20 Ionawr 2018 (Sadwrn) 10—3 o’r gloch y prynhawn
Cof y Cwmwd yn Archifdy Caernarfon
Hyfforddiant i ddiweddaru ac ychwanegu at ein gwefan newydd ar ffurf wicipedia a elwir Cof y Cwmwd, trwy garedigrwydd Archifdy Gwynedd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Y nod yw creu cronfa fawr o fanylion am gwmwd Uwchgwyrfai. Hyfforddwyr: Jason Evans, Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Gareth Haulfryn Williams a Miriam Lloyd Jones.
10 Chwefror 2018 (Sadwrn) 10.30-2.30 EIN GWIR HANES (15) :
Enwau Lleoedd yng Ngwynedd
Dr. Glenda Carr: Enwau Môn
Margiad Roberts: Enwau Eifionydd
Llywydd: Dawi Griffiths
23 Chwefror 2018 (Gwener) 7 o’r gloch
Dr. W. Gwyn Lewis: “Clybio yng Nghaernarfon: Anthropos a Chlwb Awen a Chân”
23 Mawrth 2018 (Gwener) 7 o’r gloch
Yr Athro Peredur Lynch: “Gwyddel yn y Dref”
14 Ebrill 2018 (Sadwrn) 10-1 o’r gloch
Cof y Cwmwd yn Archifdy Caernarfon
Ail sesiwn hyfforddiant – eto yn Archifdyd Caernarfon – i ddiweddaru ac ychwanegu at ein gwefan newydd ar ffurf wicipedia a elwir “Cof y Cwmwd”, ac a noddwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Hyfforddwyr: Gareth Haulfryn Williams a Miriam Lloyd Jones.
27 Ebrill 2018 (Gwener) 7 o’r gloch
Gari Wyn : “Dylanwad y Gwyneddigion”
8 Mehefin 2018 (Gwener) 7 o’r gloch
DARLITH FLYNYDDOL UTGORN CYMRU
Emyr Llywelyn: “Waldo: Brogarwr a Gwladgarwr”
14 Medi 2018 (Gwener) 7 o’r gloch £2
COFIO GLYNDŴR:
Yr Athro Gruffydd Aled Williams: Glyndŵr yn ei gynefin.
CYFFLWYNO BRO: 28 Medi 2018 (Gwener)
Oherwydd amgylchiadau anorfod gohiriwyd y cyfarfod hwn tan 27 Medi 2019.
13 Hydref 2018 (Sadwrn) 10.30 – 2.30
EIN GWIR HANES (16): Helyntion yn hen lysoedd barn Gwynedd:
J. Dilwyn Williams a Gareth Haulfryn Williams
27 Hydref 2018 (Gwener) 7 o’r gloch £2
Dominig Kervégant : Llydaw a Chymru
30 Tachwedd 2018 (Gwener) 7 o’r gloch £2
Bob Morris : Y Ddrama a’i Phobol yng Nghymru
CYFEILLION EBAN
16 Ionawr Profedigaethau Enoc Huws (Daniel Owen) [Nofel] Agorwyd y drafodaeth gan Beti Wyn Owen (darllenwyd ei chyfraniad gan Dawi Griffiths yn ei habsenoldeb) a Sarah G. Roberts
20 Chwefror Gwr o Baradwys (Ifan Gruffydd) [Hunangofiant] Agorwyd y drafodaeth gan Dawi Griffiths
20 Mawrth Y Llew oedd ar y Llwyfan (Eryl Wyn Rowlands) [Cofiant: Llew Llwyfo] Agorwyd y drafodaeth gan Geraint Jones.
17 Ebrill Y Gwin a Cherddi Eraill (I.D. Hooson)[Barddoniaeth] Agorwyd y drafodaeth gan John Griffiths.
15 Mai Celwydd Golau (J. Ellis Williams) [Nofel Dditectif] Agorwyd y drafodaeth gan Dr Sylvia Prys Jones.
22 Medi Cerddi Cynan I agor y tymor trefnwyd taith lenyddol a swper i ddilyn i aelodau Cyfeillion Eban yn Nhy Newydd, Aberdaron. Trefnwyd gan Geraint Jones a Jina Gwyrfai.
16 Hydref O’r India Bell a Storïau eraill (Dafydd Glyn Jones) Agorwyd y drafodaeth gan Geraint Jones.
20 Tachwedd Pererindodau (W. Ambrose Bebb) Agorwyd y drafodaeth gan Dawi Griffiths
11 Rhagfyr Siwan (Saunders Lewis) [wythnos ynghynt nag arfer] Agorwyd y drafodaeth gan John Griffith
GARDDIO
Croeso cynnes i wirfoddolwyr newydd ond fe’u cynghorir i gysylltu ymlaen llaw rhag ofn y bydd y trefniadau wedi eu newid. (01286 660 655) Fel arfer byddwn yn anelu at fore Sadwrn cyntaf y mis o Chwefror hyd at fis Tachwedd gan ddibynnu ar y tywydd. (O 9 tan hanner dydd. Ceir te ddeg.)
Gadael Ymateb
Diddymu ymateb
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.