Cyngor Gwynedd: 28 Gorffennaf, 2017, 2pm Cyngor Sir Ynys Môn: 31 Gorffennaf, 2017, 10am
RHESYMAU DROS WRTHOD MABWYSIADU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD GWYNEDD A MÔN
- NIFEROEDD Y TAI YN RHY FAWR Mae’r Cynllun yn datgan bod niferoedd y tai, sef 7,902 rhwng y ddwy sir, yn darparu ar gyfer twf yn y boblogaeth. Mae’r twf yn seiliedig ar fewnlifiad, felly mae’r Cynllun yn darparu ar gyfer mewnlifiad a thrwy hynny yn ei hyrwyddo. Y drefn oedd pennu cyfansymiau sirol ar gyfer Gwynedd ac ar gyfer Môn a dosrannu’r niferoedd i’r cymunedau. Mae hyn yn gwbl annerbyniol . Dylai’r cyfansymiau fod wedi cael eu seilio ar ddiwallu angen lleol yn y cymunedau.
- ASESIAD IAITH DIFFYGIOL Yn wahanol i asesiadau ar agweddau eraill o’r Cynllun, ni chomisiynodd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd asesiad annibynnol o’i gynaliadwyedd ieithyddol. Cyflawnwyd y gwaith gan yr Uned, er ei bod yn cydnabod nad oedd o’i mewn arbenigedd yn y maes. Penderfynodd y mudiadau iaith gomisiynu asesiad annibynnol gan ymgynghoriaeth iaith Hanfod. Daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod y Cynllun yn darparu gormod o dai ac mai’r canlyniad fyddai gwanychu sefyllfa’r Gymraeg. Cafodd yr asesiad annibynnol ei ddiystyru gan yr Uned.
- POLISI IAITH DIFFYGIOL Nid yw Polisi Strategol 1 (Yr Iaith a’r Diwylliant Cymraeg) y Cynllun yn gwarchod yr iaith. Mae’r polisi yn caniatáu datblygiadau niweidiol os gellir lleihau rhyw gymaint ar y niwed trwy fesurau lliniaru. Mae Siân Gwenllian AC a Llyr Huws Gruffydd AC wedi datgan bod y polisi hwn yn annerbyniol.
- AROLWG DIFFYGIOL Fel rhan o’u tystiolaeth yn sail i’r Cynllun, cynhaliodd y ddau gyngor sir ‘Arolwg Tai ac Iaith Gwynedd ac Ynys Môn’ rhwng Medi a Thachwedd 2013, ond dangosodd yr ystadegydd Hywel Jones (Statiaith) fod diffygion difrifol yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd. Ei asesiad ef o’r arolwg oedd ei fod yn annilys yn ystadegol a’r casgliadau’n annibynadwy. Gweler gwefan Statiaith: https://statiaith.com/blog/amrywiol/arolwg-tai-ac-iaith-gwynedd-ac-ynys-mon/
- CANRAN TAI FFORDDIADWY YN RHY ISEL Mae canran y tai fforddiadwy mewn datblygiad wedi ei gosod mor isel â 10%. Mae tystiolaeth o’r angen am dai fforddiadwy yn dangos y dylai’r ganran fod yn llawer iawn uwch. Bydd y polisi hwn yn golygu mai tai marchnad agored fydd 90% o’r datblygiadau tai hyn.
- NIFER CYMUNEDAU’R POLISI MARCHNAD TAI LLEOL YN RHY FACH Dim ond mewn nifer cyfyngedig iawn o gymunedau y bydd y polisi o gyfyngu tai i bobl leol yn unig yn cael ei weithredu.
- LLAI O ARDALOEDD I GAEL CLWSTWR Bydd llai o fân bentrefi ac ardaloedd gwledig yn cael clwstwr, sef nifer fach o dai. Bydd hyn yn nacáu’r cyfle i nifer o gymunedau sicrhau cynaliadwyedd a thwf naturiol trwy ddiwallu angen lleol.
- DIM DATBLYGU GRADDOL Ni fydd modd gosod amod ar ddatblygwyr i ddatblygu’n raddol, sef codi nifer penodol o dai ar y tro yn unol ag amserlen gytunedig.