Cylchgrawn Hanes llafar gwladgarol yw Utgorn Cymru a gyhoeddir yn chwarterol – Gwanwyn, Haf, Hydref, Gaeaf – i aelodau o’r Ganolfan ar ffurf cryno-ddisg neu MP3.
Ceir hyd at 80 munud o sgyrsiau difyr a safonol ym mhob rhifyn, yn ymwneud â Chymru a’r Gymraeg: Hanes, Llenyddiaeth, Cerddoriaeth a Gwleidyddiaeth ddi-flewyn-ar-dafod, yn cynnwys “Sêt y Gornel“ – golwg feirniadol y Golygydd ar y Gymru Vach a’i Sevydliad Seisnig, divater, clustvyddar.
Byddwn yn anfon cryno-ddisg o’r Utgorn yn ddi-dâl at gannoedd o ddeillion a rhai â nam ar y golwg.
-
Anfonir rhai copïau at Gymry alltud, nifer dda ohonynt yng ngweddill gwledydd Prydain ond hefyd cyn belled â Phatagonia, Yr Almaen, UDA, Norwy, Awstralia a Seland Newydd.
-
Gwirfoddol yw’r holl waith a wneir ar gyfer y cylchgrawn hwn a sicrhawyd gwasanaeth ac addewidion nifer fawr o wirfoddolwyr talentog i gyfrannu sgyrsiau neu eitemau ar ei gyfer.
Golygydd/Cynhyrchydd Ysgrifennydd Aelodaeth Dosbarthydd Archifydd Y Cyflwynydd |
Geraint Jones Dawi Griffiths Jina Gwyrfai Jina Gwyrfai Sarah G. Roberts Morgan Jones |
Pwy bynnag sydd yn awyddus i dderbyn y cylchgrawn, cysyllter â ni:
Utgorn Cymru, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, CAERNARFON, Gwynedd. LL54 5BT hanes.uwchgwyrfai@gmail.com 01286 660 655 / 546
Mae tanysgrifiad yr Utgorn yn gynwysedig yn y tâl aelodaeth. Gweler AELODAETH.