2012

17 Ionawr       anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

15 Chwefror   anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

28 Chwefror  Moto Coch

Eleni dathlwyd canmlwyddiant sefydlu un o gwmnïau bysus enwocaf Cymru, Clynnog & Trefor (Moto Coch) a bu Geraint Jones yn adrodd ei hanes trwy gymorth canrif o luniau ac yn cofio rhai o gymeriadau rhyfeddol y sefydliad unigryw hwn.  Tâl mynediad £1.

15 Mawrth   anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

28 Mawrth  Yr hen ffilm Noson Lawen

Wil Aaron a’r Dr Meredydd Evans yn cyflwyno a thrafod yr hen ffilm arloesol hon a Merêd ei hun yn chwarae rhan amlwg ynddi gydag enwogion fel Bob Tai’r Felin, y Co Bach a Thriawd y Coleg.  £1

16 Ebrill        anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

25 Ebrill        Brwydr y Teulu Beasley

Cofio brwydr arloesol ac aberthol Trefor ac Eileen Beasley dros y Gymraeg hanner canrif a rhagor yn ôl a dathlu hanner canmlwyddiant darlith radio fawr Saunders Lewis, “Tynged yr Iaith. Siaradwyr: Delyth a Cynog Prys (merch ac wyr Trefor ac Eileen Beasley). Tâl mynediad £1

15 Mai           anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

16 Mai          Darlith Flynyddol Utgorn Cymru

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1962 gan Emyr Llywelyn

Darlith yn dathlu pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn hanner cant oed.  Bydd cryno-ddisg o Ddarlith 2011 ar werth am £5: “Mae’r Hogia’n y Jêl” gan yr Athro Peredur Lynch.

2 Mehefin – diwedd Gorffennaf

Arddangosfa ‘Cludiant yn Uwchgwyrfai’.

Bu dathlu canmlwyddiant y Moto Coch yn rhan ganolog o’n harddangosfa ar gludiant a theithio dros y canrifoedd yng nghwmwd Uwchgwyrfai.  Fe’i gwelwyd yn yr Ysgoldy ar brynhawniau Mercher a Sadwrn 1.45 – 4 o’r gloch a hefyd trwy drefniant ymlaen llaw i grwpiau a chymdeithasau ac ysgolion.  Cafwyd cyfle i hamddena yng Ngardd Uwchgwyrfai ar yr un pryd. Tâl Mynediad £2.

 5 Mehefin     Taith fws i ddathlu “Jiwbili” Owain Glyndŵr, yr olaf o dywysogion           cyfreithlon Cymru.

‘Can tywysog rhywiog o’r rhain,

A’u diwedd fu hyd Owain.’   (Gutyn Owain)

Taith wladgarol gan deithio ar Ein Moto Ni – y Moto Coch – i Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth lle y cafwyd sgwrs gan Eryl Owain ar Owain Glyndŵr, yna ymwelwyd â Chefn Caer, Pennal, ac Eglwys Pennal.  Pryd o fwyd wedyn yng Ngwesty’r Llew Gwyn, Machynlleth.

15 Mehefin   anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

17 Mehefin (Sul)    Pnawn yn yr Ardd

Gwahoddwyd ni gan Barc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd i ymuno â Gerallt Pennant, Bethan Wyn Jones a Bethan Gwanas yng Ngardd y Ganolfan hon i gael sgwrs am enwau planhigion, llenyddiaeth planhigion a dyfodol gerddi a chael lluniaeth ysgafn yn yr ardd.    Trefnwyd gan Gwen Lasarus a Naomi Jones.

14 Medi        COFIO GLYNDŴR

Noson yng nghwmni Dafydd Glyn Jones ac Emrys ap Iwan a’i bamffled enwog Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, sef gweledigaeth ddychanol y cenedlaetholwr mawr ym 1890 o Cymru 2012.

Ailgyhoeddwyd y gwaith hwn yn ddiweddar gan wasg Dalen Newydd yn y gyfres “Cyfrolau Cenedl”, ac yn ei ddull dihafal cawsom ragflas hefyd gan Dafydd Glyn Jones o’i fenter a’i weledigaeth yntau yn sefydlu’r wasg hollol arbennig hon.

17 Gorffennaf   anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

15 Awst           anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

15 Medi          anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

28 Medi        Cyfres Cyflwyno Bro: 

J. Dilwyn Williams yn cyflwyno ‘Hen Dref Pwllheli’ gyda chymorth lluniau.  Y noson hon cyhoeddwyd cryno-ddisg “Hanes Stad Weirglodd Fawr / Broom Hall” gan J. Dilwyn Williams. Pris £5.

15 Hydref     anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

31 Hydref    Harri a Nan Parri: Rhys Hendra Bach.

Y noson hon cyflwynwyd cryno-ddisg newydd: “Portreadau” gan Harri Parri, yn cynnwys Rhys Hendra Bach, Wili Bodwyddog, Siôn Gwerthyr, Henry Hughes Bryncir, Tom Nefyn, a llawer, llawer mwy o bobl ddiddorol eraill. Pris £5.

15 Tachwedd    anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

28 Tachwedd  Hen Alawon yng nghwmni Stephen Rees,

yr offerynnwr medrus fu’n aelod o Ar Lôg ac sydd yn awr yn ddarlithydd yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor.

11 Rhagfyr    Cofio Llywelyn

Awr o ddathlu gwladgarol Cymreig gan aelodau o’r Ganolfan hon. Lluniwyd y sgript gan Geraint Jones a’r Prifardd Ieuan Wyn. Cyflwynwyd dehongliadau o gerddi enwog a detholiadau o ryddiaith glasurol.

14 Rhagfyr   anfon Utgorn Cymru at ein haelodau

 Cyfeillion Eban (Cylch Trafod Llyfrau)

17 Ionawr       Gwen Tomos (Daniel Owen)                                                                20 Chwefror  Storïau’r Henllys Fawr (W.J. Griffith)                                              20 Mawrth    Traed mewn cyffion (Kate Roberts)                                                    17 Ebrill         Y ddrama Cymru Fydd (Saunders Lewis)                                           15 Mai            Wythnos yng Nghymru Fydd  (Islwyn Ffowc Elis)                          19 Mehefin    Rhai o gerddi R. Williams Parry dan arweiniaid Rhys ap Rhisiart 18 Medi          Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Morgannwg, 2012                                                                                                            16 Hydref      Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys (Emrys ap Iwan) yng nghwmni Dafydd Glyn Jones (cyhoeddiad diweddar Cwmni Dalen Newydd)   20 Tachwedd I Hela Cnau (Marion Eames)                                                               18 Rhagfyr    Cerddi’r Cywilydd (Gerallt Lloyd Owen) yng nghwmni’r Prifardd Ieuan Wyn.