Utgorn Cymru 88
Utgorn Cymru: Rhif 88 |
|
Gaeaf 2017 |
|
|
|
Cyflwynydd: Morgan Jones |
|
|
Tribannau rhybuddiol |
Ychwaneg o sgwrs TEGWYN JONES ar y tribannau sydd, y tro hwn, yn sôn am y defnydd wnaed o’r mesur i adrodd am helyntion gwleidyddol Cymru ac i ymysod ar wendidau moesol ac arferion drwg ei phobl. |
Edmund Hyde Hall |
GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn-archifydd Gwynedd, gyda dadleniad hynod a diddorol am gyfrol Saesneg am yr hen sir Gaernarfon a gyhoeddwyd ym 1811. |
Gwas yn Llŷn |
Ail ran sgwrs ddifyr HARRI PARRI a TREFOR JONES am atgofion dyn ifanc a fu’n was ffarm yn Llŷn ac yn filwr yn y Rhyfel Mawr. |
Y Calendr |
DAWI GRIFFITHS, Cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn sôn am yr amrywiol weithgareddau sydd wedi eu trefnu ar gyfer Gwanwyn 2017. |
Y Mab Darogan |
Yr olaf o sgyrsiau JOHN DILWYN WILLIAMS ar y ffordd y derbyniwyd Harri Tudur fel y Mab Darogan Cymreig, ‘achubudd ein pobl’. |
Seisnigo Cyfenwau |
BRANWEN JARVIS yn trafod y ffordd y newidiwyd ac y Seisnigwyd yr hen ffordd Gymreig o arfer cyfenwau. |
Pa Hanes? |
O Sêt y Gornel mae GERAINT JONES yn tynnu sylw at y diffygion echrydus sydd yn bodoli yn y modd y dysgir hanes yn ysgolion Cymru ac am yr ymgyrch sydd ar droed i geisio unioni’r sefyllfa. |
Llew Llwydiarth y Derwydd |
WILLIAM OWEN, Borth-y-gest gyda mwy o hanes yr anfarwol Lew Llwydiarth o Fôn a’r tro hwn yn rhoi sylw i’w briod faes fel bardd a derwydd gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Môn. |
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn
Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r
ddolen barhaol.