol, i’w hannog i sicrhau y bydd sesiwn arbennig o’r Pwyllgor yn trafod lle hanes Cynmru yn y cwriclwm newydd. Er gwaethaf derbyn addewid gan sawl aelod yn cytuno bod angen sylw i’r materion hyn, nid yw’r pwyllgor wedi trafod hyn eto. Bydd angen ail-gysylltu.

Arweinwyr, Deiliaid Portffolio Addysg a Phrif Swyddogion Addysg y Cynghorau Sir yn eu hannog i fabwysiadu’r cynnig a basiwyd gan Gyngor Sir Gwynedd yn nodi pwysigrwydd hanes Cymru. Hyd y gwyddys, nid oes yr un cyngor arall wedi mabwysiadu cynnig o’r fath ond arweiniodd y cysylltu at drafodaeth werthfawr â nifer o gynghorwyr o bob rhan o Gymru.

Unigolion allweddol, megis darlithwyr adrannau Hanes y Prifysgolion a’r Colegau, athrawon hanes Ysgolion Uwchradd a chysylltiadau eraill yn eu hannog i gysylltu â’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ac aelodau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ieuainc ac Addysg. Derbyniwyd nifer dda o ymatebion yn addo cefnogaeth.

Mae’r gwaith o ddatblygu’r Cwricwlwm newydd yn parhau ond nid oes unrhyw adroddiadau cyhoeddus o ran manylion y strwythur na’r cynnwys wedi eu rhyddhau eto.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ieuainc ac Addysg wedi derbyn adroddiadau a chynnal trafodaethau ar werslyfrau ac adnoddau eraill ar gyfer y cwricwlwm newydd ac mae’r angen am gyflwyno’r ‘dimensiwn Cymreig’ ag anghenion addysg cyfrwng Cymraeg wedi bod yn rhan o’r trafod.