Sgwrs ddifyr gan GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn archifydd Gwynedd, am y cyfnod 300 mlynedd a rhagor yn ôl cyn bod sôn am y lôn bost pan ddibynnid llawer ar longau i gludo gwahanol nwyddau.
O.M. Edwards
DAWI GRIFFITHS yn dod â hanes OM Edwards i ben trwy olrhain ei hanes fel prif arolygwr addysg Cymru a chawn hanes ei wraig Elin a’i diwedd adfydus, ei ymlyniad yn ystod y Rhyfel Mawr at weithgareddau recriwtiol John Williams Brynsiencyn, John Morris Jones a Lloyd George ac am y “Syr” a gafodd yn wobr am yr ymlyniad ymerodrol hwn.
Afonydd Eifionydd
Y tro hwn aiff MARGIAD ROBERTS i ddilyn lli’r afonydd yn bennaf yng nghwmwd Eifionydd. Gŵyr pawb, mae’n debyg, am Dwyfor a Dwyfach, Glaslyn ac Erch, ond beth am afonydd Carrog a Ferlas, Henwy a Chwilogen, Colwyn a Faig? A llu o rai eraill.
Castell Gwrych
Sgwrs ddifyr gan BOB MORRIS am Gastell Gwrych ger Abergele a Felicia Hemans, bardd cynhyrchiol mawr ei dylanwad a dreuliodd ran o’i phlentyndod yno. Enillai fwy o arian am ei gwaith hyd yn oed na Jane Austen, Wordsworth a Tennyson. Dylanwadwyd rhywfaint arni gan y diwylliant Cymreig.
Nennius
DAFYDD GLYN JONES yn parhau â’i ddarlith gyfoethog ar Nennius, yr hanesydd cynnar, cynnar yn ein hanes. Yma mae ar drywydd tri o enwogion Cymreig: Maelgwn Gwynedd, y Brenin Arthur a Gwrtheyrn.