23 Chwefror 2011 – Hen Ffilm – Llythyr o Gymru
Noson arall o ymdrin â byd y ffilm yng ngofal Wil Aaron. “Llythyr o Gymru” oedd y ffilm a ddangoswyd ganddo, sef ffilm chwarter awr a ddangosid mewn darlundai ar hyd a lled y wlad yn y 1950au i gyd-fynd â’r brif ffilm. Plentyn ysgol yn ysgrifennu llythyr i Awstralia oedd y testun a chafwyd portread o’i fywyd yn yr ysgol, gartref ac ymweliad â Phorthdinllaen. Plant ysgol Llandwrog oedd yn cymryd rhan a’r prif gymeriad yn y ffilm oedd Evie Wyn Jones.
Cafwyd cyfle hefyd i weld awdur y sgript, Dr John Gwilym Jones, yn egluro’r cefndir ar raglen a gynhyrchwyd gan Wil Aaron yn y gyfres boblogaidd Almanac. Yn ychwanegol at hyn cafwyd cydgyflwyniad gan Wil Aaron ac Evie Wyn Jones.
30 Mawrth 2011 – Meddyginiaethau Gwerin
Dr Anne Elizabeth Williams
Sgwrs am y meddyginiaethau gwerin y bu’n eu casglu dros Amgueddfa Werin Cymru
Bethan Wyn Jones
Sgwrs am Lysiau meddyginiaethol.
Ni chodwyd tâl mynediad.
27 Ebrill 2011 – R.S. Thomas – Gwladgarwr
Cyfarfod amrywiol, yng ngofal Geraint Jones, Gareth Williams (Gareth Neigwl), Morgan Jones, Robyn Lewis ac Alwyn Pritchard, yn ymdrin ag R.S. Thomas, y gwladgarwr tanbaid a digyfaddawd. Hefyd gwelwyd ffilmiau unigryw o anerchiadau dadleuol ac ymfflamychol y bardd ym Mhenyberth 1986 ac yn Eisteddfod Bro Madog 1987. Noson hwyliog a gwladgarol.
28 Ebrill 2011 – Taith i ddathlu Ein Gwir Dywysogion
dan arweiniad Y Prifardd Ieuan Wyn
8 Mehefin 2011 – Darlith Flynyddol Utgorn Cymru
Yr Athro Peredur Lynch:’Ma’r Hogia’n y Jêl’: yr ymateb i Losgi’r Ysgol Fomio A hithau’n dri chwarter canrif ers y weithred arwrol o losgi’r ysgol fomio, priodol iawn yw cael darlith i edrych ar yr ymateb yng Nghymru’r cyfnod i’r Tân yn Llŷn.
Roedd cryno-ddisg o ddarlith flynyddol y llynedd: Abergarthcelyn gan Y Prifardd Ieuan Wyn, ar werth ar y noson am £5. Mynediad £3
16 Medi 2011 – Nia Watkin Powell – Owain Glyndŵr: Arwr Cymru
28 Medi 2011 – Dr J. Elwyn Hughes yn Cyflwyno Bro Dyffryn Ogwen
Y gyntaf o gyfres flynyddol yn rhoi darlun cyflawn o fro arbennig trwy gyfrwng sgwrs a lluniau. Tâl mynediad: £1
26 Hydref 2011 – Dr Glenda Carr: Enwau Lleoedd yr Ardal Tâl mynediad: £1.
30 Tachwedd – Bleddyn Owen Huws: Carneddog (1861 – 1947) Tâl mynediad £1
DATHLIAD ARBENNIG
10 Rhagfyr 2011 – Cofio’r Llyw Olaf
Bore Sadwrn 11 – 12 o’r gloch: Awr o ddathlu gwladgarol Cymreig. Paned ar y diwedd.