CYFARFODYDD EIN GWIR HANES:
Ein GWIR Hanes (12)
4 Chwefror 2017 Sadwrn, 10.30 – 2.30 o’r gloch
Trichanmlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn.
Yr Athro E. Wyn James: William Williams.
Y Parchedig Dr Goronwy Prys Owen: Dylanwadau.
Ein GWIR Hanes (13)
13 Mai (Sadwrn), 10.30-2.30
AI GWLAD Y GÂN FU CYMRU?
Arfon Gwilym: Yr Hen Gymru Lawen
Rhidian Griffiths: Ieuan Gwyllt a Chanu’r Cymry
EIN GWIR HANES (14)
14 Hydref, Sadwrn, 10.30-2.30
Yr Athro A.D. Carr: Dafydd Dywysog: “yr ola’ eiddila’ o’i lin”
Ieuan Wyn: “Tynged Etifeddion Dafydd a Llywelyn”
CYFARFODYDD DIWYLLIANNOL 2017:
24 Chwefror Lefi Gruffudd: Hanner Canmlwyddiant Gwasg y Lolfa
16 Mawrth Gwasg y Lolfa yn cyhoeddi:
“Brwydrau dros Gymru” gan Myrddin ap Dafydd a heno aiff yr awdur â ni ar daith trwy luniau a hanesion i rai o’r meysydd cad a geir yn y llyfr (a fydd ar werth yma gan Llên Llŷn am £5.95).
31 Mawrth Vivian Parry Williams: Elis o’r Nant, Cynrychiolydd y Werin,
y cymeriad hynod o ardal Dolwyddelan yn Eryri.
28 Ebrill Eryl Owain: Mynydda yng Nghymru
Yn ddiweddar cyhoeddwyd Copaon Cymru, cyfrol ysblennydd Clwb Mynydda Cymru, dan olygyddiaeth y siaradwr.
26 Mai Y DDARLITH FLYNYDDOL
gan Adam Price, AC, Dinefwr:
“Cymru — Trefedigaeth Gyntaf Lloegr, a’r Olaf.”
Llywydd: Liz Saville Roberts, AS
5, 7-12 Awst Buom ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ynys Môn.
30 Awst Gwasg Y Lolfa yn cyhoeddi Meddyginiaethau Gwerin
Cymru (Anne Elizabeth Williams).
15 Medi COFIO GLYNDWR
Dafydd Glyn Jones: “Ystyried Lloyd George”
29 Medi CYFLWYNO BRO
Dei Tomos yn cyflwyno Dyffryn Gwyrfai trwy gymorth lluniau
27 Hydref Llion Jones: “Ar Daith gydag ef ei hun: Golwg ar ddyddiaduron
taith T.H. Parry-Williams.”
24 Tachwedd Wyn Thomas: “Gwragedd ym myd cerddoriaeth Cymru”.
8 Rhagfyr COFIO LLYWELYN:
Neil Johnstone: “Archaeoleg Llysoedd Llywelyn yng Ngwynedd”.
CYFEILLION EBAN
17 Ionawr Nes Draw (Mererid Hopwood)
21 Chwefror Canlyn Arthur (Saunders Lewis)
21 Mawrth Ynys y Trysor (R. Lloyd Jones)
18 Ebrill Ffwrneisiau (Gwenallt)
16 Mai Llywelyn Fawr (Thomas Parry)
Medi Taith yng ngofal Dawi Griffiths i Landdeiniolen a Bethel,
bro W.J. Gruffydd, a swper yn Nhafarn Niwbwrch, Bontnewydd
17 Hydref Drych yr Amseroedd (Robert Jones, Rhos-lan)
21 Tachwedd Cerddi Eryri (Gol. Carneddog)
12 Rhagfyr Llyfr Mawr y Plant (J.O. Williams a Jennie Thomas)
GARDDIO
Fel arfer byddwn yn anelu at fore Sadwrn cyntaf y mis o Chwefror hyd at fis Tachwedd gan ddibynnu ar y tywydd. (O 9 tan hanner dydd. Ceir te ddeg.) Croeso cynnes i wirfoddolwyr newydd ond fe’u cynghorir i gysylltu ymlaen llaw rhag ofn y bydd y trefniadau wedi eu newid. (01286 660 655)
Gadael Ymateb Diddymu ymateb
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.