2016

Trefnir cyfarfodydd Ein Gwir Hanes ar y Sadwrn, y cyfarfodydd diwylliannol ar nosweithiau Gwener a Chyfeillion Eban ar drydedd nos Fawrth y mis.

EIN GWIR HANES

Pawb i ddod â thamaid o fwyd.    Mynediad rhad.

13 Chwefror 2016  (Sadwrn) 10.30 – 2.30

  EIN GWIR HANES (9):   Teyrnas yr Hen Bowys

  Myrddin ap Dafydd  a’r Athro Peredur Lynch yn dilyn trywydd

  Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen. Mae’r stori arwrol am ddewrion y ffin yn

 amddiffyn hyd angau dir Cymru yn erbyn gelynion rheibus yn hanes y dylai pob

 Cymro a Chymraes ei wybod.           Llywydd:  Tecwyn Ifan.

14 Mai 2016 (Sadwrn) 10.30 – 2.30

  EIN GWIR HANES (10):  Cilmeri – Ai Celwydd?

         Y Prifardd Ieuan Wyn a Geraint Jones

15  Hydref  2016 (Sadwrn)  10.30 – 2.30

        EIN GWIR HANES (11):  TAITH YR IAITH 1800 – 1900.

Yr Athro Robert Owen Jones, Abertawe, awdur y gyfrol Hir Oes i’r Iaith, a

Dr Simon Brooks, awdur Pam na fu Cymru?

 

26 Tachwedd (dydd Sadwrn) 1 – 4 o’r gloch.

Cyfarfod Arbennig a Phwysig:

       DYSGU HANES I’N PLANT –  PA HANES ?

       Dr. Elin Jones, hanesydd; Eryl Owain, cyn-athro hanes

              Llywydd: J. Dilwyn Williams, hanesydd ac archifydd

       Trafodwyd y diffyg dysgu Hanes Cymru yn ein hysgolion.

CYFARFODYDD DIWYLLIANNOL 2016

Trefnir y Cyfarfodydd Diwylliannol AR NOS WENER OLAF Y MIS o hyn ymlaen.           Dechreuir am 7 o’r gloch oni nodir yn wahanol.  Y tâl mynediad: £2.

26 Chwefror       William Owen, Borth-y-Gest:   Llew Llwydiarth Y Llew Frenin

18 Mawrth (y 3edd wythnos oherwydd Gŵyl y Pasg)

                             Dr. Robyn Lewis:    Merched, Llenyddiaeth a’r Gyfraith  

29 Ebrill              Wil Aaron:   Poeri i lygad yr eliffant.  (+ lluniau/ffilm)

17 Mehefin         DARLITH FLYNYDDOL UTGORN CYMRU 2016:                               

                           Dr. Dewi Evans, Coleg y Brifysgol, Dulyn:   Canmlwyddiant 

                           Gwrthryfel y Pasg  

24 Mehefin (Nos Wener)

CYNGERDD PEN-BLWYDD 10 Yn Neuadd  Bentref  Clynnog  Fawr am 7 o’r gloch.

Artistiaid:                  Arfon Gwilym                                    Sioned Webb                                     Mair Tomos Ifans                            Mari Gwilym                          

                                   Cwmni Drama’r Ganolfan yn cyflwyno                           

                                  Ranterliwt newydd sbon Geraint Jones:                                        

                                  “Arwisgiad 2019?”                         

                                   Cadeirydd: Dr Diane Jones                                                                    

Tocynnau £5 yr un i’w harchebu ymlaen llaw.

 

TYMOR YR HYDREF:

16 Medi                GŴYL GLYNDŴR:  E. Gwynn Matthews:  JAC GLAN-Y-GORS.

30 Medi              Karen Owen yn cyflwyno BRO DYFFRYN NANTLLE 

28 Hydref           Helen Williams Ellis, Glasfryn: CATRIN O FERAIN.

25 Tachwedd     Dr Iwan Edgar: William Salesbury

9 Rhagfyr           COFIO LLYWELYN: Myrddin ap Dafydd:

                           Gwrthryfel Llywelyn Bren (1316).

Ar 8 Hydref (Sadwrn) —11.00 – 3.30 yp. trefnodd Cyfeillion Llên gyfarfod llenyddol yma (Ysg. Gwen Gruffudd):  Yr Athro Gerwyn Williams (Bangor), ‘Cynan a’r Rhyfel Mawr’,  Dr Huw Walters (Aberystwyth), ‘Myfyr Morganwg a Gorsedd y Maen Chwŷf’. Cost y ddwy ddarlith oedd £10, yn cynnwys cinio bwffe.

CYFEILLION EBAN

Criw hwyliog a chyfeillgar sy’n cyfarfod yn rheolaidd am saith o’r gloch ar y drydedd nos Fawrth o’r misoedd canlynol i drafod llyfrau. Beth am ymuno â ni mewn awyrgylch anffurfiol a chael panad-a-chacan yn ogystal â joch o ddiwylliant?  Bydd croeso cynnes iawn yn eich disgwyl, ac os cewch chi hi’n anodd cael gafael ar y llyfr a drafodir, byddwn fel rheol yn cael cyflenwad o Lyfrgell y Sir.

16 Chwefror        Pennod o Hanes Cymru (John Davies)

15 Mawrth           Rhywbeth yn Trwblo (Gol. Dafydd Glyn Jones)

19 Ebrill              Broydd Cymru 9: Dyffryn Conwy (Eryl Owain)

17 Mai                  Gŵr Pen-y-bryn (E. Tegla Davies)

18 Hydref           Ac yna clywodd sŵn y môr (Alun Jones)

15 Tachwedd     Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr (Gruffydd Aled Williams)

UTGORN CYMRU

Cyhoeddir ein cylchgrawn llafar 4 gwaith y flwyddyn.

 GARDDIO

1-4 Gorffennaf   1.30 – 4.00 Yn rhan o’r DATHLU 10 bu’r Ardd yn agored, darparwyd paned ac  arddangosfa.

Anelwn  at fore Sadwrn cyntaf y mis o Chwefror hyd at fis Tachwedd. (O 9 tan hanner hanner dydd. Ceir te ddeg.) Croeso cynnes i wirfoddolwyr newydd ond fe’u cynghorir i gysylltu ymlaen llaw rhag ofn y bydd y trefniadau wedi eu newid.              (01286 660 655)